Jo Stevens yw'r Ysgrifennydd Cymru 'mwyaf gwrth-ddatganoli ers 1970'

Llun yn dangos dynes efor gwallt cwta yn pwyntio bys i fyny, o flaen cefndir coch. Mae hi'n gwisgo siwt ac efo'i cheg ar agor fel ei bod hi yng nghanol siarad.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lee Waters, dyw Jo Stevens "ddim yn credu mewn datganoli"

  • Cyhoeddwyd

Jo Stevens yw'r mwyaf "gwrth-ddatganoli" o holl ysgrifenyddion Cymru Llafur ers 1970, yn ôl aelod blaenllaw o'r grŵp Llafur yn Senedd Cymru.

Dywedodd y cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru Lee Waters AS ar bodlediad Senedd Sources nad oedd Ms Stevens yn rhywun "sy'n credu mewn datganoli".

Yn y cyfamser dywedodd cyn-bennaeth swyddfa Prif Weinidog Cymru fod Ms Stevens yn "ymddangos yn ddi-glem" am Gymru.

Nid oedd Swyddfa Cymru am ymateb i'r sylwadau, ond mae Ms Stevens wedi amddiffyn record Llywodraeth y DU yng Nghymru yn y gorffennol.

Llyn yn dangos dyn yn gwenu i'r camera mewn siwt a thei.Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Lee Waters AS oedd dirprwy weinidog newid hinsawdd y llywodraeth rhwng 2012 a 2014.

Daw hyn ar adeg o densiwn rhwng rhai aelodau Llafur ym Mae Caerdydd a'u cydweithwyr yn San Steffan ar drothwy etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.

Dywedodd AS Llanelli Lee Waters fod Ms Stevens yn "enghraifft o wleidydd unoliaethol".

"Mae ei gwleidyddiaeth yn debyg i nifer yn hanes Llafur," meddai gan bwyntio at Neil Kinnock ac Aneurin Bevan fel dau arall oedd o'r un safbwynt.

"Dydyn nhw ddim yn credu y dylai fod yna wahaniaethau... mae'n safbwynt rhesymol, ond nid dyna bolisi Llafur."

Y mwyaf gwrth-ddatganoli 'ers George Thomas'

Dywedodd Mr Waters fod ganddo berthynas "gyfeillgar" gyda Ms Stevens ond mai hi "mae'n siŵr yw'r mwyaf gwrth-ddatganoli o holl ysgrifenyddion Cymru Llafur rydyn ni wedi ei gael ers George Thomas".

Y cyn-Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd George Thomas oedd Ysgrifennydd Cymru yn llywodraeth Harold Wilson rhwng 1968 a 1970.

Roedd yn wrthwynebydd blaenllaw o ddatganoli ac fe oedd llywydd yr ymgyrch 'na' cyn refferendwm 1997 ar ddatganoli i Gymru.

Roedd Waters yn un o 11 o wleidyddion Llafur ym Mae Caerdydd a ysgrifennodd at Keir Starmer yn ddiweddar yn ei gyhuddo o droi'r cloc yn ôl ar ddatganoli.

Fe dynnodd y llythyr sylw o'r newydd at densiynau o fewn i Lafur Cymru cyn etholiad nesa'r Senedd, gyda'r arolygon barn yn awgrymu y gallai cyfnod hir Llafur wrth y llyw yng Nghymru ddod i ben ym mis Mai.

Mynnodd Waters fod y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn "llawer gwell" nawr o'i chymharu â phan roedd y Ceidwadwyr mewn grym yn San Steffan ac ychwanegodd y "byddwn ni'n amlwg yn dod at ein gilydd wrth i'r etholiad agosáu".

Jo Stevens Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mewn erthygl i wefan Nation Cymru, dywedodd cyn-bennaeth swyddfa Prif Weinidog Cymru, Des Clifford fod Llywodraeth y DU yn "cymryd Cymru'n ganiataol".

Ychwanegodd Clifford, oedd hefyd yn arfer gweithio i Lywodraeth y DU, fod Syr Keir Starmer wedi "gwthio ar Gymru yr ysgrifennydd gwladol gwaethaf ers John Redwood".

"Mae Jo Stevens yn ymddangos yn ddi-glem am y wlad y mai ei henw ar ddrws ei swyddfa. Does dim llais credadwy i Gymru yn Llywodraeth y DU," meddai.

"Does dim argoel bod gan Lywodraeth y DU unrhyw ddiddordeb yng Nghymru nac hyd yn oed barch sylfaenol iddi."

Ar ymweliad diweddar â Chaerdydd dywedodd Keir Starmer ei fod yn "gredwr mawr mewn datganoli".

'Cael mwy i Gymru, nid llai'

Mae un AS Llafur Cymru wedi dweud bod Llywodraeth Llafur Prydain yn darparu buddsoddiad sylweddol yng Nghymru a bod "unrhyw awgrym i'r gwrthwyneb yn gwbl hurt".

"Rydym wedi cyhoeddi'r buddsoddiad cyhoeddus mwyaf yn hanes Cymru gyda thri adweithydd modiwlar bach yn Wylfa, ac rydym wedi rhoi grymoedd a thros hanner biliwn o bunnau i Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Twf Lleol.

"Mae hynny ar ben bron i hanner biliwn o bunnau ar gyfer y rheilffyrdd a channoedd o filiynau ar gyfer diogelwch tomenni glo.

"Ni fyddai dim o hyn wedi digwydd heb Jo Stevens yn eistedd wrth fwrdd Cabinet y DU, yn cyflawni dros Gymru fel Ysgrifennydd Cymru."

Ar ei hymweliad ei hun â Phort Talbot fis diwethaf, dywedodd Ms Stevens taw "fy swydd i ydy cael mwy i Gymru, nid llai".

"Rydyn ni'n gweithio dros bobl Cymru, a bydda i'n llwyr y tu ôl i Brif Weinidog Cymru Eluned Morgan wrth i ni nesáu at yr etholiad y flwyddyn nesaf," ychwanegodd.