Ysgrifennydd Cymru yn mynnu ei bod yn gefnogol o'r Gymraeg ar ôl beirniadaeth

"Yn fy etholaeth i, yr etholaeth fwyaf amrywiol yng Nghymru gyfan, mae'n bwysig bod pobl yn gallu cyfathrebu â fi yn y ffordd maen nhw eisiau," meddai Jo Stevens
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru Jo Stevens wedi mynnu ei bod hi'n gefnogol o'r Gymraeg yn dilyn beirniadaeth o'i hagwedd "ddeinosoraidd" tuag at yr iaith.
Daeth i'r amlwg yn gynharach yn y mis fod Ms Stevens, yr AS dros Ddwyrain Caerdydd, yn cyfathrebu yn uniaith Saesneg ar daflenni etholaeth ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mewn ateb i lythyr gan aelod o'r cyhoedd, dywedodd fod "y Gymraeg yn un o'r nifer fawr o ieithoedd a siaredir" yn yr etholaeth.
Ychwanegodd bod "bron pob etholwr yn siarad Saesneg" ac "nid oes gofyn statudol ar Aelodau Seneddol i ddarparu cyfathrebiadau dwyieithog (Saesneg a Chymraeg)".
Roedd hyn yn "ddeinosoraidd", yn ôl Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd dros Blaid Cymru.
Agwedd Ysgrifennydd Cymru at y Gymraeg yn 'ddeinosoraidd'
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025
'Gwarthus' a 'digalon' nad yw Ysgrifennydd Cymru yn cyfathrebu'n Gymraeg fel AS
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
"Rwy'n credu bod angen i ni wahaniaethu rhwng fy rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru a fy rôl fel AS Llafur ar gyfer Dwyrain Casnewydd," meddai Ms Stevens ar ymweliad â Phort Talbot dydd Iau.
"Fel Ysgrifennydd Cymru, mae gan Lywodraeth y DU bolisi ar ddefnydd yr iaith Gymraeg ar draws y llywodraeth.
"Fi sy'n gyfrifol am sicrhau bod hwnnw'n cael ei gyflawni, ac rydw i'n gwneud hynny.
"Gall pobl ddarllen adroddiad blynyddol Swyddfa Cymru, sy'n dangos sut rydyn ni wedi cyflawni ar y polisi hwnnw ar draws Lywodraeth y DU, yn darparu gwasanaethau dwyieithog ar gyfer pobl Cymru."
'Rwy'n deall ei phwysigrwydd'
Ychwanegodd ei bod hi'n cynrychioli "un o'r etholaethau mwyaf amrywiol yng Nghymru".
"Rydw i eisiau bod yn AS sy'n ymateb, bod yn eglur a bod o gymorth, a dyna'r hyn rwy'n ceisio gwneud, trwy ymateb i ymholiadau a phryderon pobl yn sydyn.
"Felly rwy'n cefnogi'r iaith.
"Rwy'n deall ei phwysigrwydd, ond yn fy etholaeth i - yr etholaeth fwyaf amrywiol yng Nghymru gyfan - mae'n bwysig bod pobl yn gallu cyfathrebu â fi yn y ffordd maen nhw eisiau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.