Agwedd Ysgrifennydd Cymru at y Gymraeg yn 'ddeinosoraidd'

Mae Jo Stevens wedi cael ei beirniadu am gyfathrebu yn Saesneg yn unig fel AS Dwyrain Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi cael ei chyhuddo o ddangos "diffyg parch rhyfeddol" ac o fod ag "agwedd ddeinosoraidd at y Gymraeg".
Roedd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru, yn cyfeirio yn y Senedd at sylwadau a wnaeth Jo Stevens wrth esbonio pam ei bod yn cyfathrebu yn Saesneg yn unig fel AS Dwyrain Caerdydd ar daflenni ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd hi wedi dweud bod "y Gymraeg yn un o'r nifer fawr o ieithoedd a siaredir" yn yr etholaeth, bod "bron pob etholwr yn siarad Saesneg" ac "nid oes gofyn statudol ar Aelodau Seneddol i ddarparu cyfathrebiadau dwyieithog (Saesneg a Chymraeg)".
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan fod y "Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae'n dda i bobl allu defnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus ac aelodau etholedig".
Mae IPSA, yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol yn San Steffan, wedi dweud wrth y BBC ei fod yn "sicrhau bod cyllid ar gael i ASau sy'n dymuno cyfieithu deunyddiau rhwng y Gymraeg a'r Saesneg".
Mae'r Blaid Lafur a Swyddfa Cymru wedi cael cais i ymateb.
'Gwarthus' a 'digalon' nad yw Ysgrifennydd Cymru yn cyfathrebu'n Gymraeg fel AS
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Eluned Morgan am arwain 'cenhedlaeth newydd' Llafur Cymru
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025
Y Gymraeg a'r Wyddeleg yn 'gallu dysgu gwersi o'i gilydd' - comisiynwyr
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2025
Yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog brynhawn Mawrth, dywedodd Cefin Campbell fod y Gymraeg "yn iaith swyddogol gyfartal yma yng Nghymru" ac yn "rhan gwbl ganolog o'n hanes, o'n diwylliant a'n hunaniaeth ni".
"Mae'n anffodus, felly, fod Jo Stevens - AS sy'n cynrychioli ein prifddinas yma yng Nghaerdydd - sydd hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac sydd i fod, mewn theori, yn cynrychioli Cymru a gwerthoedd Cymru yng Nghabinet Llywodraeth Prydain, nad yw hi'n cyd-weld â hyn, gan wrthod yn blaen i ddefnyddio'r iaith mewn gohebiaeth gydag etholwyr," meddai.
"Yn syml, mae hyn yn dangos diffyg parch rhyfeddol ac agwedd ddeinosoraidd at y Gymraeg yr o'n i'n meddwl fyddai wedi hen ddiflannu o dir Cymru erbyn hyn."

Mae gan Jo Stevens "ddiffyg parch rhyfeddol" at y Gymraeg, meddai Cefin Campbell
Gofynnodd: "Yn sgil yr agwedd negyddol hon tuag at y Gymraeg, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'w hargyhoeddi hi o bwysigrwydd ein hiaith genedlaethol mewn bywyd cyhoeddus?"
"Mae'r Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru ac mae'n dda i bobl allu defnyddio'r Gymraeg gyda chyrff cyhoeddus ac Aelodau etholedig," atebodd Eluned Morgan.
"Dwi'n rhywun, fel yr ydych chi'n ei wybod, sydd wastad eisiau annog pobl i ddefnyddio'r iaith Gymraeg, a dwi'n falch i weld bod mwy o bobl nag erioed yn dysgu Cymraeg trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol."

Mae "cyfrifoldeb arnom ni, yn arbennig fel arweinwyr, i wneud beth allwn ni i gyrraedd y nod" o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Eluned Morgan
Yn gynharach yn y cyfarfod fe wnaeth yr aelod annibynnol Rhys ab Owen godi'r un pwnc.
"Mae'r Gymraeg yng Nghaerdydd yn fwy na jest un o nifer o ieithoedd, ac mae dweud bod bron pawb yn siarad Saesneg yn hen ddadl sy'n perthyn i'r gorffennol," meddai.
"Dwi ddim yn mynd i'ch holi chi a ydych chi'n cytuno gyda'r Ysgrifennydd Gwladol - dwi'n gwybod eich bod chi ddim - ond y Nadolig yma, brif weinidog, a wnewch chi damed bach o waith cenhadu gyda'r Ysgrifennydd Gwladol?
"A wnewch chi ei holi i wneud adduned blwyddyn newydd y bydd ei gohebiaeth o nawr ymlaen yn adlewyrchu'r ffaith bod yna ddwy iaith gyda statws cyfreithiol yn y wlad yma?"
Atebodd Eluned Morgan: "Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd. Mae'n bwysig ein bod ni gyd yn deall hynny a bod yna gyfrifoldeb arnom ni, yn arbennig fel arweinwyr, i wneud beth allwn ni i gyrraedd y nod yna o filiwn o siaradwyr."
'Dim terfyn' ar gyllid sydd ar gael i gyfieithu
Mae IPSA, yr Awdurdod Safonau Seneddol Annibynnol, wedi dweud wrth y BBC ei fod yn "sicrhau bod cyllid ar gael i ASau sy'n dymuno cyfieithu deunyddiau rhwng y Gymraeg a'r Saesneg".
"Nid oes terfyn ar faint o gyllid sydd ar gael; fe'i dosbarthir fel taliad wrth gefn ac mae ar wahân i gostau swyddfa a chyllidebau staffio ASau," meddai IPSA.
Roedd Jo Stevens hefyd wedi dweud yn yr e-bost mai "Saesneg yw iaith waith Senedd y DU".
Dywedodd llefarydd ar ran Senedd y DU wrth y BBC: "Caniateir defnyddio'r Gymraeg ym mhob pwyllgor dethol a'r uwch-bwyllgor Cymreig."
"Yn unol â'r safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg, nod y Senedd o ran defnyddio'r Gymraeg yw sicrhau nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na siaradwyr Saesneg wrth ddefnyddio ein gwasanaethau.
"Er enghraifft, mae siaradwyr Cymraeg yn gallu anfon ymholiadau i Dŷ'r Cyffredin yn y Gymraeg a derbyn ymatebion yn y Gymraeg."
Mae polisi iaith Gymraeg Senedd y DU hefyd yn cwmpasu darpariaeth gwasanaethau yn y Gymraeg i ymwelwyr, ysgolion a grwpiau cymunedol.