Martin Clunes yn chwarae rhan Huw Edwards mewn drama newydd

Actor Martin Clunes fel y cyflwynydd BBC, Huw EdwardsFfynhonnell y llun, 5 Broadcasting Limited / Paramount / Wonderhood Studios/ PA
Disgrifiad o’r llun,

Martin Clunes sy'n portreadu'r cyn-gyflwynydd BBC, Huw Edwards, yn y gyfres ddwy ran

  • Cyhoeddwyd

Martin Clunes, seren y gyfres deledu Doc Martin, fydd yn chwarae rhan Huw Edwards, y cyn-gyflwynydd BBC, mewn drama deledu newydd.

Bydd y gyfres ffeithiol ddwy ran - sydd â'r teitl dros dro Power: The Downfall of Huw Edwards - yn adrodd sut i un o ffigyrau mwyaf adnabyddus teledu Prydain ddod yn rhan o sgandal proffil uchel, a derbyn dedfryd o garchar wedi ei ohirio.

Ag yntau wedi dechrau ei yrfa yn Gymraeg yng Nghymru, aeth Edwards ati i ddod yn un o'r newyddiadurwyr oedd yn cael ei dalu fwyaf gan y darlledwr cyhoeddus, wrth iddo gyflwyno rhaglen News at Ten y BBC am ddegawdau.

Yn ystod y cyfnod yna, darlledodd ar rai o straeon mwyaf Prydain dros y blynyddoedd diweddar, gan gynnwys marwolaeth Brenhines Elizabeth II, cyn pledio'n euog i greu delweddau anweddus o blant ym mis Gorffennaf 2024.

Bydd Clunes yn portreadu'r newyddiadurwr o Langennech, Sir Gâr yn y gyfres gan Channel 5, a fydd yn adrodd sut i'r sgandal ddod i lygad y cyhoedd, ac yn cynnwys cyfweliadau gan y rheiny a adroddodd ar y stori gyntaf.

Meddai Ben Frow, prif swyddog cynnwys Channel 5: "Mae hon yn stori bwysig a brawychus am sut y gwnaeth dyn mewn safle o bŵer ac ymddiriedaeth, fradychu'r statws hynny.

"Rydyn ni'n edrych ar y gost ddynol tu ôl i'r penawdau, drwy sgyrsiau ecsclwsif gydag unigolion allweddol a'r rheiny a ymchwiliodd i'r stori."

Huw EdwardsFfynhonnell y llun, Heddlu'r Met
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio ym mis Medi 2024

Daeth gyrfa Edwards i ben dan gwmwl ar ôl i adroddiad gan bapur newydd The Sun ym mis Gorffennaf 2023 honni fod "seren BBC" wedi talu person yn ei arddegau am luniau o natur rywiol.

Ddyddiau yn ddiweddarach, cafodd ei enwi gan ei wraig fel y cyflwynydd wrth galon y sgandal, ac ymddiswyddodd y newyddiadurwr fis Ebrill.

Ym mis Mehefin 2024, yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu'r Met, cafodd ei gyhuddo o dri achos o greu lluniau anweddus o blant fel rhan o sgwrs ar WhatsApp gyda dyn o'r enw Alex Williams.

Plediodd Edwards yn euog i'r cyhuddiadau fis yn ddiweddarach, a chyfaddef fod ganddo 41 llun ar WhatsApp, gan gynnwys saith o'r math mwyaf difrifol.

Derbyniodd ddedfryd o chwe mis o garchar, wedi ei ohirio am ddwy flynedd, a'i roi ar gofrestr troseddwyr rhyw am saith mlynedd.

Cafodd Williams, o Ferthyr Tudful, ei ddedfrydu i flwyddyn o garchar wedi ei ohirio.

Bydd y gyfres newydd yn cael ei chyfarwyddo gan Michael Samuels, sy'n adnabyddus am y dramâu The Windermere Children ac Any Human Heart.