Nid datganoli rheilffyrdd yw'r ffordd ymlaen, medd Gweinidog

Fe fydd trenau sy'n gallu rhedeg ar drydan, batri a disel yn cael eu defnyddio ar linell rheilffordd Cwm Rhymni, gan gymryd lle'r math o drên yn y llun uchod
- Cyhoeddwyd
Mae un o weinidogion Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw hi eisiau datganoli'r rheilffyrdd am nad yw hi'n credu mewn ymwahanu.
Dywedodd y Gweinidog Cyflawni, Julie James, eu bod nhw'n dadlau'r achos dros drydanu pellach.
Daeth ei sylwadau wrth i'r llywodraeth a Thrafnidiaeth Cymru nodi'r ffaith bod trenau newydd yn cael eu cyflwyno ar linell Cwm Rhymni. Mae'r trenau yn gallu rhedeg ar drydan, batri a disel - sy'n golygu nad oes rhaid gwneud gymaint o waith i addasu isadeiledd fel twneli.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru bydd modd cario mwy o deithwyr gan leihau amseroedd aros yng ngorsaf Caerdydd Canolog - yn enwedig yn ystod digwyddiadau mawr.

Gethin Jones, Trafnidiaeth Cymru
Mae 99% o'r Metro bellach wedi ei drydanu ac mae disgwyl i'r rhan olaf i Fae Caerdydd gael ei gwblhau yn fuan yn 2026.
Mae trenau trydan eisoes yn rhedeg ar rhai llinellau o ganlyniad i'r buddsoddiad gwerth dros biliwn o bunnau.
'Bydd trenau yn perfformio yn well'
Yn ôl Gethin Jones, swyddog materion cyhoeddus gyda Thrafnidiaeth Cymru, mae'r datblygiad diweddaraf yn "gam sylweddol".
"Be' fydd o'n ei olygu yn yr hir dymor yw y bydd trenau yn rhedeg ac yn perfformio'n well na'r hen fflyd a hefyd mae'r cwsmeriaid yn gweld gwelliannau enfawr o ran pa mor gyfforddus ydy'r trenau a faint o le sydd gyda ni ar fwrdd y trên," meddai.
"Felly mae'n gam sylweddol o ran beth mae pobl wedi ei weld yn draddodiadol a beth 'dan ni'n symud tuag ato fo yn y dyfodol.
"Trwy redeg trenau newydd a gwella'r orsaf yng Nghaerdydd byddwn ni'n medru gwneud hynny yn gynt, a'r gobaith ydy y bydd y system giwio yno yn dod yn un cynt a gwell."
'Dim digon o drenau ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr'
- Cyhoeddwyd4 Mai 2024
Agor canolfan £100m i geisio 'trawsnewid teithio yn y de'
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2025
Trydaneiddio rheilffyrdd y gogledd ddim yn flaenoriaeth - gweinidog
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
Dywedodd Julie James AS, Gweinidog Cyflawni yn Llywodraeth Cymru, fod eu buddsoddiad yn cynnig gwerth am arian.
"Dwi wrth fy modd ein bod ni wedi gallu buddsoddi gymaint mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn enwedig yn llinellau rheilffyrdd y cymoedd," meddai.
"Mae hyn yn helpu Caerdydd i barhau i fod yn un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflyma' yn Ewrop ac yn sicrhau system drafnidiaeth fodern ar gyfer y brifddinas a'r ardal ehangach."

Bu'n rhaid i Karen Jones o Ferthyr roi'r gorau i weithio yng Nghaerdydd oherwydd anhawster teithio i Gaerdydd ar y trên
Mae niferoedd teithwyr yn parhau yn is nag oedden nhw cyn Covid - gyda gwaith ar y rheilffyrdd a mwy o bobl yn gweithio gartref yn cyfrannu at hynny.
Fe wnaeth Karen Jones o Ferthyr roi'r gorau i'w swydd yng Nghaerdydd oherwydd problemau wrth deithio i'r gwaith ar y trên.
"Byddai teithio 25 milltir lawr y ffordd weithie'n cymryd dwy awr a hanner," esboniodd.
"O'n i methu cyrraedd gwaith mewn pryd felly roies i'r gorau i fy swydd. Mae pethau lot gwell nag oedden nhw ond fe ddy'sen nhw fod hefyd gyda'r holl arian sy'n cael ei wario."

Mae Rhys Lewis yn teithio o Rymni i Gaerdydd i weithio
Mae Rhys Lewis o Rymni yn cytuno gyda Karen Jones: "Mae rhai o'r gwasanaethau yn cael eu canslo ar y funud olaf felly mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd dod mewn i Gaerdydd i'r gwaith.
"Ac wedyn yn y nosweithiau mae'r trenau ola'n gorffen tua 22:30 felly mae'n rhaid i chi gael tacsi i fynd adref sy'n ddrud iawn."
Mae eraill, fel Alex Bailey o Gwm Rhondda'n teimlo fod pethau'n gwella.
"Mae dipyn yn haws gyda'r drefn talu tapio ymlaen. Mae'r trenau newydd yn welliant mawr ar yr hen rai.
"Mae'r trenau'n dod yn amlach ac maen nhw'n fwy dibynadwy. Maen nhw wedi gwario lot ond mae e werth e," meddai Mr Bailey.
Trydaneiddio'r holl linell yn 'synhwyrol'
Mae'r newyddiadurwr Rhodri Clark yn arbenigo mewn trafnidiaeth. Mae'n dweud bod Caerdydd wedi achub y blaen ar ddinasoedd mwy fel Bryste ond mae'n teimlo rhwystredigaeth nad oedd modd trydanu yn llwyr.
"Mewn unrhyw wlad arall y peth synhwyrol fyddai trydaneiddio'r holl linell fel bod dim ond angen offer trydan ar y trên," meddai.
"Gan fod hanner y llinell wedi ei ddatganoli a hanner ddim does 'na ddim polisi o drydaneiddio'r holl lwybr felly 'dan ni'n gorfod talu cost lot yn uwch i gael injans disel yn y trenau a'r costau tanwydd a chostau cynnal a chadw sydd ynghlwm â hynny."

Mae Julie James yn dweud ei bod eisiau gweithio "o fewn y Deyrnas Gyfunol"
Mae gwario ar reilffyrdd wedi bod yn bwnc dadleuol gyda Phlaid Cymru yn arbennig yn dadlau y dylai Cymru gael biliynau o bunnau yn sgil cynllun HS2. Fe gafodd y cynllun hwnnw ei ddynodi'n un i Gymru a Lloegr er na fydd unrhyw ran o'r rheilffordd yn cael ei hadeiladu yr ochr yma i'r ffin.
Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai'r trysorlys yn rhoi £300 miliwn tuag at adeiladu gorsafoedd newydd yn ardal Caerdydd a Chasnewydd rhwng 2026 a 2030 ac y byddai gwaith yn digwydd i gynyddu capasiti yn y gogledd.
Fe gyhoeddodd hi hefyd y byddai £48 miliwn arall ar gael ar gyfer y Metro.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n dal i wthio am drydaneiddio pellach ond yn mynnu nad datganoli'r rheilffyrdd yw'r ateb.
'Dwi ddim yn credu mewn ymwahanu'
"Dwi ddim yn siŵr ein bod ni eisiau hynny (datganoli'r rheilffyrdd)," meddai Julie James.
"Beth sydd ei angen yw cael y fformiwla ariannu yn gywir a'r trefniadau yn eu lle fel bod gyda ni lais cryf i ddadlau dros beth sydd ei angen ar Gymru. Mae gyda ni berthynas dda iawn gyda Llywodraeth y DU pan ddaw hi i drafod buddsoddi mewn gorsafoedd.
"Dwi ddim yn credu mewn ymwahanu. Dwi eisiau gweithio o fewn y Deyrnas Gyfunol. Mae'n bwysig iawn i fi fod llinell GWR yn mynd yr holl ffordd i Lundain yn ddi-dor. Dwi ddim eisiau iddo fe weithio hyd at y ffin yn unig.
"Pe byddech chi'n datganoli isadeiledd rheilffyrdd i Gymru fe fyddai'n rhaid i chi fod yn siŵr fod yr arian sydd ei angen ar gyfer hynny yn dilyn. Dwi'n poeni'n fawr a fyddai hynny'n digwydd fel un taliad."
Mae Trafnidiaeth Cymru'n dweud y bydd gwelliannau i orsaf Heol y Frenhines yng Nghaerdydd yn 2027 a chyflwyno trenau tram ar linellau Merthyr, Aberdâr a Threherbert y flwyddyn nesa yn gwella gwasanaethau ymhellach gyda hyd at 12 trên yn pasio drwy Bontypridd bob awr.
Maen nhw'n dweud bod niferoedd teithwyr yn cynyddu wrth i wasanaethau wella.
Unwaith bydd y trenau tri-mode yn dechrau rhedeg ar linell Cwm Rhymni fe fydd trenau newydd yn cael eu cyflwyno ar linellau Glyn Ebwy, Cheltenham a Maesteg.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ei fod yn "gyfaddefiad anhygoel" nad yw'r blaid Lafur yng Nghymru eisiau gweld rheilffyrdd wedi'u datganoli, gan ddadlau nad yw San Steffan "erioed wedi ein trin yn deg, ac ni fydd byth yn gwneud hynny chwaith".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.