Arestio tri ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn ffrae yn Nhredegar

Stryd y CastellFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu Gwent eisiau siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Stryd y Castell rhwng 01:00 a 02:00 fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae tri dyn o Dredegar wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn adroddiad am ffrae yng nghanol tref Tredegar.

Dywedodd yr heddlu bod ymholiadau cynnar yn dangos bod y dioddefwr, dyn 36 oed o Dredegar, wedi bod yn rhan o ffrae gorfforol rhwng nos Wener o tua 22:00 ac oriau mân fore Sadwrn, tua 02:00.

Mae'r dynion, 18, 19 a 51 oed, yn parhau yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Ychwanegodd yr heddlu fod teulu'r dioddefwr yn derbyn cefnogaeth ac maent yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Robin Fuller fod yr ymchwiliad yn y "camau cynnar" a mynegodd ei gydymdeimladau gyda theulu'r dioddefwr.

"Rydym yn gweithio i sefydlu'r amgylchiadau llawn ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn siarad ag unrhyw un a oedd yn ardal Stryd y Castell, gyferbyn â Gwesty'r Castell a Gemwaith Jem, rhwng 01:00 a 02:00 fore Sadwrn.

"Mae ein swyddogion yn aros yn ardal Tredegar wrth iddynt barhau i gasglu tystiolaeth ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu wybodaeth, yna siaradwch â nhw."

Pynciau cysylltiedig