Rhyddhau pump ar fechnïaeth wedi'r anhrefn ar ôl gêm Cwpan Cymru

Y NevillFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r pum person a gafodd eu harestio wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd

Mae pum person a gafodd eu harestio, yn dilyn digwyddiad ar ôl gêm Cwpan Cymru rhwng Y Fflint a Bangor 1876 ddydd Sadwrn, wedi'u rhyddhau ar fechnïaeth.

Ddydd Sul dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod wedi cael eu galw i ddigwyddiad o anhrefn difrifol yn cynnwys nifer fawr o bobl y tu allan i dafarn y Nevill ar Stryd Vaughan, ger yr orsaf drenau yn Llandudno am 15:59.

Cafodd pum person eu harestio ar amheuaeth o droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, achosi niwed corfforol ac ymosod ar weithiwr brys.

Dywedodd y llu bod eu hymchwiliad yn parhau, eu bod yn adolygu lluniau CCTV o'r digwyddiad a'u bod yn annog pobl sydd â fideo o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bangor 1876 eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad yn ymwneud â chadeirydd y clwb a gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru eu bod yn "ymwybodol o adroddiadau am anhrefn honedig yng nghanol tref Llandudno yn dilyn diwedd y gêm".

'Dim lle i drais mewn pêl-droed'

"Rydym yn deall bod y mater yn destun camau gweithredu gan Heddlu'r Gogledd, felly ar hyn o bryd nid ydy'r clwb yn gallu gwneud sylwadau pellach," meddai Bangor 1876.

Ychwanegodd y llefarydd fod y clwb "wedi sefydlu polisïau a gweithdrefnau i fynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n codi a bydd yn dilyn y prosesau hynny os bydd angen".

"Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu os a phan fo hynny'n briodol, a hyd at hynny ni fydd y clwb yn gwneud unrhyw sylwadau pellach."

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod y gêm wedi cael ei chwarae heb "ddigwyddiad".

"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymwybodol o adroddiadau am anhrefn honedig yng nghanol tref Llandudno yn dilyn diwedd y gêm.

"Er bod hyn y tu allan i awdurdodaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, bydd y gymdeithas yn cefnogi ymchwiliad Heddlu'r Gogledd os oes angen.

"Roedd rownd gynderfynol Cwpan JD Cymru ei hun yn ddigwyddiad cadarnhaol i bêl-droed Cymru.

"Nid oes lle i drais mewn pêl-droed ac mae'n niweidio'r profiad cadarnhaol y mae'r mwyafrif yn ei fwynhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.