Pryder y gallai etholwyr gael eu twyllo gan luniau ffug o wleidyddion

Llun o liniadur a ffon symudolFfynhonnell y llun, Getty Images
GanDaniel Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad gan BBC Cymru wedi darganfod bod nifer o dudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhannu newyddion ffug am wleidyddion y Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio lluniau sy'n defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI).

Mae cwmni technoleg Meta wedi tynnu nifer o dudalennau o Fietnam oddi ar Facebook wedi i'r ymchwiliad ddarganfod eu bod nhw'n rhannu newyddion ffug.

Ychydig fisoedd cyn etholiadau Cymru a'r Alban ym mis Mai, mae'r Comisiwn Etholiadol yn datblygu meddalwedd er mwyn darganfod a delio gyda lluniau a fideos ffug.

Fe wnaeth y BBC hefyd ddarganfod fideos ffug a gafodd eu creu yng Nghymru drwy ddefnyddio AI, oedd yn rhoi'r argraff ar gam fod un gwleidydd yn cefnogi person o blaid arall, a gwleidydd arall yn cusanu cydweithiwr.

Mae nifer o wleidyddion o Gymru wedi rhannu eu profiadau ar ôl i luniau neu fideos ffug gael eu creu ohonyn nhw.

"Dydw i ddim yn credu y byddech chi'n dod o hyd i wleidydd sydd heb wynebu hyn... mae dweud hynny yn gwneud i fi deimlo'n eithaf trist," meddai'r Aelod Seneddol Llafur, Alex Davies-Jones.

Beth yw delwedd ffug neu 'deepfake'?

Delwedd ffug neu 'deepfake' yw fideos, lluniau neu glipiau sain sydd wedi cael eu newid neu eu trin er mwyn rhoi'r argraff bod rhywbeth ffug wedi digwydd.

Gallai rhai o'r delweddau hynny gael effaith ar enw da unigolyn.

Mae technoleg AI yn golygu ei bod hi'n haws nag erioed i greu delweddau ffug.

Lluniau ffug o Boris Johnson, Zia Yusuf a Nigel Farage
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymchwiliad y BBC ddarganfod lluniau ffug o Fietnam o'r gwleidyddion Boris Johnson, Zia Yusuf a Nigel Farage oedd yn rhoi'r argraff eu bod nhw yn yr ysbyty

Fe wnaeth BBC Cymru ddarganfod nifer o dudalennau Facebook oedd yn cyhoeddi newyddion ffug am wleidyddion y DU, oedd yn aml yn cynnwys lluniau a gafodd eu creu gan ddefnyddio technoleg AI.

Roedd gan y tudalennau hynny filoedd o ddilynwyr ac roedd nifer ohonyn nhw wedi cyhoeddi deunydd tebyg iawn.

Yn aml, roedd ganddyn nhw enwau oedd yn awgrymu eu bod nhw'n wasanaethau newyddion wedi eu lleoli yn y DU - ond gan ddefnyddio nodwedd ar Facebook, roedd modd gweld bod y mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu rhedeg o Fietnam.

Er bod rhai o'r straeon yn wir a chywir, roedd modd profi bod nifer fawr o'r cynnwys yn ffug.

Fe wnaeth cwmni technoleg Meta dynnu rhai o'r tudalennau o'r wefan wedi i'r BBC gysylltu â nhw, ond drwy gydol yr ymchwiliad cafodd tudalennau newydd eu creu bron yn ddyddiol.

Roedd y tudalennau hynny yn aml yn dangos portreadu gwleidyddion, gan gynnwys Nigel Farage, Boris Johnson, Rishi Sunak a Zia Yusuf, yn yr un sefyllfa ffug.

Doedd dim awgrym bod y tudalennau hynny yn cael eu rhedeg gan, neu ar ran, plaid wleidyddol.

Roedd rhai o'r lluniau yn dangos ffrae ffug rhwng nifer o wleidyddion a Laura Kuenssberg
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluniau yn dangos ffrae ffug rhwng nifer o wleidyddion a'r newyddiadurwr Laura Kuenssberg

Dywedodd yr Athro Martin Innes, cyd-gyfarwyddwr y Sefydliad Arloesi Diogelwch, Trosedd a Chudd-wybodaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, mai bwriad y tudalennau dan sylw yw cael eu rhannu'n eang.

Gallai hynny olygu y byddai perchnogion yn gallu gwneud elw o hynny, ond does dim modd darganfod a oes modd i bob tudalen wneud elw.

Roedd Facebook wedi ychwanegu rhybudd ar rai straeon, gan ddweud bod tystiolaeth eu bod nhw'n ffug - er enghraifft, fe wnaeth gwefan Full Fact brofi bod tudalennau wedi rhannu gwybodaeth ffug bod arweinydd plaid Reform, Nigel Farage yn yr ysbyty, dolen allanol.

Ond ar bob achlysur, roedd modd darganfod straeon eraill tebyg iawn oedd ddim yn cynnwys rhybudd o'r fath.

Mae'n ymddangos bod nifer o'r straeon ar y tudalennau o Fietnam wedi cael eu cynllunio er mwyn cael sylw cefnogwyr Mr Farage, ond doedd y cynnwys ddim yn gadarnhaol bob tro.

Mewn rhai achosion roedd lluniau ffug ohono'n mabwysiadu cŵn, cyfrannu ei arian personol at elusen, neu yn dal babi bach.

Ond roedd eraill yn ei ddangos yn cael ei arestio, gyda llun ffug ohono gyda'r heddlu.

Lluniau ffug o Nigel Farage
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau ffug o arweinydd Reform UK, Nigel Farage

Mae'r tudalennau hefyd yn cynnwys gwybodaeth ffug am wleidyddion eraill gan gynnwys Syr Keir Starmer, gan roi'r argraff ei fod wedi mynd yn sâl ar lwyfan a'i fod wedi colli ei swydd fel prif weinidog y DU.

Dywedodd yr Athro Innes bod tudalennau o'r fath "yn ceisio gwneud elw" a'u bod "yn barod i wneud unrhywbeth i gael pobl i edrych ar eu cynnwys".

Ychwanegodd nad oedd yn gallu dweud a oedd y miloedd o ddilynwyr yn bobl go iawn, ac roedd sylwadau o dan rhai lluniau yn awgrymu nad oedd pawb yn credu'r hyn roedden nhw'n ei weld.

Pan gysylltodd y BBC gyda chwmni Meta gydag enghreifftiau, fe dynnodd y cwmni nifer o dudalennau oddi ar Facebook.

Ychwanegodd y cwmni bod ganddyn nhw bolisi oedd yn atal tudalennau neu gyfrifon "annilys".

Sut allai delweddau ffug effeithio ar etholiad y Senedd?

Bydd etholiadau Cymru a'r Alban yn cael eu cynnal ar 7 Mai, yn ogystal ag etholiadau lleol mewn rhannau o Loegr.

Er bod pryderon yn y gorffennol o ddelweddau ffug yn cael effaith ar etholiadau, does dim tystiolaeth benodol bod hynny wedi digwydd yn yr etholiad cyffredinol yn 2024.

Ond dywedodd yr Athro Innes ei bod hi'n haws nag erioed i greu cynnwys o'r fath, a does dim angen cymaint o sgiliau arbenigol.

"Cyn hyn, roedd angen gwybodaeth benodol i greu delwedd neu fideo ffug, ond does dim angen hynny bellach."

Ychwanegodd y gallai hynny effeithio ar wleidyddiaeth ddatganoledig.

Yn sgil y pryderon am ddelweddau ffug, mae'r Comisiwn Etholiadol yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref ar feddalwedd i ddarganfod a chofnodi achosion o'r fath.

Dywedodd prif weithredwr y comisiwn, Vijay Rangarajan, y byddai'r feddalwedd yn "helpu pleidleiswyr i adnabod camwybodaeth yn ystod ymgyrchoedd etholiadol a delio gydag enghreifftiau sy'n effeithio ar hyder pleidleiswyr".

Roedd straeon ffug yn awgrymu bod Syr Keir Starmer wedi llewygu ar lwyfan neu wedi colli ei swydd fel Prif Weinidog
Disgrifiad o’r llun,

Roedd straeon ffug yn awgrymu bod Syr Keir Starmer wedi llewygu ar lwyfan neu wedi colli ei swydd fel prif weinidog

Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Comisiwn Etholiadol, o fewn cyfnod o ychydig wythnosau fe wnaeth y BBC ddarganfod nifer o fideos ffug gafodd eu creu gyda meddalwedd AI, oedd yn cynnwys gwleidyddion o Gymru.

Roedd y fideos hynny gyda'i gilydd wedi cael eu gwylio dros 200,000 o weithiau.

Roedd hynny'n cynnwys fideo ffug o'r Prif Weinidog Keir Starmer a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan yn cusanu, ac un arall o arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth yn gweiddi "I love Reform".

Dywedodd perchnogion y dudalen Facebook oedd yn gyfrifol am y fideos hynny eu bod nhw'n enghreifftiau "amlwg" o ddychan.

Ychwanegon nhw eu bod nhw'n hyderus bod gan eu cynulleidfa "synnwyr cyffredin".

Mae fideo ffug arall, a gafodd ei rannu gan dudalen sy'n gwrthwynebu Reform, yn dangos Nigel Farage gyda baner Cymru y tu ôl iddo.

Yn y fideo, mae'n gweiddi: "Mae Prydain yn wych; dydw i ddim yn gweld unrhyw bwynt cael pedwar tîm chwaraeon gwahanol a phedair senedd wahanol."

Does dim tystiolaeth bod Mr Farage wedi dweud y geiriau hynny.

Mae'r BBC wedi cysylltu gyda pherchnogion y dudalen i ofyn am sylw.

Dywedodd yr Athro Innes bod y fideos yma yn llai credadwy nac enghreifftiau eraill ac o bosib wedi cael eu creu gan ddefnyddio meddalwedd mwy sylfaenol.

Ond rhybuddiodd bod adnabod delweddau a fideos ffug yn "dod yn anoddach ac anoddach".

Profiadau 'hunllefus'

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Alex Davies-Jones sy'n cynrychioli Pontypridd, ei bod hi wedi cael profiadau "hunllefus" a bod rhai delweddau ffug rhywiol ohoni yn ei dillad isaf.

Ychwanegodd bod siarad am ddelweddau ffug rhywiol yn gallu achosi "embaras" ac fe allai olygu "mwy o dargedu".

Dywedodd hefyd bod ganddi bryderon am effaith delweddau ffug ar "ddemocratiaeth iach".

Dywedodd Llŷr Powell, oedd yn ymgeisydd Reform UK yn isetholiad Caerffili, eu bod nhw wedi darganfod fideos AI ohono a'i gydweithwyr yn dweud celwydd am eu polisïau.

Ychwanegodd: "Dydyn ni ddim eisiau aberthu'r rhyddid sydd ar gael yn y wlad yma, ond ar yr un pryd mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod pa wybodaeth maen nhw'n ei derbyn, ond mae hynny'n cael ei gamddefnyddio yma".

Dywedodd Janet Finch-Saunders, Aelod Senedd y Ceidwadwyr yn Aberconwy, ei bod hi'n "teimlo'n sâl" pan welodd hi bod llun ohoni hi wedi cael ei olygu "mewn ffordd afiach iawn".

Ychwanegodd bod lluniau ffug yn "camarwain" pobl sydd â llai o wybodaeth am dechnoleg a'i bod yn poeni bod creu delweddau yn haws erbyn hyn.

 Y Farwnes Carmen SmithFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Y Farwnes Carmen Smith o Blaid Cymru bod delweddau ffug "yn hollol broblematig pan 'da ni'n mynd i fewn i gyfnod etholiad"

Dywedodd y Farwnes Carmen Smith o Blaid Cymru, sy'n eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel Barwnes bod "deepfakes yn fygythiad mawr i ddemocratiaeth".

"Mae'n actually reit anodd i weld beth sy'n AI a beth sy'n real, ac ma' hwn yn hollol broblematig pan 'da ni'n mynd i fewn i gyfnod etholiad."

Dywedodd bod delweddau ffug "yn broblem i bawb", nid dim ond i wleidyddion.

"Mae hwn yn gallu digwydd i bob person, ond hefyd mae yn digwydd i fwy o fenywod," meddai.

"'Da ni wedi gweld hynny yn reit aml ac mae'n rhaid i ni daclo hwn nawr oherwydd y broblem yn y gymuned."

'Bygythiad i ddiogelwch gwleidyddion'

Dywedodd dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr, Rachel Millward bod delweddau ffug wedi cael eu creu ohoni hi, ac mae'n galw ar Lywodraeth y DU i reoleiddio'r sector AI er mwyn atal cynnwys o'r fath.

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru bod delweddau ffug yn "fygythiad i ddiogelwch gwleidyddion ar draws y sbectrwm gwleidyddol".

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y gallai "delweddau ffug greu rhaniadau, arwain at rannu gwybodaeth ffug a dylanwadu ar farn gyhoeddus".

Dywedon nhw hefyd y dylai platfformau cyfryngau cymdeithasol "daclo cynnwys ffug anghyfreithlon" fel rhan o'r Ddeddf Diogelwch ar y We neu fe allen nhw "wynebu camau pellach".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.