Cymro yn ennill gwobr am dynnu llun Llewyrch yr Arth

  • Cyhoeddwyd
Aurora Borealis yn LlangrannogFfynhonnell y llun, Mathew Browne
Disgrifiad o’r llun,

Llun arbennig Mathew Browne o'r Aurora Borealis yn Llangrannog

Mae dyn o Gaerfyrddin wedi ennill gwobr am dynnu llun o Lewyrch yr Arth – yr unig ffotograffydd o Brydain i gael ei anrhydeddu.

Cafodd y llun buddugol ei dynnu yn Llangrannog gan ffotograffydd priodasau.

Daeth llun Mathew Browne o gerflun Sant Crannog yn "edrych" ar y goleuadau i'r brig yng ngwobrau Northern Lights Photographer of the Year 2025. Dywedodd Mr Browne fod tynnu'r llun wedi bod yn "foment arbennig iawn".

Fe gafodd ffotograffwyr Cymreig gyfle i geisio dal lliwiau hyfryd yr awyr ym mis Tachwedd eleni.

Mae derbyn y wobr wedi bod yn "uchafbwynt gyrfa" i Mr Browne meddai.

"Dwi wedi bod allan sawl gwaith, cannoedd o weithiau, a dod yn ôl yn waglaw."

Ond fe ddaeth popeth ynghŷd i'r gŵr 41 oed tua 01:00 ar y 25ain o Hydref y llynedd.

"Roedd y rhagolygon yn dda, ond i bopeth ddod at ei gilydd ac i fod yn cario camera hefyd – dyna foment arbennig."

Dywedodd fod y goleuadau yn ddigon llachar y noson honno i'w gweld gyda llygaid noeth.

Ei gyngor i unrhyw ffotograffwyr eraill sy'n ceisio dal y foment arbennig yw,

"Ewch i rywle tywyll iawn oddi wrth goleadau stryd. Gadewch i'ch llygaid addasu, a felly rhowch eich ffôn i'r neilltu, diffoddwch oleuadau'r car a chadw golwg am gwmwl arian yr olwg.

"Weithiau fe fydd y cwmwl yn symud o flaen eich llygaid, a dyna fel arfer yw'r arwydd eich bod chi ar y trywydd cywir."

Derbyniondd y 2025 Northern Lights Photographer of the Year luniau o bedwar ban byd, gan gynnwys Canada, Seland Newydd, y DU a Gwlad yr Iâ.

Dyma'r ail dro i Mr Browne ennill – fe enillodd am y tro cyntaf yn 2023.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig