A wnaeth Dylan Thomas ddwyn rhai o'i gerddi cynnar gan bobl eraill?

Dylan Thomas yn ddyn ifanc [1925]Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cerddi eu cyhoeddi yn enw Dylan Thomas tra'r oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Ramadeg Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth un o feirdd enwocaf Cymru, Dylan Thomas lên-ladrata gwaith pobl eraill tra'r oedd yn fachgen ysgol, yn ôl ymchwil newydd.

Yr honiad ydy bod y bardd o Abertawe wedi rhoi ei enw ar waith eraill mewn "twyll beiddgar" yn ei ieuenctid, yn ôl astudiaeth gan Alessandro Gallenzi - cyhoeddwr a chyfieithydd o'r Eidal.

Mae Gallenzi, sy'n disgrifio'i hun fel "edmygwr oes o Thomas a'i farddoniaeth", yn honni ei fod wedi nodi o leiaf 12 o enghreifftiau o gerddi wedi eu dwyn gan eraill, mewn ymchwil sydd wedi'i gyhoeddi yn y Times Literary Supplement.

Mae Thomas yn adnabyddus am gerddi fel 'Do Not Go Gentle Into That Good Night' ac 'Under Milk Wood' - a ddechreuodd fel drama radio yn 1954.

Honiad Gallenzi yw bod y cerddi a gafodd eu llên-ladrata wedi cael eu cyhoeddi o dan enw Thomas tra'r oedd yn fyfyriwr yn Ysgol Ramadeg Abertawe, yng nghylchgrawn yr ysgol ac ym mhapur newydd Abertawe, The Herald of Wales.

Disgrifia Gallenzi ei ganfyddiadau fel "cadwyn o ladradau gwarthus yn ymestyn dros gyfnod o bedair blynedd o leiaf".

Dylan Thomas [1946]Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dylan Thomas ei eni yn Abertawe ar 27 Hydref 1914

Honnodd Gallenzi nad oedd Thomas yn unig "wedi tynnu ysbrydoliaeth o destunau eraill, wedi'u dynwared neu eu parodïo, fel yr honnodd yn ddiweddarach".

"Roedd wedi dwyn gwaith awduron eraill yn gyfan gwbl, gan newid y teitl neu ychydig o eiriau ar adegau, efallai i osgoi cael cosb."

Bydd y dystiolaeth newydd yn "chwyldroi ein ffordd o feddwl am flynyddoedd cynnar Dylan Thomas", ychwanegodd.

Bydd y cerddi'n ymddangos o dan adran o'r enw 'The Plagiarised and Dubious Poems', mewn rhifyn newydd o farddoniaeth Thomas, sy'n cael ei gyhoeddi'n ddiweddarach yn y mis.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.