Rhwyfwyr o Gymru'n creu hanes ar daith 3,000 milltir dros yr Iwerydd

Merched y MôrFfynhonnell y llun, Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd
Disgrifiad o’r llun,

Merched y Môr yn cystadlu'n Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd

  • Cyhoeddwyd

Mae tîm rhwyfo benywaidd o Gymru wedi cychwyn yn swyddogol ar eu taith o 3,000 milltir ar draws yr Iwerydd yn Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd.

Dechreuodd Merched y Môr, y tîm benywaidd o Gymru sy'n creu hanes, ar y daith fore Sul.

Cafodd y ras ei gohirio am dridiau oherwydd rhybudd o dywydd oren, ond bellach mae'r tîm o bedair menyw o Sir Benfro - Denise Leonard, Helen Heaton, Heledd Williams a Liz Collyer - wedi cychwyn o San Sebastián de La Gomera ger Tenerife.

Mae eu cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', yn un o'r 43 sy'n cystadlu eleni.

Merched y MôrFfynhonnell y llun, Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde mae Liz, Denise, Heledd a Helen

Wrth siarad cyn lansio, dywedodd capten y tîm Denise Leonard, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant. fod y criw yn barod amdani.

"Fe ddes i fyny â'r syniad hwn yn ôl yn 2020, felly rydw i wedi bod yn cynllunio hyn ers bron i bum mlynedd", meddai.

"O ran yr amodau ar y dechrau, mae'n mynd i fod ychydig yn fwy gwyntog am yr ychydig ddyddiau nesaf, tonnau mawr, ond mae'r cyfan yn mynd i'r cyfeiriad cywir lle bydd yn ein gwthio ni i'r cyfeiriad cywir.

"Rydw i mor gyffrous ac yn falch o fod yn gwneud hyn dros Gymru ac mae'n anrhydedd i gynrychioli ein gwlad a Sir Benfro."

Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn hyfforddi ers blynyddoedd, ac rydym wedi aberthu cymaint.

"Nawr mae'n bryd i ni fynd allan ar y môr a gwneud Cymru'n falch."

Merched y MôrFfynhonnell y llun, Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym yn gystadleuol ac yn mynd amdani ond y peth pwysicaf yw gwneud ein gorau glas"

Bydd y tîm yn rhwyfo mewn parau, gan weithredu amserlen o ddwy awr o rwyfo ac yna dwy awr o orffwys, 24 awr y dydd - am hyd at 60 diwrnod heb unrhyw gymorth allanol.

Ar hyd eu taith mae disgwyl y byddan nhw'n gorfod brwydro yn erbyn tywydd garw yn ogystal â gorfod ymdopi gyda'r straen meddyliol o fod ar eu pennau eu hunain am gyfnod hir.

Nod hanesyddol

Merched y Môr yw'r criw benywaidd cyntaf erioed o Gymru i gystadlu yn Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd ar draws cefnfor yr Iwerydd.

Mae'r her yn gweld timau yn wynebu tonnau 20 troedfedd, diffyg cwsg a chriwiau yn rhwyfo dros filiwn o strociau cyn cyrraedd Antigua ddechrau mis Chwefror.

Mae disgwyl i'r 48 awr gyntaf fod ymhlith y rhai mwyaf heriol yn ôl aelod arall o'r tîm, Heledd Williams sy'n weithiwr cymdeithasol.

"Bydd y tonnau'n fawr ond byddan nhw'n ein helpu ni. Byddwn ni'n mynd yn gynt na'r disgwyl, felly bydd hi'n ddechreuad eithaf cloi ond byddwn ni'n mynd y ffordd iawn tuag at Antigua."

"Rydym yn gystadleuol ac yn mynd amdani ond y peth pwysicaf yw 'neud ein gorau glas.

"Ma'r nerfau'n iawn, ni'n teimlo'n barod ac ni'n edrych ymlaen i chwifio'r faner dros Gymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig