Cau rhan o Dwnnel Conwy am 10 diwrnod ar gyfer gwaith ffordd

twnnel Conwy
  • Cyhoeddwyd

Bydd Twnnel Conwy i gyfeiriad y gorllewin ar gau o ddydd Sadwrn tan 20 Ionawr er mwyn gwneud gwaith diogelwch ffyrdd hanfodol.

Mae'r gwaith yn cynnwys gosod goleuadau LED a rhwystrau diogelwch newydd, ac atgyweirio'r llwybrau gadael.

Mae'n debyg nad yw'r gwaith yn gysylltiedig â'r tân diweddar.

Tra bod y ffordd ar gau, bydd timau'r gwasanaethau brys hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi ac ymarfer brys gorfodol yn y twnnel.

Bydd y traffig yn cael ei symud drwy'r twnnel tua'r dwyrain am y 10 diwrnod, ac mae disgwyl i'r twnnel ailagor yn llawn am 06.30 ddydd Mawrth 20 Ionawr.

Craen ar dan yn y twnnelFfynhonnell y llun, Eira D'Arcy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos craen ar dân yn y twnnel ym Mehefin 2025

Ar gyfartaledd mae tua 40,000 o gerbydau yn gyrru trwy'r twnnel bob dydd.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y gwaith wedi'i drefnu ar adeg pan fo traffig yn draddodiadol ar ei isaf er mwyn gweld llai o darfu.

Yn ôl Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, mae'r gwaith yn "hanfodol i sicrhau y gall y twnnel barhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol".

"Mae'r ymarferion hyfforddi hefyd yn allweddol i sicrhau bod gan wasanaethau brys yr adnabyddiaeth a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ymateb rhag ofn bod argyfwng yn y twnnel.

"Gwyddom pa mor hanfodol yw hyn pan welsom pa mor dda yr ymatebodd y gwasanaethau brys i'r tân yn y twnnel yn gynharach eleni.

"Rydyn ni'n gwybod nad yw'r tarfu ar draffig byth yn cael ei groesawu, felly rydyn ni wedi cymryd yr holl fesurau sydd ar gael i leihau oedi drwy'r twnnel - fel amserlennu'r gwaith ar gyfer yr amser tawelaf."

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Cynghorydd Sir Conwy Goronwy Edwards, sy'n cynrychioli ardal Caerhun gerllaw, fod y cau dros dro yn angenrheidiol.

"Gwaith cynnal a chadw ydy o i sicrhau bod y systemau'n ddigonol - uwchraddio'r offer diogelu, y goleuadau a hefyd monitro diogelwch o fewn y twnnel," meddai.

Ychwanegodd fod y gwaith wedi'i drefnu ar ddechrau'r flwyddyn gan fod llai o draffig nag yn ystod y tymor twristiaeth.

"Mae'n hollol bwysig bod y gwaith yn cael ei wneud, ac mae'n syniad da cynnwys y treialon diogelwch yn ystod y cyfnod yma", meddai, gan egluro y bydd y gwasanaethau brys yn cynnal ymarferion i sicrhau bod y systemau'n gweithio'n iawn pe bai argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi buddsoddi £1bn i drwsio a gwella ffyrdd ledled Cymru ers 2021.

Pynciau cysylltiedig