Ben Pritchard yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Ben Pritchard yn paratoi ar gyfer Gemau Paralympaidd 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ben Pritchard yw pencampwr Ewrop a phencampwr y byd

  • Cyhoeddwyd

Ben Pritchard sydd wedi ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2025.

Mae Pritchard, 33, yn dod yn wreiddiol o'r Mwmbwls ger Abertawe.

Yn cystadlu yn y para-rhwyfo, mae 2025 wedi bod yn flwyddyn arbennig iddo yn y categori PR1 yn y single sculls, gan osod record byd newydd fwy nag unwaith.

Ar ôl ennill medal aur yn y Gemau Paralympaidd yn 2024, fe enillodd aur ym Mhencampwriaethau Ewrop a Phencampwriaeth y Byd eleni.

Disgrifiad,

"Diolch!" - Ben Pritchard yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru

Fe ddigwyddodd Pencampwriaethau Ewrop yn Plodiv, Bwlgaria, ym mis Mai.

Fe osododd Pritchard record byd newydd o wyth munud a 47.88 eiliad ar ddiwrnod cyntaf y cystadlu.

Ddeuddydd yn ddiweddarach roedd 'na record byd arall iddo yn y rownd derfynol, y tro yma yn gorffen y ras mewn amser o wyth munud a 40.38 eiliad.

Fe drodd ei sylw wedyn at Bencampwriaethau'r Byd yn Shanghai, gan ennill medal aur yno hefyd.

Ben Pritchard yn cystadlu ym Mhencampwriaethau EwropFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Ben Pritchard i osod record byd newydd ar ddau achlysur yn 2025

Mae Ben Pritchard wedi bod yn ddyn hynod o heini o oedran ifanc.

Ei gariad cyntaf oedd hwylio, gan ymuno â Chlwb Hwylio Y Mwmbwls cyn mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru a Phrydain mewn cystadlaethau ieuenctid.

Cafodd ei ysbrydoli wedyn gan un o'i athrawon i ddechrau seiclo a chystadlu mewn triathlon, ac roedd hi'n ymddangos mai dyna'r trywydd yr oedd am ei ddilyn.

Ond yn 2016 cafodd ddamwain tra roedd yn seiclo, ac o ganlyniad fe gollodd y defnydd o'i goesau.

Yn y cyfnod cynnar wedi'r ddamwain cafodd ei gyflwyno i rwyfo, ac o fewn tair blynedd roedd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2019.

Ers hynny mae wedi mynd o nerth i nerth, a'r targed nesaf iddo yw cadw gafael ei fedal aur Baralympaidd yng Ngemau Los Angeles yn 2028.

Ben PritchardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ben Pritchard gystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd am y tro cyntaf yn 2019

"Mae ennill y wobr yn golygu popeth i fi," meddai Pritchard.

"Mae 'na enwau mawr wedi ennill y tlws yn y gorffennol, ac mae'n anhygoel cael fy nghymharu gyda rhai ohonyn nhw.

"Dwi'n teimlo'n emosiynol, achos mae'r wobr yn cydnabod y gwaith caled dwi wedi ei wneud dros y blynyddoedd.

"Naw mlynedd yn ôl mi oeddwn yn gorwedd mewn gwely mewn ysbyty, yn gobeithio ryw ddiwrnod gallu cystadlu yn y Gemau Paralympaidd a byw bywyd arferol unwaith eto.

"A bellach dwi newydd ennill y wobr fwyaf yn y byd chwaraeon yng Nghymru. Mae'n deimlad anhygoel."

'Blwyddyn anhygoel'

Cafodd Pritchard ei ddewis am y wobr gan banel oedd yn cael ei arwain gan gadeirydd Chwaraeon Cymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson.

Hefyd ar y panel oedd cyn-chwaraewr pêl-droed a phêl-rwyd Cymru Nia Jones, Owen Lewis o Chwaraeon Cymru, Yr Athro Katie Thirlaway o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, a chyn-ohebydd pêl-droed BBC Cymru Rob Phillips.

Yn ôl y Farwnes Grey-Thompson: "Roedd yn benderfyniad anodd iawn. Mae Cymru unwaith eto wedi dangos ein bod yn gallu meithrin athletwyr talentog mewn sawl camp.

"Mae Ben wedi cael blwyddyn anhygoel. Ar ôl ennill aur yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn 2024, fe lwyddodd i adeiladu ar y llwyddiant yna yn ystod y 12 mis diwethaf."

Rhai athletwyr eraill dan ystyriaeth am y wobr oedd y joci Sean Bowen, y seiclwyr Anna Morris a Zoe Backstedt, y rhedwr Jeremiah Azu, y para-athletwr Aled Sion Davies, y chwaraewr snwcer Mark Williams, y chwaraewr tennis bwrdd Anna Hursey, y gyrrwr rali Elfyn Evans, a'r bocsiwr Lauren Price.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig