Merched y Môr yn creu hanes ar ôl teithio 3,000 milltir i'r Caribî

Merched y Môr yn cystadlu'n Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd
- Cyhoeddwyd
Mae tîm rhwyfo benywaidd o Gymru wedi cwblhau taith o 3,000 milltir ar draws yr Iwerydd yn Ras Rhwyfo Anoddaf y Byd.
Fe ddechreuodd Merched y Môr - y criw benywaidd cyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y ras - rwyfo o San Sebastián de La Gomera, ger Tenerife, ar 14 Rhagfyr.
Er gwaethaf wynebu tonnau 20 troedfedd, gorflinder a salwch y môr, mae eu cwch rhwyfo, o'r enw 'Cariad', wedi croesi'r llinell derfyn yn ynys Antigua yn y Caribî.
Cymerodd y daith 50 diwrnod, 14 awr a 43 munud.
Mae'r tîm o bedair menyw o Sir Benfro - Denise Leonard, Helen Heaton, Heledd Williams a Liz Collyer - wedi bod yn rhwyfo yn ddi-baid mewn 'shifftiau' o ddwy awr yn rhwyfo, dwy awr yn gorffwys a hynny am 24 awr bob dydd heb unrhyw gymorth.
Roedd y tîm yn un o 43 oedd yn cystadlu eleni.
Maen nhw wedi codi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusennau Sea Trust, RNLI, Action For Children a Popham Kidney Support.

O'r chwith i'r dde mae Liz, Denise, Heledd a Helen
Wrth siarad cyn lansio ym mis Rhagfyr, dywedodd capten y tîm Denise Leonard, sy'n ddarlithydd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant fod y criw yn barod amdani.
"Fe ddes i fyny â'r syniad hwn yn ôl yn 2020, felly rydw i wedi bod yn cynllunio hyn ers bron i bum mlynedd," meddai.
"O ran yr amodau ar y dechrau, mae'n mynd i fod ychydig yn fwy gwyntog am yr ychydig ddyddiau nesaf, tonnau mawr, ond mae'r cyfan yn mynd i'r cyfeiriad cywir lle bydd yn ein gwthio ni i'r cyfeiriad cywir.
"Rydw i mor gyffrous ac yn falch o fod yn gwneud hyn dros Gymru ac mae'n anrhydedd i gynrychioli ein gwlad a Sir Benfro."
Ychwanegodd: "Rydym wedi bod yn hyfforddi ers blynyddoedd, ac rydym wedi aberthu cymaint.
"Nawr mae'n bryd i ni fynd allan ar y môr a gwneud Cymru'n falch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr

- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
