Ffeinal Cwpan Cymru ddim am symud o Gasnewydd i'r gogledd - CBDC

Pedwar tîm o'r gogledd sydd yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru eleni
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd ffeinal Cwpan Cymru yng Nghasnewydd yn cael ei symud ar ôl i gefnogwyr alw am gynnal y gêm yn y gogledd.
Fe gyhoeddodd CBDC fis Rhagfyr y byddai'r rownd derfynol eleni yn cael ei chynnal yn stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd.
Ond wedi gemau rownd yr wyth olaf ar 31 Ionawr, pedwar tîm o'r gogledd sydd wedi sicrhau lle yn y rownd gynderfynol - Bangor 1876, Y Fflint, Y Rhyl 1879 a Chaernarfon.
Gyda'r ffeinal felly yn sicr o gael ei chwarae rhwng dau dîm o'r gogledd, mae rhai o gefnogwyr y timau hynny wedi bod yn galw am symud y gêm.
Ond yn siarad ar raglen Ar y Marc fore Sadwrn, dywedodd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu CBDC, "ti methu aros tan [rownd yr wyth olaf]" i ddewis y lleoliad.

Eleni fydd y drydedd flwyddyn yn olynol i Rodney Parade gynnal y rownd derfynol
"Be maen nhw'n trio gwneud ydi creu achlysur mewn un stadiwm. Creu o fel mae o'n cael ei chwarae ar gae lle nad yw'r chwaraewyr falle yn cael profiad o chwarae arna fo fel arfer," meddai Ian.
"Mae'r trafodaethau yma wedi bod yn mynd 'mlaen ers dipyn a ti methu aros tan wythnos diwethaf i weld os oedd Y Barri yn ennill neu os ydy Caerau yn ennill - neu os gen ti ddau dîm o'r gogledd a dau dîm o'r de ble ti'n mynd?"

Doedd y Cae Ras ddim ar gael y tro hwn, yn ôl prif weithredwr y gymdeithas bêl-droed
Mae rhai cefnogwyr wedi bod yn galw am gynnal y ffeinal yn y Cae Ras yn Wrecsam.
Mae prif weithredwr y gymdeithas Noel Mooney wedi dweud yn flaenorol nad oedd y Cae Ras ar gael y tro hwn, ond y byddai'n opsiwn ar gyfer cynnal rowndiau terfynol cystadlaethau o'r fath yn y dyfodol.
Ychwanegodd Ian: "Dwi'n gwybod bod lot yn meddwl falle Wrecsam ond mae gêm y merched yna ar 14 Ebrill dau ddiwrnod wedyn, mae Stoke yn chwarae yna ar 18 Ebrill - a dim hyn di'r unig ffactor ond ydi Wrecsam eisiau tair gêm ar eu cae nhw mewn wythnos ar adeg pwysig o'r tymor?"
Dyma fyddai'r drydedd flwyddyn yn olynol i ffeinal Cwpan Cymru i'r dynion a'r merched gael eu cynnal yng Nghasnewydd.
Mae cadw'r gêm yn Rodney Parade yn helpu'r achlysur, meddai Ian.
"Mae pawb yn teithio i Wembley, mae pawb yn teithio i Parc Hampden, mae pawb yn teithio i Windsor Park - a ti'n trio gwneud fel bo na un canolfan lle bod o'n achlysur, rhywbeth gwahanol, yn lle chwarae ym Mae Colwyn, neu'r Rhyl er enghraifft."
Bydd rownd derfynol y dynion yn cael ei chynnal ddydd Sul 12 Ebrill am 15:15, wedi'r gemau cynderfynol ar benwythnos 6-8 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Ionawr

- Cyhoeddwyd1 Chwefror

- Cyhoeddwyd3 Chwefror
