Y Gwylanod a'r Cofis yn llygadu llwyddiant Cwpan Cymru am y tro cyntaf

Y dorf yn ystod gêm rhwng Bae Colwyn a'r FflintFfynhonnell y llun, CPD Bae Colwyn
Disgrifiad o’r llun,

Yn gyson mae Clwb Pêl-droed Bae Colwyn wedi denu torfeydd o dros 1,000 ar gyfer gemau cartref y tymor hwn

GanGareth Wyn Williams
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd rhai o gewri pêl-droed y gogledd yn wynebu'i gilydd mewn gêm dyngedfennol ddydd Sadwrn, gyda'r ddau glwb yn benderfynol o ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

Gyda deiliaid y gwpan, Y Seintiau Newydd, eisoes allan o'r gystadleuaeth bydd Caernarfon a Bae Colwyn yn chwarae am le yn y pedwar olaf.

Ond wrth lygadu codi'r gwpan hynafol - sydd hefyd yn sicrhau lle yn Ewrop i'r enillwyr - mae disgwyl torf enfawr ar gyfer y gêm.

Yn Llandudno yn hytrach na Chaernarfon y bydd yn cael ei chwarae serch hynny, oherwydd gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd i wella stadiwm yr Oval.

Disgrifiad,

CPD Caernarfon a Bae Colwyn yn chwarae am le yn y pedwar olaf yng Nghwpan Cymru

Gyda CPD Bae Colwyn wedi treulio degawdau yn chwarae ym mhyramid pêl-droed Lloegr, roedd penderfyniad UEFA yn 1995 i rwystro'r 'alltudion' rhag cystadlu mwyach yn golygu ni chwaraeodd Bae Colwyn yng Nghwpan Cymru am chwarter canrif.

Ond chwe mlynedd yn ôl fe benderfynodd y clwb i ail-ymuno â'r pyramid yng Nghymru, gyda thymor 2019/20 yn gweld y clwb yn cystadlu yn adran y Cymru North a Chwpan Cymru.

Bellach mae Bae Colwyn ymysg chwe uchaf y JD Cymru Premier.

Anna Openshaw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Openshaw, sy'n gwirfoddoli gyda CPD Bae Colwyn, yn credu bod gan y clwb siawns dda o gyrraedd y rownd nesaf.

Ond efallai yn fwy arwyddocaol, mae torfeydd y clwb y gorau yn y gynghrair gyda chyfartaledd o dros 1,000 o gefnogwyr yn mynychu gemau cartref.

Roedd dros 1,600 yn bresennol ar gyfer eu gêm yn erbyn Cei Connah dros y Sul, cefnogaeth sydd ben ag ysgwydd yn fwy na'r ychydig gannoedd oedd yn arfer gwylio'r clwb pan roedden nhw ym mhyramid Lloegr.

Yn ôl Anna Openshaw, sy'n gwirfoddoli gyda'r clwb, mae'r penderfyniad dadleuol ar y pryd i ddychwelyd i gynghreiriau Cymru wedi "trawsnewid" y clwb.

"Oedd hi'n benderfyniad mawr i'r clwb ond mae wedi gweithio allan i'r gorau," meddai.

"Mae gynnon ni gymaint o support gen y bobl leol, wnawn nhw ddilyn ni i unrhywle.

"Mae'r chwaraewyr i gyd yn trio'u gorau glas achos dydyn nhw ddim isho gadael y cefnogwyr i lawr, maen nhw mor falch fodgymaint yn supportio nhw bob gêm.

"'Sa'r gêm y penwythnos yma yn gallu bod yn ffeinal basa? Mawrion y gogledd yn erbyn ei gilydd..ond mae'r tîm yn eitha' da a dwi'n credu bod ganddon ni siawns reit dda."

Ffordd Llanelian
Disgrifiad o’r llun,

Ffordd Llanelian ydy cartref CPD Bae Colwyn

Ond er y gefnogaeth gref i'r clwb, dim ond 200 o docynnau sydd wedi eu gwneud ar gael i Fae Colwyn.

Yn ôl Anna, mae hyn yn "drist", yn enwedig gan fod Llandudno ar y stepen drws.

"Ond mae ganddon ni fanzone yma ar y noson a 'da ni'n mynd i'w wylio ar y teledu.

"Ddim cweit yr un fath ond mae cannoedd o docynnau wedi mynd, ac i'r rhai sydd yn mynd i'r gêm, mi fydd 'na lot o weiddi!"

'Rhoi rhywbeth i'n cefnogwyr weiddi am'

Ond dydy Caernarfon, chwaith, erioed wedi ennill Cwpan Cymru.

A gyda'u bryd ar gyrraedd Ewrop unwaith eto, mae'r Cofis hefyd yn llygadu llwyddiant yn y gwpan - sy'n gwarantu lle i'r enillwyr yng Nghyngres Ewropa a gwobr ariannol o gannoedd o filoedd o bunnoedd.

Richard Owain Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mi gymerodd Richard Owain Davies yr awennau gyda CPD Tref Caernarfon yn 2023

Dywedodd Richard Owain Davies, rheolwr y clwb ers 2023, ei fod yn disgwyl gêm dda rhwng dau glwb sydd ymysg chwe uchaf y Cymru Premier.

"Ti'n sbïo arni a ni ydy'r highest seed sydd dal yn y gwpan, a pressure is a privilege fel maen nhw'n ddweud," meddai.

"'Da ni'n gwbod be' sydd ganddon ni yn y 'stafell newid, mae'n fater o'i roi i gyd at ei gilydd a gwneud yn siŵr bod ni'n gwneud ein rhan a rhoi rhywbeth i'r cefnogwyr weiddi am."

Ond er bod chwarae eu gemau cartref yn Llandudno eleni wedi effeithio ar dorfeydd y Cofis am y tro, roedd yn cydnabod effaith cefnogaeth gref Bae Colwyn ar bêl-droed domestig.

"Maen nhw'n dod yn eu numbers sy'n grêt i'r gynghrair, dyna 'da ni isho'i weld.

"'Da ni wedi cael blas o Ewrop, wnaethon ni joio'r profiad a 'da ni'n gwybod be' mae o'n ei olygu yn ariannol hefyd.

"Un peth sydd ganddon ni ddim ydy sugar daddy, fel rhai clybiau, 'da ni'n gorfod dibynnu ar sponsors a pres y giât.

"Dyna lle mae pawb isho bod a dyna'r nod i bob clwb yn y gynghrair, chwarae'n Ewrop a chael y cyfleon yna eto."

Danny Gossett
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Danny Gossett Gwpan Cymru gyda'r Seintiau Newydd yn 2016

Ychwanegodd Danny Gossett, sy'n chwarae yng nghanol y cae i'r Cofis: "Pryd mae'r cefnogwyr yn dod ac yn canu maen nhw'n rhoi boost massive i'r hogia.

"Jyst bechod bod ni heb fod yn yr Oval season yma... ond fydd y Cofis yna yn eu numbers ac yn canu a gweiddi i gael ni dros y lein ac fewn i'r rownd nesa'."

Gemau rownd yr wyth olaf Cwpan Cymru

Dydd Sadwrn, 31 Ionawr

Y Rhyl 1879 v Y Barri (14:00)

Dinas Bangor 1876 v Caerau Elai (14:00)

Y Fflint v Bae Trearddur (14:00)

Caernarfon v Bae Colwyn (17:15)

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.