Pasg prysur ynghanol blwyddyn anodd i fusnesau sy'n brwydro i aros ar agor

John Evans, Sam Eastcott ac Andrea MooreFfynhonnell y llun, BBC + Lluniau cyfranwyr
GanLlion Higham
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae busnesau ar draws Cymru wedi elwa o brysurdeb y Pasg, ond y teimlad gan nifer ydy nad yw'n ddigon i wneud yn iawn am flwyddyn "sydd heb fynd fel ddyle hi".

Dywedodd un cwmni teuluol mai dyma oedd "un o'r wythnosau mwyaf bishi ni 'di ca'l hyd yn hyn", ond bod y frwydr i gadw ar agor yn un anodd.

Er gwaethaf Storm Dave, roedd Sul a Llun y Pasg yn braf a thwym ar gyfer y mwyafrif o Gymru eleni.

Ond gyda chostau biliau, cynnyrch a thanwydd yn cynyddu hyd yn oed yn fwy yn ddiweddar, mae pryder perchnogion am ddyfodol eu busnesau'n cynyddu hefyd.

Dywedodd un, sydd wedi gorfod cau ei siop a symud ar-lein, na fyddai'n argymell i unrhyw un "ddechrau busnes nawr achos mae just yn rhy anodd ar hyn o bryd".

Sam EastcottFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Fi ddim yn really gallu dweud i unrhyw un ddechrau busnes achos mae just rhy anodd ar hyn o bryd," meddai Sam Eastcott

Mae Sam Eastcott yn rhedeg busnes dillad vintage ac ail-law The Circular Studio yng Nghaerffili, ac mae wedi gorfod cau ei siop "oherwydd mae'r costau 'di mynd lan shwt gymaint".

Roedd ganddi gwerth £13,000 o filiau ar ddechrau'r mis, meddai, cyn ychwanegu bod ei chyfraddau busnes ar draws ei hunedau wedi codi £7,000 mewn blwyddyn.

Dywedodd bod y siop yn "rhan enfawr o'n busnes ni" ond ei bod nawr wedi gorfod penderfynu newid i ganolbwyntio mwy ar-lein.

"Mae'n really anodd i ddweud y gwir... mae 'di bod yn un peth ar ôl y llall," meddai, cyn esbonio y bu'n rhaid iddi gael gwared ag un aelod o staff.

Ond dywedodd bod ei busnes yn tyfu mewn sawl ffordd - mae ganddi dros 13,000 o ddilynwyr ar Instagram ac mae ei digwyddiadau a'i gweithdai yn gwneud yn dda, ond "dyw pobl ddim yn dod mewn [i'r siop] fel o' nhw".

"Fi ddim yn really gallu dweud i unrhyw un ddechrau busnes achos mae just rhy anodd ar hyn o bryd, a mae pawb ddim gyda arian so ti'n trio 'neud rhywbeth i'r gymuned ond mae neb yn y gymuned yn gallu 'neud unrhywbeth."

Andrea Moore a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrea Moore wrth ei bodd yn cael help ei merched yn Y Caban ond yn pwysleisio bod angen cefnogaeth y gymuned ar fusnesau lleol

Mae cwmni teuluol yn Sir Gaerfyrddin hefyd yn dweud ei bod hi'n "anodd cynnal busnes dyddiau yma".

Er bod Y Caban, sydd ar ochr yr A40 ger Llangadog, wedi cael un o'u hwythnosau gorau eleni adeg y Pasg, dywedodd y perchennog, Andrea Moore: "Dyw'r flwyddyn heb fynd fel ddyle hi… mae costau popeth 'di mynd lan."

"Ni'n trial cynnal pethau fel maen nhw ond am faint allen ni gadw costau a phrisiau fel 'ma, dwi ddim yn siŵr."

Mae Andrea yn mwynhau gweithio gyda'i merched a'i gŵr, ond dywedodd bod yr heriau wedi cynyddu ers iddyn nhw agor pum mlynedd yn ôl.

"'Sdim cymharu i fod yn onest o ran be' o'n i'n talu blwyddyn yn ôl, heb sôn am bedair i bum mlynedd yn ôl, a beth ni'n talu nawr.

"Mae rhaid i fe [y busnes] fod yn gynaliadwy ond mae rhaid iddo fe hefyd fod yn rhywbeth mae pobl yn gallu fforddio i ddod aton ni, ac mae cadw'r cydbwysedd yna'n anodd iawn."

Esboniodd hefyd ei bod yn gweithio gyda nifer o gwmnïau yn Llanymddyfri ac "mae pawb yn teimlo'r un peth – ni'n trial cefnogi'n gilydd".

John Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Evans yn dweud ei bod yn drist gweld llefydd yn cau

"Mae Pasg 'di bod yn iawn i ni," meddai perchennog tafarn adnabyddus y Black Boy yng Nghaernarfon, John Evans.

Ond er ei fod wedi bod yn berchen ar y dafarn ers dros chwarter canrif, maen nhw'n wynebu heriau anodd iawn eleni hefyd.

"Mae biliau electric a gas ni 'di saethu fyny, mae'n aruthrol faint maen nhw 'di codi.

"Odd 'na rep yma diwrnod o'r blaen - 'I've never seen a January or February so bad' medda' fo wrtha fi."

Mae John wedi bod yn berchen ar sawl tafarn yn y gorffennol, ond "'swn i'n meddwl bod nhw gyd yn struglo wan".

"'Da ni'n gweld straeon aruthrol am bobl yn cau," meddai. "Mae gwestai yn dod ar werth yn bobman.

"Mae o'n drist i weld achos mae'n golled i'r gymuned."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.