Meysydd gwersylla dros dro i gael agor am dros ddwbl yr amser

Mae'r newid yn golygu y bydd meysydd gwersylla dros dro yn cael agor am 60 diwrnod y flwyddyn, yn hytrach na 28
- Cyhoeddwyd
Bydd y cyfnod y mae modd i feysydd gwersylla dros dro fod ar agor yn cynyddu yn y flwyddyn newydd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae'r llywodraeth wedi cadarnhau y byddan nhw'n cyflwyno "rheoliadau drafft" i wneud y newid "yn gynnar yn y flwyddyn newydd".
Byddai hynny'n golygu bod modd i feysydd gwersylla dros dro agor am hyd at 60 diwrnod y flwyddyn, yn hytrach na'r 28 diwrnod fel mae pethau'n sefyll.
Daw'r newid wedi i'r llywodraeth gynnal ymgynghoriad ar feysydd gwersylla dros dro ym mis Ebrill eleni.
Mae perchennog gwersyll dros dro yng Ngwynedd wedi croesawu'r newyddion, gan ddweud bod y newid yn rhoi'r un hawliau iddyn nhw â safleoedd tebyg yn Lloegr.
Ond mae pryder ymysg rhai safleoedd gwersylla sefydlog y byddan nhw dan anfantais yn ariannol o ganlyniad.
Yn gynharach eleni fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gytuno i newid y cynlluniau sy'n ymwneud â meysydd gwersylla dros dro yn dilyn pryderon am eu heffaith.
Poblogrwydd gwyliau agos at adref yn yr awyr agored ar gynnydd
- Cyhoeddwyd16 Awst 2025
'Colli miloedd o swyddi yn bosib' o achos rheolau llety gwyliau 'creulon'
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2025
Treth ar dwristiaid: 'Nonsens' neu'n 'ddigon teg'?
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2025
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn cyflwyno rheoliadau drafft i ymestyn hyd y defnydd o dir dros dro ar gyfer gwersylla i 60 diwrnod, yn amodol ar rai cyfyngiadau, yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
"Bydd manylion y newidiadau yn cael eu nodi yn ymateb y llywodraeth i'r ymgynghoriad, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan yn fuan."

Mae Evan Owen yn dweud bydd y newid yn rhoi mwy o hyblygrwydd iddo
Yn Nyffryn Ardudwy mae Evan Owen a'i wraig yn rhedeg Cerrighedd - safle gwersylla dros dro ar gyfer ymwelwyr â Pharc Cenedlaethol Eryri.
"Ar ôl Covid, oedd pawb eisiau rhywbeth newydd - rhywbeth fel gwersylla gwyllt," meddai.
"'Gath ni lwyth o bobl oedd eisiau aros yma.
"'Oedd nhw'n dweud ei fod fel breath of fresh air - rhywbeth gwahanol."
'Newyddion da o'r diwedd'
Gyda'r rheolau presennol, dim ond am uchafswm o 28 diwrnod y flwyddyn roedd modd i Cerrighedd a safleoedd dros dro eraill fod ar agor.
"Mae rhan fwyaf o bobl eisiau [aros ar] y penwythnos ac ym mis Awst - tydi hynny ond ryw bedwar weekend, a dydi o ddim yn ddigon," meddai Mr Owen.
"Oedd 'na rai pobl eisiau dod yma yn y gwanwyn neu yn gynnar yn yr haf.
"Mae'r demand yna."
Yn Lloegr, mae safleoedd dros dro eisoes yn cael bod ar agor am 60 diwrnod, ac mae Mr Owen yn croesawu'r bwriad i gael rheolau tebyg yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, dim ond am uchafswm o 28 diwrnod y flwyddyn mae modd i safleoedd dros dro fod ar agor
Roedd gan feysydd gwersylla dros dro yng Nghymru yr hawl i agor am 56 diwrnod yn ystod cyfnod y pandemig, ond ni chafodd hynny ei wneud yn barhaol, yn dilyn ymgynghoriad yn 2021.
Ond wedi ail ymgynghoriad eleni, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu newid y rheolau yn gynnar yn 2026, gyda "rhai cyfyngiadau".
Dywedodd Mr Owen fod "hyn yn newyddion da o'r diwedd".
"Yn lle dweud 'fedra i ddim agor yn Pasg, dim ond yn Awst', alla i drio cymryd mantais o'r tywydd."
Er yn croesawu'r newid, mae Mr Owen yn dweud ei fod yn awyddus i gael mwy o fanylion ynglŷn â'r telerau.
'Mantais annheg i safleoedd dros dro'
Ond nid pawb sy'n croesawu'r newid.
25 milltir o faes gwersylla dros dro Cerrighedd, mae Llwyn yr Helm ym Mrithdir ger Dolgellau wedi bod yn croesawu ymwelwyr ers dros 50 mlynedd.
Maen nhw'n safle parhaol, er bod un o'u caeau yn cael ei ddefnyddio fel maes gwersylla dros dro yn am fis yn yr haf.
Mae'r perchennog Angharad Rowlands yn credu bod y penderfyniad i ymestyn y cyfnod y mae modd i safleoedd dros dro fod ar agor yn un "siomedig" i wersylloedd parhaol.

Mae Llwyn yr Helm yn safle parhaol, er bod un o'u caeau yn cael ei ddefnyddio fel maes gwersylla dros dro yn am fis yn yr haf
"Rydym wedi buddsoddi llawer o amser ac arian mewn seilwaith parhaol, trwyddedau, mesurau amgylcheddol a chydymffurfiaeth gynllunio," meddai.
"Mae hyn yn dod gyda chostau sylweddol ac anorfod, megis ardrethi busnes, yswiriant, staff, rheoli gwastraff a chynnal a chadw parhaus.
"Mae'r estyniad hwn yn rhoi mantais annheg i safleoedd dros dro sy'n gallu gweithredu am gyfnod hirach heb wynebu'r un lefel o gostau na rheolaeth, tra'n cystadlu'n uniongyrchol â busnesau sefydledig am yr un cwsmeriaid tymhorol.
"Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i fusnesau sydd wedi gwneud popeth yn iawn ac wedi buddsoddi'n gyfrifol i barhau'n gynaliadwy.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod maint busnes yn effeithio ar ei werth trethiannol.
Dywedodd llefarydd: "Petai rheolwyr meysydd gwersylla dros dro yn manteisio ar y dyddiau ychwanegol fyddai'n cael eu caniatáu yna fe allai eu trethi busnes gynyddu hefyd, fel byddai'n digwydd petai meysydd parhaol yn ymestyn."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.