Arestio tri ar amheuaeth o ysbïo dros China ond AS yn dweud nad yw hi'n amau ei gŵr

David Taylor gyda'i wraig Joani Reid
- Cyhoeddwyd
Mae AS Llafur wedi dweud nad ydy hi'n "rhan o weithgareddau busnes fy ngŵr" ar ôl i dri dyn gael eu harestio ar amheuaeth o ysbïo dros China.
Dywedodd AS Llafur o'r Alban, Joani Reid nad yw hi "erioed wedi gweld dim byd" i wneud iddi amau bod ei gŵr, David Taylor, wedi torri'r gyfraith.
Mae Mr Taylor yn gyn-ymgynghorydd arbennig i Lafur Cymru ac yn gyn-ymgeisydd i fod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Yn gynharach, dywedodd Heddlu'r Met fod tri dyn wedi cael eu harestio yn Llundain a Chymru fel rhan o ymchwiliad gwrthderfysgaeth o dan y Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol.
Cafodd dyn 68 oed ei arestio ym Mhowys, dyn 43 oed ym Mhont-y-clun, Rhondda Cynon Taf, a dyn 39 oed yn Llundain.
Mae'r heddlu hefyd wedi cynnal archwiliad mewn cyfeiriad yng Nghaerdydd.
Nid oes "bygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd", ychwanegodd y Met, ac mae'r tri yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Joani Reid nad oes ganddi unrhyw gysylltiadau â China
Dywedodd Joani Reid, sy'n cynrychioli Dwyrain Kilbride a Strathaven, mewn datganiad: "Dydw i erioed wedi gweld unrhyw beth i wneud i mi amau bod fy ngŵr wedi torri'r gyfraith.
"Dydw i ddim yn rhan o weithgareddau busnes fy ngŵr ac nid wyf fi na fy mhlant yn rhan o'r ymchwiliad hwn, ac ni ddylem gael ein trin gan sefydliadau'r cyfryngau fel pe baem ni.
"Rwy'n disgwyl i'r wasg barchu preifatrwydd fy mhlant."
Ychwanegodd Ms Reid nad oedd hi erioed wedi bod i China ac nad oedd hi erioed wedi siarad ar unrhyw faterion yn ymwneud â China yn Nhŷ'r Cyffredin.
"Dydw i erioed wedi gofyn cwestiwn ar faterion sy'n ymwneud â China. Hyd y gwn i, dydw i erioed wedi cwrdd ag unrhyw fusnesau Chineaidd tra roeddwn i'n AS, unrhyw ddiplomyddion Chineaidd na gweithwyr llywodraeth, nac wedi codi unrhyw bryder gyda gweinidogion nac unrhyw un arall ar ran, hyd yn oed yn gyd-ddigwyddiadol, buddiannau Chineaidd.
"Rwy'n ddemocrat cymdeithasol sy'n credu mewn rhyddid mynegiant, undebau llafur rhydd ac etholiadau rhydd. Nid wyf yn unrhyw fath o edmygydd nac yn ymddiheuro dros unbennaeth plaid Gomiwnyddol China."
Cais am ddatganiad brys
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad yw'n gwneud sylwadau ynghylch ymchwiliadau heddlu sy'n parhau.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi cyflwyno cais am ddatganiad brys gan y Prif Weinidog.
Mae arweinydd Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin wedi mynegi pryderon wedi'r arestiadau.
Dywedodd Liz Saville-Roberts: "Mae'n destun pryder bod dau o'r tri dyn wedi eu harestio yng Nghymru a'u bod â chysylltiadau agos â'r Blaid Lafur."
"Gydag etholiad y Senedd mewn ychydig dros ddau fis, a chysgod sgandal achos Nathan Gill, pa gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r comisiwn etholiadol i sicrhau bod yna ddigon o adnoddau i ddiogelu'r etholiadau rhag bygythiad ymyrraeth o dramor?"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.