Elusennau yn poeni na fyddan nhw'n gallu rhoi cymaint o help i bobl ifanc

Dywedodd Reece sydd heb waith ar y funud, "dydy o ddim yn case o dwi ddim isio gweithio, mae'n case o dwi'n methu"
- Cyhoeddwyd
Mae naid wedi bod yng nghyfran y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na gwaith, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru ar gyfer y llynedd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r ffigwr wedi bod ar ei uchaf yng ngogledd Cymru ac mae elusen sy'n gweithio yno yn pryderu na fyddan nhw'n gallu parhau i helpu pobl ifanc wrth i raglenni grantiau'r llywodraeth newid.
Yn 22 oed, mae Reece Moss Owen wedi gwneud swyddi gwahanol a dilyn sawl cwrs, ond ar hyn o bryd dydy e ddim mewn gwaith, addysg na hyfforddiant.
"Dwi ar limited capability for work sy'n meddwl bod fi'n gallu gweithio os mae'r situation yn gywir.
"Ond oherwydd problemau iechyd meddwl a'r byd 'da'n ni'n byw ynddo fo, lle dydy'r lle gwaith ddim yn accessible i bobl ifanc, dwi ddim mewn situation lle dwi'n gallu gweithio full-time," meddai.
"Pan dwi'n siarad efo mam am hyn mae hi'n cytuno. Doedd hyn ddim yn broblem oedd hi efo pan oedd hi'n edrych am gwaith.
"Dyna sy'n gwneud fi mor flin yn bersonol, pan dwi'n clywed pobl yn dweud bod pobl ifanc ddim isio gweithio. 'Di o ddim yn case o dwi ddim isio gweithio, mae'n case o dwi'n methu."
"A dwi'n gofyn am help gan y systemau sydd i fod i helpu ond does 'na ddim y facilities i helpu pawb a mae'n rili drist."

Wedi gostyngiad cyson yng nghyfran y bobl ifanc sydd ddim mewn addysg, hyfforddiant na gwaith dros y degawd diwethaf, roedd yna gynnydd yn y flwyddyn at fis Medi - hyd at 17%.
12.8% oedd y ffigwr yng ngweddill Prydain ddiwedd y llynedd, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod yr heriau i bobl ifanc ac yn datblygu rhaglen i wella'r cymorth i gael swyddi.

Mae Catrin Jones yn gweithio i elusen GISDA ac mae'n dweud ei fod yn "gyfnod ofnadwy o ansicr"
Mae salwch hir-dymor, cyflyrau iechyd meddwl a niwroamrywiaeth ymhlith y rhesymau mae elusennau'n teimlo sy'n atal pobl ifanc rhag camu ymlaen yn economaidd.
Mae pethau ymarferol fel cost cyrsiau, agwedd cyflogwyr, a'r angen am drwydded yrru neu gerbyd ar gyfer swyddi hefyd yn ffactor, medd Reece.
Mae Reece wedi bod yn cael cymorth gan elusen GISDA, ond mae newid yn nghynlluniau grantiau Llywodraeth y DU yn golygu bod staff sy'n poeni'n barod am gwrdd â'r galw, bellach yn ofni am gyllid.
"Mae gynnom ni brosiect Academi Cyfleoedd sy'n rhoi sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc fel bod nhw'n gallu cyrraedd y byd gwaith," medd Catrin Jones o'r elusen.
"Ond yn anffodus mae'r cyllid yn dod i ben fis Ebrill. 'Dan ni wedi cael estyniad tan fis Mehefin. Ond ar ôl hynny, s'genno ni ddim syniad ar y funud, felly mae o'n gyfnod ofnadwy o ansicr."
Torri 200 o swyddi ym Mhrifysgol De Cymru
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
40% o feddygon preswyl Cymru yn wynebu diweithdra o fis Awst - arolwg
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2025
Mewn ymateb mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd £500 miliwn ar gyfer Cronfa Twf Lleol newydd yn gwarchod y cyllid sydd ar gael i brosiectau ar hyn o bryd.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru'n dweud eu bod yn cydnabod yr heriau i bobl ifanc ac yn datblygu rhaglen i wella'r cymorth i gael swyddi.
Fe ddywedodd Plaid Cymru y bydd eu hasiantaeth ddatblygu newydd yn cefnogi busnesau i dyfu a chreu swyddi.
Yn ôl y blaid Reform yng Nghymru, mi fydden nhw'n cefnogi addysg alwedigaethol i helpu'r rhai sydd ddim am fynd i'r brifysgol.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y bydden nhw'n creu 125,000 o brentisiaethau newydd yn nhymor nesaf y Senedd.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y bydden nhw'n sefydlu rhaglen ar gyfer hyfforddi a dysgu sgiliau i bobl ifanc.
Yn ôl y Blaid Werdd bydden nhw'n gwella'r system addysg, yn ariannu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn gwella iechyd a chreu swyddi newydd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.