Adeiladu safle cynhyrchu hydrogen newydd yn Sir Benfro

Llun artist o sut allai'r safle cynhyrchu hydrogen newydd edrych
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i waith adeiladu ddechrau eleni ar safle cynhyrchu hydrogen newydd yn Aberdaugleddau.
Fe fydd prosiect Hydrogen Gorllewin Cymru yn creu tua 10 o swyddi parhaol pan fydd yn weithredol, a 60 yn ystod y cyfnod adeiladu.
Bydd yn cael ei adeiladu ar safle hen burfa olew Puma Energy yn y porthladd yn Sir Benfro.
Dywedodd ysgrifennydd gwladol Cymru y bydd y prosiect yn "creu swyddi ac yn helpu i dyfu economi Cymru".
'Angen i'r gadwyn gyflenwi leol fod yn barod ar gyfer Wylfa newydd'
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
138 yn colli eu swyddi wrth i gwmni ynni yn ne Cymru fynd i'r wal
- Cyhoeddwyd19 awr yn ôl
Tata: Be' nesaf gyda 2,800 o swyddi i'w colli?
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2024
Mae'r prosiect wedi'i gefnogi gan gyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r nod o hyrwyddo cynhyrchu hydrogen carbon isel.
Dyma un o'r prosiectau cyntaf o'i fath a gefnogir gan Lywodraeth y DU i gael ei gymeradwyo gan fuddsoddwyr.
Mae'r prosiect yn cael ei ddatblygu gan MorGen Energy - cwmni o Zurich a sefydlwyd yn 2021 i ddatblygu prosiectau hydrogen gwyrdd ar raddfa eang.
Mae rhiant-gwmni MorGen – grŵp Trafigura – yn cyflogi 14,500 o bobl ac yn gweithredu mewn mwy na 150 o wledydd.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn 2026, gyda'r nod o gomisiynu'r safle a dechrau cynhyrchu hydrogen erbyn dechrau 2028.

Bydd y prosiect yn cael ei adeiladu ar safle hen burfa olew Puma Energy yn y porthladd yn Sir Benfro
Unwaith y bydd ar waith, bydd yn cynhyrchu tua 2,000 tunnell o hydrogen carbon isel bob blwyddyn, a fydd yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd gan gynnwys gwresogi diwydiannol, gweithgynhyrchu a dadgarboneiddio porthladd Aberdaugleddau.
Bydd y gwaith yn cynhyrchu hydrogen trwy electrolysis – proses sy'n hollti dŵr yn hydrogen ac ocsigen gan ddefnyddio trydan.
Dywed MorGen y bydd y trydan ar gyfer y safle yn dod o ffynonellau adnewyddadwy presennol a rhai newydd – ffermydd gwynt yn bennaf – yn y DU.
Mae disgwyl i'r gwaith arbed dros 15,000 tunnell o allyriadau CO2e yn flynyddol.
Mae gwefan MorGen yn dweud y bydd Hydrogen Gorllewin Cymru – sydd yn y Porthladd Rhydd Celtaidd – yn elwa o'r isadeiledd sydd eisoes yn Aberdaugleddau, gan gynnwys "63 o danciau storio, rhwydwaith cynhwysfawr o biblinellau sy'n cysylltu cyfleusterau storio â glanfa, a chyfleusterau llwytho ffyrdd a rheilffyrdd".

Dywedodd Jo Stevens, ysgrifennydd gwladol Cymru: "Mae Cymru ar flaen y gad yn y chwyldro ynni gwyrdd ac mae'n wych gweld prosiect Hydrogen Gorllewin Cymru ymhlith y cyntaf yn y DU i gyrraedd y cam hwn, gyda chefnogaeth llywodraeth y DU.
"Mae hon yn garreg filltir enfawr wrth gyflawni'r prosiect, a fydd yn creu swyddi ac yn helpu i dyfu economi Cymru."
Ychwanegodd gweinidog ynni llywodraeth y DU, Michael Shanks: "Ry'n ni'n cefnogi hydrogen oherwydd ei fod yn hanfodol wrth ddadgarboneiddio diwydiant, gyrru buddsoddiad, hybu ein diogelwch ynni a chreu cannoedd o swyddi yn ein cadarnleoedd diwydiannol.
"Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos sut mae Cymru'n cofleidio trawsnewid i ynni glân, gydag un o'r safleoedd cynhyrchu hydrogen carbon isel masnachol cyntaf y DU.
"[Bydd hyn] yn creu cyfleoedd newydd i gymunedau lleol."
Dywedodd Werner Lieberherr, prif weithredwr MorGen Energy, ei fod yn garreg filltir i'r cwmni a sector hydrogen y DU.
Ychwanegodd ei fod yn dangos bod modd cyflawni prosiectau hydrogen gwyrdd yn y DU fel "buddsoddiadau dibynadwy".
"Ry'n ni'n ddiolchgar am gefnogaeth gref llywodraeth y DU," meddai Mr Lieberherr, "ac edrychwn ymlaen at ddechrau adeiladu a chyflenwi hydrogen i'n cwsmeriaid o 2028."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.