138 yn colli eu swyddi wrth i gwmni ynni yn ne Cymru fynd i'r wal

Mae 138 o 143 o weithwyr cwmni Amber Energy Solutions Ltd wedi cael eu diswyddo
- Cyhoeddwyd
Mae dros 100 o bobl wedi colli eu swyddi wrth i gwmni rheoli ynni yn ne Cymru fynd i'r wal.
Mae Amber Energy Solutions Ltd, oedd yn masnachu dan yr enw Amber, yn dweud bod ganddyn nhw dros 250 o gleientiaid - gan gynnwys rhai enwau adnabyddus fel Legal & General, Next, Aston Martin, Undeb Rygbi Cymru a Poundland.
Cafodd y cwmni ei sefydlu gan Nick Proctor o Gaerdydd yn 2009 ac roedd ganddyn nhw swyddfeydd yn Sgwâr Canolog y brifddinas.
Mae'r cwmni'n dweud eu bod yn "trawsnewid y ffordd y mae busnesau'n ymgysylltu ag ynni" gan gefnogi cwmnïau i arbed arian a lleihau eu hallyriadau carbon deuocsid.
'Angen i'r gadwyn gyflenwi leol fod yn barod ar gyfer Wylfa newydd'
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Tynnu cynlluniau parc ynni yn Sir Gâr yn ôl wedi adolygiad
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
'Heriau digynsail' y diwydiant olew gwresogi wrth i brisiau ddyblu
- Cyhoeddwyd23 awr yn ôl
Roedd Amber yn buddsoddi mewn amrywiaeth o brosiectau i wrthbwyso carbon gan gynnwys prosiect coedwigaeth yn Ne America a fferm solar ym Morocco.
Cafodd y gweinyddwyr o FRP Advisory Trading ym Mryste eu penodi ar 3 Mawrth.
Mewn datganiad dywedodd y gweinyddwyr fod Amber wedi wynebu pwysau ariannol a heriau o ran llif arian wrth i'r refeniw leihau yn ystod 2025.
Mae FRP wedi cynnal "proses farchnata i archwilio dewisiadau ar gyfer y busnes a'i asedau. Er bod diddordeb cychwynnol gan nifer o bartïon, dim ond asedau cyfyngedig" lwyddon nhw i'w gwerthu yn y pen draw.
Ychwanegon nhw eu bod wedi archwilio "gwerthiant diddyled" ond fe dynnodd y rhai oedd yn mynegi diddordeb yn ôl.
"Yn anffodus, doedd y gwerthiant ddim yn darparu ar gyfer trosglwyddo'r gweithlu ehangach ac mae 138 o 143 o weithwyr y cwmni wedi cael eu diswyddo," medd datganiad.
Aeth y datganiad ymlaen i ddweud mai eu "ffocws nawr yw cefnogi gweithwyr trwy'r broses hawlio a gweithio i wneud y mwyaf o adferiadau i gredydwyr".
Roedd cyfrifon diwethaf Amber, oedd yn cynnwys ystadegau ar gyfer 2024, yn nodi fod ganddyn nhw drosiant o ychydig dros £11m.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.