Y Dreth Gyngor: Galw am ddiwygio system sy'n 'anheg i'r tlotaf'

Bydd y biliau treth cyngor ymhob awdurdod yng Nghymru yn codi o fis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Bydd biliau y dreth gyngor yng Nghymru yn codi ar gyfartaledd o 4.9% o fis Ebrill, wedi i'r 22 awdurdod lleol gymeradwyo eu cyllidebau ar gyfer 2026/27.
Ym Mro Morgannwg a Chonwy bydd y cynnydd mwyaf, sef 6.5%, gyda'r isaf yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd ond yn bwriadu codi'r dreth o 3.5%.
Er bod y rhan fwyaf o incwm cynghorau lleol yn dod o grant blynyddol gan Lywodraeth Cymru, gyda threthi busnes hefyd yn cyfrannu, mae'r dreth yn cyllido cyfran sylweddol o'r gwasanaethau.
Mae cynghorau sir Cymru yn gyfrifol am ystod eang o wasanaethau statudol gan gynnwys casglu sbwriel, darparu gofal cymdeithasol i oedolion a phlant, addysg, tai cymdeithasol a chynnal ffyrdd.
Ond er y pwysau cynyddol ar gynghorau ledled Cymru, mae'n un o'r biliau mwyaf y mae aelwydydd yn ei dderbyn bob blwyddyn.
Wedi'i sefydlu yn y 1990au cynnar, mae'r dreth wedi bod yn destun beirniadaeth ers tro am ei fod yn seiliedig ar brisiau eiddo yn hytrach na gallu pobl i dalu.
O dan y rheolau presennol, mae unrhyw un sy'n methu taliad misol yn atebol i dalu bil y flwyddyn gyfan ar ôl pythefnos yn unig.
Ond o fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd y cyfnod yn cael ei ymestyn i ddeufis wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau i'r rheolau.
Mae hefyd yn ei wneud yn ofynnol i gynghorau ymyrryd yn gynt a chyfathrebu'n well gyda phobl sy'n ei gweld hi'n anodd talu.
Mae rhai trigolion tlotach hefyd yn gymwys i gael cymorth o Gynllun Gostyngiadau y Dreth Gyngor, wnaeth olygu biliau llai i 256,489 o gartrefi ym Mawrth 2025.
'Angen system decach'
Ond tra bod cymorth ar gael, mae rhai yn galw am ddiwygio'r system yn ei gyfanrwydd.
Mae Dr Steffan Evans, Prif Weithredwr Sefydliad Bevan, yn bendant bod y system bresennol yn annheg.
"Mae'r dreth gyngor yn cyfri fel canran uwch o incwm pobl yn y mannau tlotaf yng Nghymru ", meddai.
"Dyw e ddim yn dreth sy'n dilyn pa mor gyfoethog ydy pobl, ma fe'n un o'r rheina lle mae'r tlotaf yn talu cyfran uwch [o'u hincwm] na phobl fwy cyfoethog na nhw."

Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan
Ychwanegodd Dr Steffan Evans: "Mae cynlluniau at 2028 i edrych ar ail fandio, fi'n credu byddai hwnna yn gam ymlaen ac yn gwneud y dreth yn agoach at werth cyfredol tai.
"Ond mae angen edrych ar y system yn y tymor hir o ran ystyried incymau lleol hefyd a nid jyst costau tai."
Ei neges i'r Llywdraeth ar ôl yr etholiadau ym mis Mai yw i edrych ar ail fandio yn 2028 ond wedyn i "gyflwyno system decach sy'n ystyried lefelau incwm a chyfoeth yn ehangach".
"Dyw e ddim yn syndod ein bod wedi gweld cynnydd mewn treth gyngor, mae'r pwysau sydd wedi bod ar gynghorau lleol yn arswydus o uchel a maen nhw wedi teimlo'r angen.
"Oherwydd y dewis arall yw torri gwasanaethau sylfaenol mae pobl yn dibynnu arnyn nhw yn eu cymunedau.. dyna pam mae angen system tecach."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd Llafur Cymru bod gan Gymru "eisoes y system dreth cyngor tecaf yn y DU" ac o fis Ebrill ymlaen bydd "mwy o amser i aelwydydd i ofyn am gymorth".
A "thra bod un o bob pum aelwyd yn derbyn cymorth i dalu eu biliau", bod gan y blaid "fwriad i wneud y dreth hyd yn oed yn decach".
Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi gwthio mewn trafodaethau cyllideb ddiweddar i "atal codiadau treth cyngor anfforddiadwy" yn 2026-27 drwy sicrhau codiad mwy yn y setliad sy'n cael ei ddarparu i awdurdodau lleol.
Pe baent yn ffurfio llywodraeth, bydden nhw'n "gweithredu polisïau sy'n anelu at sicrhau bod gan bobl fwy o arian yn eu pocedi" gan gynnwys gweithio gydag awdurdodau lleol ar ddiwygiadau yn y dyfodol.
Byddai Reform a'r Ceidwadwyr Cymreig yn capio codiadau treth gyngor ar 5%, gan ei gwneud yn ofynnol i gynnal refferendwm os yw cyngor yn bwriadu cynnydd mwy.
A dywed Reform os yw cynghorau'n "trin cynnydd o 4.99% fel targed" yna ni fyddent "yn ofni gostwng hynny ymhellach oherwydd mae cadw biliau'n isel yn bwysig iawn i bobl ledled Cymru".
Byddai'r Blaid Werdd bod y dreth "yn un annheg ac i lawer o bobl" ac y byddent yn ei "ddisodli gyda threth gwerth tir tecach fel bod y rhan fwyaf o bobl yn talu llai, tra bod perchnogion eiddo cyfoethocaf yn cyfrannu mwy".
Dywed Democratiaid Rhyddfrydol Cymru gan fod cynghorau'n "cael eu gorfodi fwyfwy i wario rhannau enfawr o'u cyllidebau ar ofal cymdeithasol", y byddai eu cynlluniau nhw i ddiwygio gofal cymdeithasol "yn lleihau'r pwysau oddi ar gyllid awdurdodau lleol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2025
