O Singapore i'r Tube: Y Gymraes fu'n gweithio ar brosiectau ar draws y byd

Bethan Rhys RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Rhys Roberts wedi teithio'r byd yn gweithio ar brosiectau amrywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymraes wedi siarad am ei phrofiad o deithio'r byd yn gweithio ar brosiectau mawr fel system cludo nwyddau porthladd Singapore a datblygu ynni gwyrdd cwmni Shell.

Bu hefyd yn gweithio fel rhan o dîm oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw rheilffordd danddaearol Llundain ac mae hi wedi byw a gweithio yn Seland Newydd, yr UDA a'r Iseldiroedd.

Ond pan aeth Bethan Rhys Roberts i'r brifysgol yn Leeds i astudio peirianneg gemegol yn yr 1980au, roedd hi'n un o ddim ond pedair o ferched ymysg 50 o fyfyrwyr.

Singapore - porthladd mwya'r byd

Wedi cyfnod yn helpu cwmnïau i wneud tabledi asprin ac i gwmni olew Shell yn yr Iseldiroedd aeth y cyn-ddisgybl Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug, i weithio i borthladd Singapore - y mwyaf yn y byd ar y pryd.

Roedd yn rhan o dîm oedd yn sicrhau bod nwyddau o bedwar ban byd yn cael eu cludo i'r llefydd cywir.

Roedd systemau cyfrifiadurol yn cael eu creu i gadw trac ar yr holl gynnyrch oedd yn mynd a dod i'r porthladd mewn bocsys anferth wedi eu cludo ar longau.

Dywedodd ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru: "[Y gwaith oedd] trefnu sut mae bocs yn mynd o A i B.

"Beth oeddech chi'n cael oedd container ships yn dod a rhaid i chi weithio allan pa focsys i roi ar ba gwch, pa focsys i dynnu i ffwrdd o'r cwch ac wedyn pwy oedd yn mynd i gasglu'r bocsys

"Mae'r bocsys yma'n mynd rownd y byd ac mae 'na gannoedd o filoedd ohonyn nhw so mae'n rhaid i chi weithio allan lle maen nhw i gyd yn mynd, o le maen nhw gyd yn dod ac wedyn y gwaith papur gan fod nhw'n dod trwy'r porthladd a mynd trwy'r taxes.

"Mae lot o waith papur yn mynd efo bocs."

Bocsys llawn nwyddau ym mhorthladd SingaporeFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Bocsys llawn nwyddau ym mhorthladd Singapore

Fe fuodd hi hefyd yn gweithio ym mhorthladd Aukland, Seland Newydd, cyn iddi symud i Lundain.

Yno roedd hi'n gweithio ar y system drenau tanddaearol hynaf yn y byd - y Tube.

Roedd hi'n rhan o'r prosiect wnaeth sicrhau bod ceblau yn cael eu gosod er mwyn i deithwyr o dan ddaear gael mynediad i'r we. Roedd y tîm hefyd yn sicrhau bod gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y 250 milltir o drac rheilffordd a'r 272 gorsaf sy'n rhan o'r system drafnidiaeth.

Dywedodd: "Mae'r trenau'n mynd trwy'r dydd ac maen nhw'n gorffen yn y nos ac wedyn dyna pryd oedd swydd fi'n rili dechrau.

"Roedd yn rhaid trefnu maintenance a llnau... a thrwsio pethau efo popeth yn digwydd yn nos.

"Yn ystod y dydd ro'n i mewn swyddfa yn rhoi'r systemau i mewn i managio'r prosiect, i weithio allan y costau, i drefnu pwy i droi fyny yn ble.

"Os oedden nhw'n adnewyddu gorsaf, mae'n rhaid iddyn nhw gael y teils arbennig sy'n y London Underground.

"Mae'n rhaid i chi drefnu i gael y teils i gyrraedd ar yr adeg iawn a bod y gweithwyr i gyd yn troi fyny, a phawb yn gwisgo'r hetiau ac ati a gwneud yn siŵr bod yr electrics ar y rails yn cael eu troi i ffwrdd."

Ynni gwyrdd nawr yn 'rhy gostus'

Yn ddiweddarach fe gafodd swydd fel prif swyddog data gyda chwmni Shell ac yn 2019 bu'n gweithio yn San Fransisco yn datblygu ynni gwyrdd i'r cwmni.

Ond fe gollodd ei gwaith yn ddiweddar oherwydd effaith y cynnydd mewn costau - er enghraifft pris haearn i godi ffermydd gwynt - a newid polisïau, yn enwedig yn yr UDA o dan lywodraeth Donald Trump.

"Mae'r pwyslais wedi mynd o drio ynni gwyrdd a gwneud pethau i wneud ynni i ni fel consumers allan o ynni gwyrdd - mae o wedi mynd rhy gostus," meddai.

"Mae pris olew wedi disgyn, mae jest yn haws cael olew a gas allan o'r ddaear. Dwi'n meddwl eith o fel arall pan mae costau olew yn mynd i fyny wedyn fydd ynni gwyrdd yn edrych yn fwy effeithiol.

"Bydd olew yn gorffen ond 'dan ni ddim isio dibynnu ar gymaint o olew ac yn enwedig dibynnu ar olew mewn llefydd yn y byd sy'n mynd i fod efo problemau fel Iran ac Iraq."

Gallwch wrando ar y cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar 15 Mawrth ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig