Peredur Glyn: 'Pwysicach cael pobl ifanc i siarad Cymraeg na gramadeg cywir'

Peredur GlynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae un o brif lenorion Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn dweud bod gormod o bwyslais ar safon y Gymraeg wrth drafod dyfodol yr iaith.

Dywed Peredur Glyn mai un o'r heriau mwyaf yw cael pobl ifanc i siarad Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol a bod yna "le i fratiaith".

Ychwanegodd bod hefyd angen canolbwyntio fwy ar gynyddu faint o bobl sy'n cymryd rhan mewn diwylliant Cymraeg - fel darllen llyfrau a gwylio a gwrando ar raglenni.

Mae'r awdur, wnaeth ennill Medal Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Wrecsam 2025, yn uwch-ddarlithydd ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor.

'Angen bywiogi'r Gymraeg'

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar Radio Cymru dywedodd Peredur Glyn Webb-Davies bod nifer yn poeni am ddyfodol yr iaith o ran gramadeg a safon ond bod angen blaenoriaethu elfennau eraill sy'n fwy o berygl i'w dyfodol.

Meddai: "Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar beth sydd yn digwydd i'r siaradwyr Cymraeg ifanc sydd yn gadael ysgol yn 18 oed ac wedyn yn stopio defnyddio'r Gymraeg.

"Mae hanner ein siaradwyr Cymraeg ni'n disgyn yn y categorïau yna."

Dywedodd nad oedd canran uchel o'r Cymry sy'n medru'r iaith yn rhan o'i diwylliant, a byth yn darllen llyfrau Cymraeg nac yn gwrando ar Radio Cymru na gwylio S4C.

"Lle mae'r cannoedd o filoedd a siaradwyr Cymraeg sydd ar y cyfrifiad pam 'da ni'n sôn am bethau fel hynny?" meddai.

"Beth ydy'r ffactorau sydd yn mynd i roi bywiogrwydd i'r Gymraeg yn y dyfodol ac i'n diwylliant ni?

"Dwi'n meddwl bod hynny'n mynd llawer tu hwnt i'r gramadeg a'r geiriau sy'n cael eu defnyddio."

Peredur Glyn yn ennill Gwobr Goffa Daniel OwenFfynhonnell y llun, Yr Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Peredur Glyn - a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 gyda'r ffugenw Ozymandias - yn ysgrifennu o fewn y genre arswyd cosmig

Mae'r academydd wedi gwneud doethuriaeth ar gyfnewid cod - code switching - gan Gymry Cymraeg. Dyma'r arferiad mewn cymunedau dwyieithog o ddefnyddio geiriau o fwy nag un iaith wrth siarad, ond sy'n gallu amrywio yn ôl y sefyllfa.

Mae hyn yn gyffredin ymysg Cymry Cymraeg ble gall rhywun ddefnyddio iaith safonol mewn rhai sefyllfaoedd cyn siarad iaith fwy anffurfiol gyda mwy o eiriau Saesneg gyda grŵp arall o bobl.

Dywedodd yr awdur bod angen meddwl am gywirdeb a safon y Gymraeg yn y cyd-destun yma ac nad oedd o'n hoff o'r gair 'bratiaith' gan ei fod yn rhy negyddol.

Meddai: "Mae'n air, wrth gwrs, sydd yn feirniadol ac mae o'n awgrymu rhywbeth fel bod yr iaith yn rhacs, bod yr iaith yn sgrapi, bod hi ddim yn ddigon da.

"Beth mae hynny'n golygu ydy bod hi'n iaith sydd ddim yn safonol a ddim yn draddodiadol.

"Mae unrhyw iaith sydd yn ddealladwy yn iaith iawn. Dyna ydy craidd y rhan fwyaf o farn y rhan fwyaf o ieithyddion.

"Os ydych chi'n gallu gwneud synnwyr yna 'da chi'n siarad iaith oce.

"Dwi'n meddwl bod yna ddigon o le i fratiaith - os 'da chi eisiau ei galw'n hynny - iaith anffurfiol. Dyna beth 'da ni'n defnyddio er mwyn cyfathrebu a dangos pwy ydan ni."

Ychwanegodd ei bod hefyd yn bwysig cael "geirfa lawn o'r Gymraeg lenyddol" er mwyn gallu gwneud tasgau fel darllen llenyddiaeth Cymraeg ac ysgrifennu neu ddarllen adroddiadau safonol.

Mae angen medru sawl math gwahanol o Gymraeg, meddai, er mwyn defnyddio iaith safonol pan fo angen a geiriau Saesneg mewn sefyllfa anffurfiol "os mai dyna sydd yn ffasiynol iddyn nhw ac yn ffordd iddyn nhw fynegi eu hunain".

Mewn cyfweliad diweddar dywedodd Stephen Rule, athro sydd efo dilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol fel y Doctor Cymraeg, bod angen derbyn bratiaith er mwyn annog mwy o bobl i siarad Cymraeg.

Daw Peredur Glyn o Ynys Môn, ac mae o a'i deulu yn byw ym Mhorthaethwy.

Aeth i Ysgol Gymuned Bodffordd ac Ysgol Gyfun Llangefni, cyn graddio ym Mhrifysgol Caergrawnt a chwblhau doethuriaeth mewn ieithyddiaeth o Brifysgol Bangor yn 2010.

Fe enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod yn Wrecsam am ei nofel Anfarwol.

Gallwch wrando ar y cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 ar 8 Mawrth ac ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.