Rhybuddion am lifogydd yn parhau a rhan o Borthladd Caergybi ar gau

Roedd hi'n wlyb iawn yn Fachwen, ger Brynrefail, ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion am lifogydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn parhau ddydd Sul ac mae rhan o Borthladd Caergybi wedi'i gau.
Mae rhybudd coch yn dal mewn grym yn Ninbych-y-pysgod a'r ardaloedd sy'n cael eu heffeithio waethaf ydy Parc Gwyliau Kiln, ffordd B4318 ar Lôn Clicketts, Ffordd Gumfreston a ffordd fach Lôn Trefloyne.
Mae sawl rhybudd i 'fod yn barod' am lifogydd hefyd a gellir gweld y rhestr lawn ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol [CNC].
Mae rhai o'r rhybuddion yn arfordirol oherwydd llanw uchel y gwanwyn sy'n gysylltiedig â "lleuad oer lawn Rhagfyr".
Nid oes rhybudd tywydd gan y Swyddfa Dywydd, dolen allanol ar gyfer dydd Sul yng Nghymru.

Bu Porthladd Caergybi ar gau'n rhannol am saith mis ar ôl difrod a achoswyd gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024
Mae un o borthladdoedd prysuraf y DU wedi cau un o'i derfynellau yn dilyn "digwyddiad angori" a gafodd ei achosi gan y tywydd garw.
Fe ddigwyddodd ddydd Gwener yn Nherfynell 5 ym Mhorthladd Caergybi ar Ynys Môn.
Mae Stena Line Port wedi cyhoeddi y bydd y derfynfa'n parhau ar gau dros dro i sicrhau diogelwch.
Dywedon nhw fod y porthladd "yn parhau i hwyluso'r amserlen hwylio lawn ar gyfer gweithredwyr fferi".
Fe wynebodd Caergybi fisoedd o aflonyddwch ar ôl i Storm Darragh daro Cymru ym mis Rhagfyr 2024.
Ni wnaeth ailagor yn llawn nes mis Gorffennaf diwethaf, ar ôl saith mis o fod ar gau'n rhannol.

Roedd tonnau Aberystwyth yn ffyrnig fore Sadwrn
Disgrifiodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, y datblygiad fel "mater o bryder sylweddol".
"Mae'r newyddion am darfu pellach ym Mhorthladd Caergybi yn fater o bryder sylweddol.
"Profodd cau'r porthladd llynedd pa mor niweidiol all golli capasiti terfynell fod, gydag effaith andwyol yn benodol ar drigolion lleol, busnesau lleol, cludwyr a theithwyr bryd hynny.
"Y flaenoriaeth rŵan yw deall beth yn union sydd wedi digwydd a beth allai'r goblygiadau fod.
"Byddaf yn gwneud ymholiadau pellach i Lywodraeth Cymru a Stena Line ar unwaith," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
