Rhybuddion llifogydd ar draws Cymru yn sgil rhagor o law trwm

Caeau dan ddŵr yn Abergwili ger Caerfyrddin ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cyhoeddi sawl rhybudd llifogydd ddydd Llun tra bod gan y Swyddfa Dywydd rybudd oren mewn grym am law trwm.
Am 22:00 nos Lun roedd gan CNC wyth coch mewn grym yn ogystal â tua 44 o rybuddion oren 'byddwch yn barod'.
Yn y de-orllewin mae'r rhybuddion coch mewn grym ar gyfer Afon Tywi rhwng Llandeilo ac Abergwili, Afon Cynin yn Sanclêr, Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod ac Afon Cothi mewn ardaloedd isel ym Mhontargothi a Phont Ynys-wen.
Mae rhybuddion hefyd yn y gogledd-orllewin - ger afonydd Colwyn a Glaslyn ym Meddgelert, ac Afon Rhyd Hir ym Mhwllheli - a ger Afon Elái yn Llanbedr-y-fro, Bro Morgannwg.
Mae rhybuddion oedd mewn grym ger Afon Tywi yn Llanwrda, Afon Hydfron yn Llanddowror ac Afon Clydach Isaf wrth Bont Clydach bellach wedi cael eu dileu.
Mae modd gwirio'r rhybuddion a'r cyngor diweddaraf ar wefan CNC, dolen allanol.
Llifogydd ger Llanfechell, Ynys Môn fore Llun
Mae ffyrdd wedi bod ar gau mewn mannau oherwydd llifogydd, gan gynnwys yr A4085 mewn dau le yng Ngwynedd - rhwng Waunfawr a Rhyd Ddu, a rhwng Pont Aberglaslyn a Llanfrothen.
Yn Sir Benfro mae'r cyngor wedi dweud fod llifogydd ar draws y sir. Ymysg y problemau yno, mae'r A4139 dan ddŵr ger Dinbych-y-pysgod, ac mae coeden wedi disgyn ar yr A40 ger Trefgarn.
Mae Traffig Cymru yn galw ar bobl i wirio'r rhybuddion neu gyfyngiadau ffordd diweddaraf, dolen allanol cyn teithio ac i ystyried a oes wir angen gwneud y daith.

Mae rhybuddion coch mewn grym o amgylch afonydd Colwyn a Glaslyn ym Meddgelert
Mae'r tywydd wedi cael rhywfaint o effaith ar ysgolion mewn rhai ardaloedd hefyd.
Fe wnaeth Ysgol Gynradd Pendeulwyn ar gyrion Caerdydd gynghori rhieni i ddod i nôl eu plant yn gynharach na'r arfer ddydd Llun gan fod dŵr wedi casglu o amgylch yr ysgol.
"Oherwydd y glaw trwm a'r ffaith bod dŵr wedi casglu ar ochr y ffordd rydyn ni wedi gofyn i rieni ddod i nôl eu plant yn gynnar am resymau diogelwch," meddai'r pennaeth Emma Harris.
"Mae ymateb y rhieni wedi bod yn wych, a hynny gan mai diogelwch yw'r flaenoriaeth."
'Risg posibl i fywyd ac eiddo'
Mae rhybudd oren y Swyddfa Dywydd am law trwm mewn grym ar gyfer rhannau helaeth o'r de tan 21:00 nos Lun.
Mae rhybudd oren yn golygu bod "risg posibl i fywyd ac eiddo".
Bu glaw trwm ar draws y de nos Sul ac roedd disgwyl iddo barhau trwy gydol ddydd Llun gyda hyd at 40mm o law yn bosib mewn mannau, a hyd at 120mm ar dir uchel.
Mae holl siroedd y de, ac ardaloedd yn ne'r canolbarth yn rhan o'r rhybudd oren.

Mae'r rhybudd oren am law yn gorchuddio holl siroedd y de
Mae rhybudd melyn am law mewn grym hefyd ar Cymru gyfan oni bai am Sir y Fflint.
Daw'r rhybudd hwnnw i ben am 21:00 nos Lun hefyd.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd fe allai'r tywydd garw arwain at lifogydd difrifol.
Fe allai hefyd arwain at gau ffyrdd ac achosi trafferthion i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae colli cyflenwadau trydan, nwy a dŵr hefyd yn bosib, meddai'r arbenigwyr.
Fe ddaw'r rhybuddion diweddaraf yn dilyn llifogydd difrifol yn y de-orllewin a Sir Fynwy yn ddiweddar.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2025
