Trigolion Trefynwy'n dod ynghyd i glirio yn dilyn llifogydd

Menyw a dyn, gyda'u cefnau at y camera, yn dal dwylo wrth gerdded trwy lifogydd ar lefel uwch na'r ffêr yn NhrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gymuned yn Nhrefynwy wedi dod ynghyd mewn ymateb i'r llifogydd, medd AS lleol

  • Cyhoeddwyd

Mae pobl wedi dod at ei gilydd yn Nhrefynwy er mwyn helpu teuluoedd a busnesau sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd difrifol, yn ôl yr AS lleol.

"Mae'r gymuned hon yn hynod o garedig a gwydn," meddai Catherine Fookes, wrth i ganolfan hamdden y dref groesawu pobl sydd wedi gorfod ffoi o'u cartrefi.

Mae eglwys hefyd yn cael ei defnyddio fel man gollwng ar gyfer rhoddion, fel dillad, ac mae busnesau lleol wedi bod yn darparu bwyd poeth.

Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De 'ddigwyddiad difrifol' yn yr ardal fore Sadwrn, gyda dwsinau o bobl yn cael eu hachub gan y criwiau, ond fe gafodd y statws hwnnw ei ddiddymu brynhawn Sul.

TrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 'digwyddiad difrifol' ei ddatgan am 01:30 fore Sadwrn

Roedd pedwar rhybudd llifogydd difrifol mewn grym gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (CNC) yn ardal Gwy yn Nhrefynwy fore Sul, gyda phryder o "berygl sylweddol i fywyd", ond erbyn dechrau'r prynhawn, un rhybudd 'byddwch yn barod' oedd yn dal yn weithredol.

Mae Afon Mynwy wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar gofnod yn uwch hyd yn oed nag yn ystod Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024.

Dywedodd Aelod Seneddol Trefynwy ei bod hi'n "gyfnod pryderus iawn i breswylwyr a busnesau nawr" ac er bod y broses o lanhau'n parhau, y bydd angen ailystyried yr amddiffynfeydd llifogydd presennol.

"Fe wnaeth yr amddiffynfeydd llifogydd eu gwaith mewn sefyllfa debyg yn 2020 ond y tro hwn, mae maint y dŵr, sy'n cyrraedd mor gyflym mewn cyn lleied o oriau, yn ddigyffelyb," meddai Ms Fookes.

"Rwy'n meddwl nawr, gyda newid hinsawdd a nifer y digwyddiadau tywydd mawr rydym yn eu profi, bydd yn rhaid i ni ailedrych ar ein hamddiffynfeydd llifogydd."

Llun o'r awyr o'r llifogydd yn Nhrefynwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy afon wedi gorlifo gan achosi llifogydd yng nghaeau ac ar strydoedd Trefynwy

Mae'r AS nawr yn galw am fwy o arian "ar gyfer preswylwyr [a'r] broses lanhau" ac ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd".

Cyfeiriodd ar achosion o lifogydd diweddar hefyd yn Y Fenni a ger pentref Ynysgynwraidd, sydd wedi cael llifogydd "bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf".

"Un o'r pethau mwyaf anhygoel yng Nghanolfan Hamdden Trefynwy ddoe oedd yr aelodau staff anhygoel, a'r holl wirfoddolwyr yn dod i mewn gan ddweud, 'wna' i warchod y teulu hwn', 'na i gymryd y teulu arall' - a ffrindiau'r bobl yn rhedeg o gwmpas gan gynnig rhywle i aros i bobl â chathod a chŵn ac ati, na fyddai'n gallu aros mewn gwestai."

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi delio â thros 80 o alwadau erbyn prynhawn Sadwrn.

Catherine Hall o flaen ei siop - a Susie Martinez gyda'i dau fab meibion yn Nhrefynwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae siop Catherine Hall (chwith), perchennog busnes yn Nhrefynwy wedi cael ei effeithio gan y llifogydd, ac fe gafodd Susie Martinez a'i meibion (dde) eu hachub gan gwch yn ystod oriau mân y bore

Disgrifiodd Susie Martinez, 42, sut y cafodd hi a'i meibion naw a phump oed, Louis a Joey, eu hachub o'u fflat yn Nhrefynwy ddydd Sadwrn am 03:30.

"Roedd yn rhaid i ni ddringo allan drwy'r ffenestr ac i mewn i'r cwch," meddai. "Roedd yn ddychrynllyd."

Dywedodd Catherine Hall sy'n berchennog siop ei bod wedi cadw'r busnes ar agor i gwsmeriaid er gwaethaf y difrod.

"Mae chwech wythnos i fynd tan y Nadolig, a dwi'm yn siŵr beth fydd yn digwydd cyn hynny," meddai.

"Mae'n ofnadwy. Dwi 'di colli gwerth miloedd ar filoedd o stoc."

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 5, Trigolion yn ciwio y tu allan i Siop 'Paws Pet' er mwyn casglu a gwarchod pysgod, ar ol apel ar gyfryngau cymdeithasol yn gofyn i achub y pysgod cyn i'r trydan gael ei ddiffodd., Trigolion yn Nhrefynwy mewn ciw y tu allan i siop Paws Pet i achub y pysgod cyn i'r trydan gael ei ddiffodd

Mae'r AS wedi annog siopwyr i beidio â chadw draw o Drefynwy wrth i'r Nadolig agosáu, er mwyn sicrhau na fydd busnesau sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd yn dioddef rhagor.

"Mae busnesau'n parhau i fod ar agor heddiw felly plîs peidiwch ag osgoi Trefynwy am y chwech wythnos nesaf, oherwydd byddwn yn glanhau'r difrod yn gyflym," meddai.

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd swm record o £77m yn cael ei fuddsoddi ym maes amddiffyn llifogydd eleni, fel rhan o'u "hymrwymiad" at warchod dros 45,000 o dai.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda'r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd, a hoffem ddiolch i'r gwasanaethau argyfwng a'r asiantaethau lleol sydd wedi bod yn gweithio'n galed i gadw'n cymunedau'n ddiogel."

Ychwanegodd y Llywodraeth eu bod "mewn cysylltiad â Chyngor Sir Fynwy am y cymorth sydd ar gael" a bod Busnes Cymru ar gael i "ddarparu gwybodaeth ymarferol" a "chyngor busnes" i helpu busnesau reoli'r difrod sydd wedi'i achosi gan y stormydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram, neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig