Rhybuddion am berygl i fywyd dal mewn grym yn Nhrefynwy yn dilyn llifogydd

TrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pedwar rhybudd am lifogydd difrifol mewn grym yn Sir Fynwy gan Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol, sy'n golygu bod perygl i fywyd dal yn bosibl.

Cafodd 'digwyddiad difrifol' ei ddatgan am 01:30 fore Sadwrn ar ôl i Storm Claudia daro Cymru, a llifogydd i'w gweld mewn sawl ardal yn enwedig Trefynwy ac Y Fenni.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn gweithio trwy nos Sadwrn er mwyn ceisio achub pobl o'u cartrefi a'u cymryd i fannau mwy diogel.

Dywedodd CNC bod lefelau afonydd yn gostwng, ar ôl i Storm Claudia gilio, ond bod llifogydd yn parhau.

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid1 o 7, Trefynwy, Cafodd 'digwyddiad difrifol' ei ddatgan yn Nhrefynwy am 01:30 bore dydd Sadwrn

Yr ardaloedd ble mae afonydd yn wynebu rhybuddion am lifogydd difrifol bore Sul ydy:

  • Afon Mynwy yn Watery Lane, Uwch Mynwy,

  • Afon Gwy yn Nhrefynwy,

  • Afon Mynwy yn Forge Road yn Osbaston ac

  • Afon Mynwy yn Ynysgynwraidd.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru maen nhw wedi delio ag o leiaf 82 o ddigwyddiadau yn ymwneud â'r llifogydd yn ardal Sir Fynwy.

Dywedon nhw bod y rhan fwyaf o broblemau wedi bod yn Nhrefynwy ac Y Fenni.

Nos Sadwrn roedd tua 684 o gartrefi heb bŵer a doedd y cyflenwad methu cael ei ddychwelyd gan fod gymaint o ddŵr yn amharu ar yr ymdrechion.

Dywedodd Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Matt Jones:

"Mae hwn yn ddigwyddiad mawr, ac mae ein criwiau a'n partneriaid wedi bod yn gweithio'n ddiflino drwy'r nos ac i mewn i heddiw er mwyn helpu'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Ni'n annog pawb i osgoi ardal Trefynwy yn llwyr."

'Golygfeydd syfrdanol'

Am 02:45 fore Sadwrn fe gyrhaeddodd lefelau dŵr Afon Mynwy uchder o 6.6 metr - y lefel uchaf i'r mesurydd yn yr ardal ei chofnodi erioed ers cael ei osod yn 1987.

Cafodd y record blaenorol ei osod yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020.

Mewn datganiad fe ddywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, a'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, bod Storm Claudia wedi achosi "llifogydd sylweddol mewn rhannau o Gymru dros nos".

Maen nhw hefyd yn cydnabod "ac yn diolch i bawb yn ein cymunedau sy'n helpu eu cymdogion a'u ffrindiau".

Dywedodd Aelod Seneddol Mynwy, Catherine Fookes, bod ei "meddyliau gyda phawb y mae'r llifogydd difrifol wedi effeithio arnyn nhw".

"Mae'r golygfeydd ar draws y sir yn syfrdanol" meddai "a gallaf ond dychmygu pa mor erchyll yw hyn i'r trigolion y mae eu cartrefi a'u busnesau wedi cael eu heffeithio".

Ychwanegodd bod gan Sir Fynwy "ysbryd cymunedol gwych ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n parhau i dynnu at ein gilydd a chefnogi ein gilydd wrth i'r gwaith glanhau ddechrau".

TrefynwyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn annog pobl i osgoi teithio yn yr ardal, ac yn pwysleisio eu bod yn gweithio'n galed i helpu pawb sydd wedi cael eu heffeithio.

Dywedodd y cynghorydd Martin Newell, sydd â busnes yn y dref ei fod yn torri ei galon wrth feddwl am y rhai sydd wedi cael eu heffeithio.

"Dydw i ddim wedi gweld e mor wael â hyn yn Nhrefynwy am 20 i 30 mlynedd" meddai.

"Ffrindie sy'n berchen y busnesau yma ac sydd hefyd yn byw yn yr eiddo yma".

Roedd yn diolch i'r gwasanaethau brys ac er bod "llawer o waith o'n blaenau ni" i lanhau wedi'r llifogydd "fe wnewn ni fe" meddai.

Yn dilyn y llifogydd yn Y Fenni mae arweinydd y cyngor lleol wedi agor cyfrif gyda masnachwyr adeiladu Robert Price er mwyn cefnogi unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio.

Mae modd i'r bobl leol gasglu bagiau tywod yno yn rhad ac am ddim os oes eu hangen arnynt i ddiogelu eu cartrefi a'u heiddo.

Mae National Rail wedi dweud "er bod y tywydd yn edrych yn well, rydyn ni'n dal i weld effaith Storm Claudia ar draws Cymru".

Mae'r rheilffordd rhwng Casnewydd a Henffordd yn parhau ar gau a hynny tan ddydd Llun.

Maen nhw hefyd yn cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio rhwng Casnewydd ag Amwythig oherwydd yr oedi.

Mae gorsafoedd Y Fenni a Phont-y-pŵl a New Inn hefyd ar gau.

Richard Mann
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Richard Mann, sy'n byw lleol, ddim wedi gweld llifogydd mor wael ers symud i'r ardal

Mae un preswylydd sy'n byw yn Nhrefynwy, Richard Mann, yn dweud bod y sefyllfa'n hollol "ofnadwy".

I ddechrau doedd e ddim yn credu'r peth.

"Nes i weld ar Facebook yr holl bethe'n digwydd a o'n i'n meddwl ai AI ydy o? Ydy rhywun yn neud jôc?"

Ond ar ôl gyrru lawr i'r canol sylweddolodd ei fod yn wir.

"Mae 'di clirio tipyn bach" meddai "ond ma' dal just yn ofnadwy".

"Dwi'n byw 'ma nawr ers 7 mlynedd ond sai byth 'di gweld e fel hyn o'r blaen.

Ychwanegodd bod llawer o fusnesau wedi cael eu heffeithio a'i fod "just yn edrych yn hollol ofnadwy".

Ebsoniodd eu bod nawr yn "aros i'r dŵr symud ymlaen ond ni'n byw ar bottom Monmouth so ni'n aros nawr i'r dŵr i ddod i ni".

Llifogydd ym MhenarthFfynhonnell y llun, Gareth Lee
Disgrifiad o’r llun,

Mae llifogydd i'w gweld ym Mhenarth hefyd arweiniodd at o leiaf un busnes yn gorfod cau ddydd Gwener

Brynhawn Gwener fe nododd y Grid Cenedlaethol bod dros 2,000 o gwsmeriaid heb bŵer yn ne a gorllewin Cymru.

Ymhlith y rhai hynny roedd bron i 500 eiddo heb drydan rhwng Rhydaman, Glanaman a Brynaman oherwydd nam foltedd uchel.

Roedd dros 300 o gwsmeriaid heb bŵer ar strydoedd yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.

Roedd dros 200 wedi colli cyflenwad yn ardal Caer yng Nghasnewydd ble cafodd y pŵer ei ddiffodd am resymau diogelwch.

Ac roedd 117 eiddo heb bŵer o amgylch ardal Blaenwaun, sydd i'r dwyrain o Grymych.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig