Cannoedd heb drydan wrth i Storm Claudia daro Cymru

Roedd y map tywydd yn dangos glaw ar draws Cymru, gyda'r cryfaf dros y de ddwyrain am 15:00
- Cyhoeddwyd
Mae cannoedd o gartrefi heb drydan wrth i Storm Claudia daro rhannau o Gymru ddydd Gwener ac mae nifer o rybuddion am lifogydd mewn grym.
Mae gan y Swyddfa Dywydd rybudd oren mewn grym ar gyfer rhannau o'r de-ddwyrain a chanolbarth Cymru tan 23:59 ddydd Gwener.
Mae 'na rybudd melyn am law a gwyntoedd cryfion hefyd mewn grym i rannau helaeth o Gymru.
Nos Wener fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol ddau rybudd llifogydd difrifol - ble mae perygl i fywyd - yn Sir Fynwy, yn ogystal â 10 rhybudd am lifogydd a nifer o rybuddion 'byddwch yn barod'.
Miloedd heb drydan
Brynhawn Gwener fe nododd y Grid Cenedlaethol bod dros 2,000 o gwsmeriaid heb bŵer yn ne a gorllewin Cymru.
Ymhlith y rhai hynny mae bron i 500 eiddo heb drydan rhwng Rhydaman, Glanaman a Brynaman oherwydd nam foltedd uchel.
Mae dros 300 o gwsmeriaid heb bŵer ar strydoedd yn ardal Treganna yng Nghaerdydd.
Hefyd mae dros 200 wedi colli cyflenwad yn ardal Caer yng Nghasnewydd lle mae'r pŵer wedi'i ddiffodd am resymau diogelwch.
Ac mae 117 eiddo heb bŵer o amgylch ardal Blaenwaun, sydd i'r dwyrain o Grymych.

Mae'r tywydd garw wedi effeithio ar sawl ffordd yn Sir Fynwy - dyma oedd yr olygfa wrth gylchfan ger Y Fenni nos Wener
Ymhlith yr afonydd a allai orlifo, dolen allanol, medd CNC, mae afonydd Tregatwg yn Ninas Powys, Gwy yn Nhrefynwy, Mynwy yn Watery Lane, Forge Road ac Ynysgynwraidd.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod 81.8mm o law wedi'i gofnodi yn barod ar gyfer y cyfnod rhwng 18:00 ddydd Iau a 16:00 ddydd Gwener, yn ôl mesurydd glaw CNC yng Ngwent.
Mae hynny'n cyfateb i 60% o gyfartaledd mis Tachwedd yr ardal (rhwng 1991 a 2020).
Ychwanegon nhw y bydd glaw trwm yn parhau dros nos.
Yn dilyn y rhybuddion oren sydd mewn grym tan hanner nos fe fydd yr amodau'n parhau'n beryglus gyda rhybuddion melyn am law mewn grym tan 06:00 fore Sadwrn.
Eisteddfod Dyffryn Ogwen wedi ei chanslo
Mae Eisteddfod Dyffryn Ogwen, oedd i fod i gael ei chynnal nos Wener wedi cael ei chanslo oherwydd y tywydd gwael.
Mae un lôn ar gau ar yr M4 i gyfeiriad y dwyrain ger Llansawel oherwydd llifogydd tra bod yr A5 Ffordd Bangor rhwng Llandygai a Bethesda hefyd ar gau.
Roedd nifer o ffyrdd yn Sir Fynwy ar gau nos Wener gan gynnwys yr A4042 ger Llanelen, yr A472 ger Y Felin Fach a'r A40 ger Coldbrook.
Mae Stena Line wedi cyhoeddi na fydd unrhyw deithiau nos Wener rhwng Abergwaun a Rosslare.
Hefyd mae holl longau Irish Ferries wedi'u canslo rhwng Caergybi a Dulyn brynhawn Gwener.
Yn ôl Trafnidiaeth Cymru, mae gwasanaethau rhwng Henffordd a de Cymru wedi eu gohirio yn ogystal â gwasanaethau rhwng Blaenau Ffestiniog a Llanrwst.
Mae'r lein rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a'r Barri hefyd ar gau ar ôl i goeden ddisgyn ar y traciau, tra bod gwasanaethau sy'n teithio drwy Pont-y-cymer hefyd wedi eu gohirio am yr un rheswm.
Mae Network Rail hefyd wedi cyhoeddi rhybudd i bobl beidio â theithio rhwng gorsaf Paddington yn Llundain a de Cymru oherwydd llifogydd mewn sawl man.
Mae'n bosib y bydd hi'n bwrw hyd at 150mm o law ar dir uchel yn y de-ddwyrain.
Gall hynny fod yn gyfanswm mis o law mewn cyfnod o 24 awr.
Mae disgwyl y bydd y tywydd waethaf yn rhannau o Bowys a rhannau o'r de-ddwyrain ac fe all achosi trafferthion i deithwyr, toriad i gyflewnadau trydan a dŵr, a phosibilrwydd o ddifrod i goed ac adeiladau.
O ran ystadegau, Tachwedd ydy ail fis gwlypaf y flwyddyn.

Mae disgwyl glaw trwm ar draws rhannau helaeth o Gymru
Yn ogystal â'r rhybudd oren, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i dde, gogledd a chanolbarth Cymru o 06:00 fore Gwener tan 06:00 fore Sadwrn.
Mae disgwyl rhwng 30-50mm o law i ddisgyn ar hyd mwyafrif yr ardal sydd wedi ei chynnwys o fewn y rhybudd, tra bod hyd at 150mm yn bosib ar dir uwch yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae 'na hefyd rybudd melyn am wynt ar gyfer Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys a Cheredigion rhwng 12:00 a 23:59 ddydd Gwener.
Mae disgwyl gwyntoedd rhwng 50 a 60mya, a hyd at 70mya wrth yr arfordir ac ar dir uwch.
Disgwyl 'llifogydd sylweddol'
Mae gwaith paratoi ar gyfer y llifogydd wedi dechrau ar draws Cymru.
Brynhawn Gwener cafodd canolfan seibiant ei hagor yn ardal Ynys-y-bwl, Rhondda Cynon Taf ar gyfer pwy bynnag sydd ei hangen.
Yn dilyn y rhagolygon tywydd mae Ysgol Gyfun Treorci wedi penderfynu cau'n gynnar er mwyn sicrhau y gall pawb deithio adref yn ddiogel.
Mae adroddiadau hefyd bod coeden wedi cwympo yn Sir Fynwy yn agos at gyffordd Ffordd Wyesham.
Mae Heddlu Gwent yn dweud eu bod yn gweithio i glirio'r ffordd cyn gynted â phosibl.

Daw'r rhybuddion diweddaraf lai na phythefnos wedi i lifogydd daro'r de-orllewin
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Meinir Wigley o Gyfoeth Naturiol Cymru fod afonydd "yn codi'n gyflym ac yn eithaf llawn yn barod" ac y gallai'r glaw trwm arwain at sefyllfa ddifrifol mewn rhannau o'r de-ddwyrain yn bennaf.
Rhybuddiodd hefyd y gallai'r storm daro ardaloedd nad ydynt wedi profi llifogydd o'r blaen: "Efallai eich bod chi heb gael eich effeithio gan lifogydd yn y gorffennol ond dydy hyn ddim yn ragolwg, a gallech chi gael eich taro tro 'ma.
"Felly, sicrhau eich bod chi'n gwbod be 'di'ch risg chi yn eich ardal benodol chi sy'n bwysig."
Ychwanegodd fod newid hinsawdd yn golygu bod llifogydd "yn dod yn gynt ac yn amlach".
Cyfri'r gost wedi difrod 'llifogydd ofnadwy'
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2025
Glaw trwm yn achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
Yn gyffredinol mae CNC wedi annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i baratoi, gan ddweud eu bod yn rhagweld "llifogydd sylweddol mewn rhannau o dde-ddwyrain a chanolbarth Cymru".
"Gyda'r afonydd eisoes yn llawn a'r tir yn wlyb, disgwyliwn weld nifer o rybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi," meddai llefarydd.
"Disgwyliwn hefyd i'r glaw trwm achosi problemau dŵr wyneb.
"Rydym yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i wneud paratoadau ar gyfer llifogydd posibl nawr.
"Rydym hefyd am atgoffa pobl i gadw draw o lannau afonydd ac i beidio â gyrru na cherdded drwy ddŵr llifogydd."