Rhybuddion i fod yn barod am lifogydd wrth i law trwm daro Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion i fod yn barod am lifogydd mewn grym gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda disgwyl glaw trwm i daro Cymru ddydd Llun.
Nos Sul, roedd gan CNC dros 30 o rybuddion 'byddwch yn barod' mewn grym, dolen allanol ar draws Cymru ac roedd gan y Swyddfa Dywydd rybudd oren am law mewn grym ar gyfer y de.
Mae disgwyl glaw trwm ar draws y de nos Sul a thrwy gydol ddydd Llun gyda hyd at 40mm o law yn bosib yn y rhanbarth, a hyd at 120mm mewn mannau uchel.
Mae rhybudd melyn am law mewn grym hefyd ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru ddydd Llun.
Fe ddaw y rhybuddion diweddaraf yn dilyn llifogydd difrifol yn y de-orllewin a Sir Fynwy yn ddiweddar.
Brynhawn Sul fe ddywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn disgwyl cyhoeddi rhybuddion am lifogydd gyda'r nos ac ar gyfer bore Llun hefyd.
Ychwanegon nhw bod lefelau afonydd yn barod yn uchel gyda swyddogion yn annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i baratoi am lifogydd.
"Hoffwn ni hefyd atgoffa pobl i gadw draw oddi wrth lannau afonydd chwyddedig a pheidio â gyrru na cherdded trwy llifogydd gan nad ydych chi'n gwybod beth sydd oddi tano," meddai Richard Preece o'r sefydliad.
Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd hefyd y gall Cymru weld gwyntoedd cryfion hefyd, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol.
Fe allai amodau gyrru fod yn anodd a gall y tywydd garw arwain at oedi i wasanaethau trafnidiaeth gyhoedddus gyda rhai ardaloedd yn colli pŵer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.