Erthyliad yn 15 oed 'wedi newid fy mywyd', meddai gwleidydd

Tessa Marshall, ymgeisydd i'r Blaid Werdd yn etholiadau Senedd 2026
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tessa Marshall ei bod hi wedi rhannu ei phrofiad gyda disgyblion chweched dosbarth er mwyn tynnu sylw at faterion fel hawliau menywod, rhyddid corfforol ac addysg rhyw

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd yn etholiadau'r Senedd fis Mai wedi dweud y bydd rhannu ei phrofiad o gael erthyliad yn 15 oed yn helpu eraill i "ddeall pwysigrwydd" iechyd ac hawliau menywod.

Dywedodd Tessa Marshall, 28, bod mynd drwy'r profiad wrth astudio ar gyfer ei harholiadau TGAU wedi "newid" ei bywyd, a'i helpu i ddeall materion fel rhyddid corfforol ac addysg rhyw.

Fe siaradodd yn agored am y pwnc am y tro cyntaf wrth siarad gyda disgyblion chweched dosbarth mewn hystings diweddar yn Ysgol Plasmawr, Caerdydd.

Wedi'r digwyddiad, dywedodd bod angen parhau i "amddiffyn" hawliau menywod mewn awyrgylch wleidyddol ble mae rhai dal eisiau "eu cymryd i ffwrdd".

'Pwysig cael y wybodaeth gywir'

Fe wnaeth Ms Marshall, ymgeisydd i'r Blaid Werdd yn yr etholiadau eleni, grybwyll ei phrofiad o erthylu wrth gyflwyno ei hun i'r myfyrwyr yn yr hystings.

Er na chafodd y mater ei drafod ymhellach yn ystod y digwyddiad, fe wnaeth rhai disgyblion ddweud yn ddiweddarach eu bod wedi gwerthfawrogi clywed gwleidydd yn siarad mor agored am bwnc tabŵ mor bersonol.

"Roedd cael erthyliad yn 15 oed yn rhywbeth wnaeth newid fy mywyd," meddai Ms Marshall wrth BBC Cymru yn ddiweddarach.

"Heb yr hawl i erthyliad byddai gen i blentyn 13 oed bellach mae'n siŵr, a dyw'r hawl yna ddim yn rhywbeth sydd wedi ei warantu i fenywod mewn llefydd eraill yn y byd.

"Roedd e wedi golygu bod bron dim tarfu ar fy arholiadau. Na'th e roi fi ar lwybr i ddeall pwysigrwydd hawliau dynol, rhyddid corfforol a hawliau merched, a dyna pam 'nes i rannu'r peth."

Mae erthyliad yn gyfreithlon yng Nghymru, Lloegr a'r Alban hyd at 24 wythnos o feichiogrwydd, neu du hwnt i hynny os oes risg difrifol i iechyd.

Yng Ngogledd Iwerddon, ers 2020 mae erthyliad yn gyfreithlon hyd at 12 wythnos, ond wedi hynny dim ond mewn rhai amgylchiadau megis abnormalaeth i'r ffetws.

Dywedodd Tessa Marshall fod yr amgylchiadau a arweiniodd at ei herthyliad wedi digwydd oherwydd diffyg "addysg rhyw go iawn yn yr ysgol", gan ychwanegu nad oedd hi wedi cael "y wybodaeth iawn" ar y pryd.

"Felly mae gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu cael yr wybodaeth gywir, i wneud y penderfyniadau cywir am eu hiechyd, mor bwysig pan mae'n dod at ryw," meddai.

Ychwanegodd bod adlewyrchu ar y sefyllfa wedi cyfrannu at ei deffroad gwleidyddol, a bod y mater yn parhau i fod yn bwysig heddiw.

"Rydyn ni wedi gweld hynny yn America, bod yr hawl i erthyliad wedi cael ei gymryd oddi wrth fenywod yn fanno," meddai.

"Mae hwnna'n rhywbeth sy'n dod draw yn araf bach o asgell dde America, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n amddiffyn yr hawl i erthyliad, a'r hawl i'w gael e'n agos at adref."

Dylai hynny, meddai, gynnwys helpu pobl ifanc i gael mynediad i'r "addysg sydd ei angen arnyn nhw", hyd yn oed os ydyn nhw o gefndir diwylliannol neu grefyddol sy'n gwrthwynebu erthyliad.

"Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni'n gwybod mewn diwylliannau a chymunedau lle maen nhw'n dysgu pobl ifanc i ymwrthod â rhyw, bod hynny yn aml ddim yn digwydd mewn gwirionedd," meddai.

"Felly mae'n bwysig bod gan bobl yr wybodaeth gywir, y mynediad cywir a'r adnoddau cywir i ddeall sut allen nhw edrych ar ôl eu hunain pan maen nhw'n cael rhyw."