Rhybuddion llifogydd yn dal mewn grym i rai wedi glaw trwm

Roedd yr Afon Llwyd, Torfaen, yn wyllt ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae rhybuddion llifogydd yn dal mewn grym i rai ddydd Mawrth, yn dilyn glaw trwm ddydd Llun.
Am 16:00 ddydd Mawrth roedd rhybuddion gan Gyfoeth Naturiol Cymru, dolen allanol (CNC) yn cynnwys tri choch ac 17 o rybuddion i fod yn barod am lifogydd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin a De Cymru na wnaethon dderbyn unrhyw adroddiadau am lifogydd dros nos.

Yr afon yn uchel yn Llandrinio, Powys
Bu nifer o ffyrdd ar gau mewn mannau oherwydd llifogydd, gan gynnwys mewn sawl lle yng Ngwynedd.
Bu'r A487 ar gau hefyd rhwng Ffwrnais Dyfi a Thre'r-ddôl yng Ngheredigion, ond wedi ailagor erbyn hyn.
Yn Sir Gaerfyrddin roedd traffig araf iawn ar un ffordd yn sgil y llifogydd, sef Heol yr Orsaf, y ffordd o gylchfan yr A40 i orsaf drenau Llangadog.

Roedd Sanclêr, Sir Gaerfyrddin, yn un o'r llefydd lle'r oedd rhybudd coch yn dal mewn grym fore Mawrth [llun o ddydd Llun]
Roedd nifer o ffyrdd yng Ngwynedd ar agor, ond bod angen gofal wrth yrru arnyn nhw, oherwydd dŵr.
Ymysg y rhain oedd yr A497 ym Morfa Nefyn, yr A487 rhwng Penygroes a Groeslon, yr A496 rhwng Ynys a Harlech a'r A4244 rhwng Deiniolen a Rhiwlas.
Fe wnaeth Traffig Cymru alw ar bobl ddydd Llun i wirio'r rhybuddion neu gyfyngiadau ffordd diweddaraf cyn teithio ac i ystyried a oes wir angen gwneud y daith.
Does dim rhybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer dydd Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025
