Mwy yn darllen llyfrau rhamant a siop arloesol yn agor yng Nghaerdydd

Yn ôl Angharad mae'n bwysig "bod yn agored am lyfrau a pheidio gorfod cuddio pa lyfrau mae pobl yn darllen"
- Cyhoeddwyd
Mae siop lyfrau sydd yn gwerthu llyfrau rhamant yn unig wedi agor yng Nghaerdydd, y cyntaf o'i fath yng Nghymru a'r drydedd yn y Deyrnas Unedig.
Yn ddiweddar mae'r genre wedidod yn boblogaidd iawn wrth i'r cyfryngau cymdeithasol sbarduno mwy o werthiant.
Fe gafodd gwerth £69m o lyfrau rhamant eu gwerthu yn 2024 a gwerth £62m yn 2023.
Er hyn mae nifer yn teimlo bod y "stigma" sydd yn gysylltiedig â darllen y llyfrau yn ddiangen ac yn hen ffasiwn.

Yn ôl perchennog siop Love Stories yn y brifddinas mae'r ymateb i'r siop, yn gyffredinol, wedi bod yn bositif
Mae Angharad James sydd wedi symud i Gaerdydd yn ddiweddar yn ddarllenydd brwd ac yn gweld y llyfrau fel rhai "cysurus iawn sydd ac yn ddihangfa llwyr".
Er hyn mae'n teimlo weithiau bod y llyfrau yn cael eu diystyru yn sgil eu cynnwys a bod eu disgrifio fel "beach reads" yn gallu bod yn negyddol.
"Does dim byd yn bod gyda joio llyfrau rhamant. Mae cariad o ryw fath yn bodoli gyda ni gyd yn ein bywydau gyda pherthnasau a ffrindiau a theulu.
"Dwi'n credu bod e'n bwysig bo' ni'n gallu bod yn agored a darllen y llyfrau yma a bod yn falch," meddai.
Ychwanegodd bod y "byd a'r holl newyddion yn gallu bod yn negyddol iawn felly mae'r genre yn gallu cynnig byd gwahanol i ddarllenwyr".

Mae'r awdures Marlyn Samuel yn hoff iawn o ysgrifennu llyfrau sy'n '"ymwneud â pherthnasau"
Yn ôl yr awdures Marlyn Samuel mae'r galw am lyfrau fel hyn wedi cynyddu gan fod pobl yn mwynhau'r ddihangfa. Iddi hi, mae ysgrifennu a darllen y llyfrau yn gysur ac mae'n bwysig bod llyfrau at ddant pawb ar gael.
"Cyn i mi ddechrau sgwennu y math yma o lyfrau, prin iawn oedden nhw. Mae na fwy diolch byth rwan o lyfrau mwy hwyliog a phoblogaidd."
Mae miliynau o bobl wedi bod yn troi at lyfrau rhamant ac yn rhannu sylwadau cefnogol ar blatfformau fel Instagram.
Mae'r hashnod (#) sy'n cael ei ddefnyddio i drafod y llyfrau wedi ei ddefnyddio mwy na 30 miliwn o weithiau.
I Marlyn Samuel mae "llawer o sôn am gael mwy o bobl i ddarllen felly os yw'r math yma o lyfrau yn gwneud i bobl droi at lyfrau yna gorau oll".

I'r golygydd llyfrau Bethan Mair mae'r agwedd tuag at y llyfrau gan rai yn enghraifft o "snobyddiaeth lwyr"
Yn ôl Bethan Mair mae'r ffaith bod y llyfrau'n draddodiadol yn cael eu hystyried fel rhai i fenywod yn golygu bod pobl yn dibrisio'r genre cyfan.
"Byddech chi byth yn galw llyfrau John Le Carré yn spy-lit, jysd llyfre ysbïo ydyn nhw. Dyw'r tag 'na ddim yn cael ei roi arnyn nhw fel mae chick-lit neu llyfre rhamant.
"Byddech chi ddim yn galw llyfre Hermann Hesse yn bomb-lit, dyw e jysd ddim yn digwydd."
Er bod perchennog y siop yng Nghaerdydd yn pwysleisio bod llyfrau rhamant i ddynion ac i fenywod dwedodd ei bod hi'n aml yn derbyn sylwadau gan ddynion am y siop.
Dywedodd Bethan Mair "bod hwn yn rhywbeth sydd wedi ei wreiddio'n ddwfn iawn o hyd yn anffodus yn y gwahaniaethu sy'n digwydd rhwng dynion a merched gyda diddordebau merched yn cael eu trin fel rhai sy'n lla difrifol na rhai dynion."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd14 Ionawr
