Croesawu £350,000 i'r byd cyhoeddi ond 'angen cefnogaeth tymor hir'

- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi derbyn £350,000 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi.
Yn ddiweddar dywedodd pennaeth golygyddol gwasg Y Lolfa ei bod yn "argyfwng ar y diwydiant cyhoeddi Cymraeg" wrth i ffigyrau Cyngor Llyfrau Cymru awgrymu bod grantiau ar gyfer cyhoeddi yn Gymraeg wedi gostwng 40% mewn degawd, ar ôl ystyried effaith chwyddiant.
Mae'r arian newydd yn rhan o'r £2.5 miliwn o gyllid ychwanegol a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2025.
Wrth siarad â Cymru Fyw ddydd Mercher dywedodd Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr Y Lolfa, eu bod yn croesawu'r gefnogaeth yma yn fawr ac y bydd yn "gymorth mawr dros y misoedd sydd i ddod".
Ond, esboniodd fod y cyhoeddwr yn "dal i deimlo bod y byd llyfrau wedi cael ei danariannu ers tua 10 mlynedd a bod angen cefnogi llyfrau yn iawn yn y tymor hir".
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, bod y cyngor yn ddiolchgar am arian ychwanegol sydd "mor angenrheidiol".

Bydd y pres yn "adeiladu rhywfaint o wydnwch yn y sector", medd Helgard Krause
Cyllid un tro ydy hwn ac fe fydd yn "gymorth mawr" dros y misoedd caled nesaf, ychwanegodd Garmon Gruffudd.
Ond pwysleisiodd bod "gostyngiad o tua 40%, mewn termau real ar ôl chwyddiant, wedi bod mewn ariannu'r sector o gymharu gyda 10 mlynedd yn ôl".
"Ni eisiau i Lywodraeth Cymru ariannu llyfrau yn iawn eto a ni'n cefnogi'r alwad i gael llyfrgell ym mhob ysgol yng Nghymru."
'Hybu gwerthiant'
Mae £335,000 o'r arian ychwanegol wedi ei ddosbarthu yn uniongyrchol i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau sydd wedi derbyn Grant Cymorth Hanfodol yn seiliedig ar eu rhaglenni cyhoeddi.
Bydd £15,000 ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo Panel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau, er mwyn creu mwy o gynnwys ymgysylltu â darllen i bobl ifanc.
Yn ôl Helgard Krause, mae'r "arian unwaith-ac-am-byth hyn wedi ein galluogi ni i greu'r Grantiau Cymorth Hanfodol".
"Trwyddyn nhw mae £335,000 wedi ei dalu'n uniongyrchol i gyhoeddwyr i'w cynorthwyo i oroesi'r cyfnod heriol yma, adeiladu rhywfaint o wydnwch yn y sector ac i hybu gwerthiant llyfrau.
"Rydym hefyd wedi sicrhau cyllid i'n Panel Pobl Ifanc dawnus a chreadigol er mwyn hyrwyddo mwy o lyfrau o Gymru, yn y Gymraeg a'r Saesneg."
Ychwanegodd Ms Krause ei bod hi'n "hynod gyffrous i drosglwyddo rheolaeth i'r panel a fydd yn datblygu cynnwys digidol i gyrraedd darllenwyr ifanc eraill, yn dathlu llyfrau o Gymru a'u rhannu nhw gyda'r byd".
'Angen cael gwared â'r stigma' i annog mwy o bobl ifanc i ddarllen
- Cyhoeddwyd22 Medi 2025
'Peryg na fydd diwydiant cyhoeddi Cymraeg' yn sgil toriadau
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024
Pryder fod plant oed ysgol yn methu darllen a sgwrsio
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
Fe ddywedodd Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant bod y llywodraeth yn "parhau i fod yn ymrwymedig i warchod y diwydiant pwysig hwn, tra'n cydnabod yr heriau ariannol sy'n wynebu'r Cyngor Llyfrau a'r sector ar hyn o bryd".
"O awduron, i ddarlunwyr, i olygyddion – mae ein cyhoeddwyr yn arddangos lleisiau Cymreig yn gyson ar lwyfan fyd-eang.
"Nid dim ond fel diwydiant sy'n ffynhonnell ddiwylliannol ac economaidd bwysig i Gymru, ond hefyd, gyda mentrau fel y Panel Pobl Ifanc.
"Rydym yn meithrin y genhedlaeth nesa o ddarllenwyr a chrewyr ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn wlad lle mae llenyddiaeth yn ffynnu," meddai.
Ychwanegodd Mr Sargeant eu bod "yn parhau i gefnogi cyhoeddwyr, dathlu ein hawduron ac yn annog creu llyfrau o ansawdd uchel – llyfrau y gellid ymfalchïo ynddynt ar lefel ryngwladol".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.