Gwaith clirio 'sylweddol' yn parhau wedi llifogydd difrifol Trefynwy

- Cyhoeddwyd
Mae angen amddiffyn cymuned Trefynwy yn y dyfodol wedi llifogydd difrifol yn yr ardal dros y penwythnos, medd y cyn-AS David TC Davies.
Mae aelod o deulu y gwleidydd yn byw ar un o'r strydoedd lle cafodd eiddo ei ddifrodi gan y llifogydd.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd bod ei thŷ "wedi cael ei wagio mas gan y gwasanaeth tân" a'i bod wedi mynd i'r ysbyty ond yn iawn nawr.
"Mae'n rhaid i ni ailedrych ar yr holl amddiffynfeydd yma" meddai "a gweld be' sy'n bosib 'neud i amddiffyn y gymuned yn y dyfodol."
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dweud bod eu timau wedi bod yno'n cynnal "archwiliadau o'r amddiffynfeydd ac wedi cadarnhau nad oeddent wedi'u torri yn ystod y storm".
Ychwanegon nhw, er eu bod yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i leihau'r risg, na fyddan nhw fyth yn gallu atal pob llifogydd ac maen nhw'n annog pawb i "ddeall y risg a'r camau y gallwn ni gyd eu cymryd i helpu i ddiogelu ein hunain".

Dywed David TC Davies fod angen "ailedrych ar yr holl amddifynfeydd"
Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn disgwyl i Gyfoeth Naturiol Cymru archwilio sefyllfa'r ddwy afon, "ac os oes rhaid inni ailadeiladu'r amddiffynfeydd llifogydd i sicrhau bod hynny ddim yn digwydd eto achos mae 'di dinistrio'r busnesau trwy'r dref".
Mae'r gymuned leol wedi codi £30,000 i geisio adfer y dref, sy'n "arbennig o dda ond a bod yn onest dyw e ddim mynd i fod yn ddigon pan chi'n gweld faint y difrod," meddai.
"Pan roeddwn i'n Aelod Seneddol o'n i'n rhoi pwysau ar CNC i sicrhau bo' nhw' n adeiladu amddiffynfeydd llifogydd yno a dyw hynny ddim wedi digwydd a bod yn onest.
"Mae rhaid nawr i bobl sylweddoli bod y gymuned yma angen protection yn y dyfodol."
Gwaith clirio 'sylweddol' yn parhau wedi llifogydd difrifol Trefynwy
Mae'r gwaith clirio yn parhau ddydd Llun ar ôl i nifer o drigolion a busnesau gael eu heffeithio.
Fe gyhoeddodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De "ddigwyddiad difrifol" yn yr ardal fore Sadwrn, gyda dwsinau o bobl yn cael eu hachub gan y criwiau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diolch i'r gwasanaethau brys am eu hymateb dros y penwythnos ac yn dweud eu bod yn trafod â Chyngor Sir Fynwy y gefnogaeth bellach fydd ar gael.
'Disgwyl tywydd eithafol i ddod yn fwy cyffredin'
Mewn datganiad dywedodd Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC, Alun Attwood eu bod "yn deall yr effaith ddirfawr y mae'r llifogydd wedi cael ar gymunedau yn ardal Trefynwy, ac mae ein meddyliau gyda phawb yr effeithir arnynt.
"Arweiniodd Storm Claudia at ddigwyddiad glaw eithriadol, gyda lefel llif Afon Mynwy yn cyrraedd yr uchaf a gofnodwyd erioed, hyd yn oed yn uwch na lefelau a welwyd yn ystod Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert y llynedd.
Ychwanegodd bod lefelau'r afonydd wedi arwain "at ddŵr llifogydd yn llifo uwchben yr amddiffynfeydd llifogydd ar Afon Mynwy".
Mae'n disgwyl hefyd i "ddigwyddiadau tywydd eithafol ddod yn fwy cyffredin wrth i'n hinsawdd newid".
"Ac er bod ein timau'n gweithio'n agos gyda phartneriaid i leihau'r risg i bobl ac eiddo ledled Cymru, ni fyddwn byth yn gallu atal pob llifogydd," ychwanegodd.
"Dyna pam mae mor bwysig i ni i gyd – preswylwyr a pherchnogion busnes – ddeall y risg a'r camau y gallwn ni gyd eu cymryd i helpu i ddiogelu ein hunain, ein teuluoedd a'n heiddo."
Dadansoddiad
Fe wnaeth mesurydd glaw yn y Mynyddoedd Du yng ngogledd Sir Fynwy gofnodi gwerth 119.6mm o law rhwng nos Iau a bore Sadwrn.
Mae hyn yn fwy o law na fyddai rhywun yn ei ddisgwyl mewn mis cyfan.
Mae modd gweld yr effaith yn glir o astudio'r data ar lefelau'r afonydd lleol - gyda llif Afon Mynwy yn cyrraedd ei ucha' ar gofnod.
Wrth Borth Trefynwy, y bont enwog o'r cyfnod canoloesol fe gyrhaeddodd lefel y dŵr 6.658m erbyn 02:45 ddydd Sadwrn, gan basio y record flaenorol a osodwyd yn sgil Storm Dennis yn 2020.
Bryd hynny roedd yr amddiffynfeydd llifogydd, a godwyd ddegawdau yn ôl, yn ddigon i warchod canol y dref ei hun rhag difrod, er i lifogydd o'r Afon Gwy effeithio ardal Mayhill.
Mae 'na alwadau pellach i edrych eto ar yr amddiffynfeydd yn lleol.
Mae'r cyngor sir wedi bod yn ymgynghori ar ddiweddariad i'w strategaeth rheoli llifogydd yn ystod yr haf.

Parhau i ddod i delerau â'r llifogydd a'r difrod yn ei sgil mae pobl yr ardal.
"Mae'n dipyn o sioc," meddai Adam Williams, athro yn Ysgol Gyfun Trefynwy, sy'n ymweld â stryd fawr y dref yn rheolaidd "i 'neud bach o siopa neu gael coffi ar ôl ysgol".
"I weld y dŵr, y difrod a phopeth yma, mae'n drist. Fi ffili credu'r peth."

Bydd angen ymchwilio i achos y llifogydd er mwyn amddiffyn pobl ac adeiladau'r ardal yn y dyfodol, medd Adam Williams
Gan ddisgrifio'r "gymuned glos" sydd yn Nhrefynwy, ychwanegodd Mr Williams bod "pawb wedi dod at ei gilydd, mae pawb yn cyfrannu, mae pawb yn helpu" gyda'r gwaith clirio wedi i'r dŵr gilio.
"Yn amlwg ar hyn o bryd, bydd rhaid i bawb ailadeiladu, ond bydd rhaid i Lywodraeth Cymru, Cyngor Sir Fynwy ac yn y blaen ymchwilio i weld yr hyn sydd 'di digwydd, ac hefyd sut mae amddiffyn ni tro nesa' achos mae popeth sydd 'di digwydd yn dipyn o beth."

Bydd yna help yn y dyddiau nesaf gan dîm argyfwng y sir, medd y Cynghorydd Tudor Thomas
Fe fydd tîm argyfwng Cyngor Sir Fynwy yn gweithio "trwy'r wythnos hyn" i helpu pobl sydd wedi cael difrod, medd un o'r cynghorwyr sir, Tudor Thomas.
"Bydd pobol sydd wedi colli celfi a'r tai angen help," meddai, "a bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn helpu pobol sy' eisie eu diogelu. Bydd hwnna yn mynd ymlaen."
'Pobl yn anobeithio... mae 'na faich emosiynol'
Man arall lle mae pobl yn clirio ac yn cyfri'r gost yw pentref bach Ynysgynwraidd, tua chwe milltir o Drefynwy,
Mae'r pentref wedi dioddef llifogydd yn flynyddol yn y blynyddoedd diwethaf, ond yn ôl y cynghorydd sir Ian Chandler, "roedd lefel y dŵr yr uchaf i ni ei weld" yn sgil Storm Claudia.
"Roedd llif y dŵr mor gryf aeth dros yr amddiffynfeydd llifogydd a tharo byrddau drosodd.

Mae neuadd bentref Ynysgynwraidd dan ddŵr unwaith yn rhagor
"Does ond 22 o dai yn y pentref. Mae rhai pobl yn derbyn bod e'n digwydd - mae eraill yn anobeithio gan ei bod yn ymddangos bod dim datrysiad.
"Nid dim ond baich ariannol yw e - mae yna faich emosiynol.
"Ry'n ni ond newydd adfer neuadd y pentref wedi'r llifogydd diwethaf a bydd yn rhaid i ni wneud y cyfan unwaith yn rhagor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2025
