BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig

1 Beth yw anghenion arbennig?
2 Asesu'ch plentyn
3 Beth yw Dyspracsia?

4 Beth yw ADHD AC ADD?

Beth yw ADHD AC ADD?

Mae Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac Anhwylder Diffyg Canolbwyntio (ADD) wedi eu cydnabod ers dyddiau'r Groegiaid.

ADHD yw un o'r anhwylderau niwroddatblygiadol mwyaf cyffredin ac mae'n effeithio ar 7% o blant oed ysgol. Mae'n effeithio ar deirgwaith cymaint o fechgyn ond nid yw'n gysylltiedig ag oedran. Bydd gan 35% o unigolion anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol hefyd. Bydd gan 25% anhwylder ymddygiad hefyd.

Sut ydw i'n gwybod bod ADHD ar fy mhlentyn?
Nid yw ADHD yn anhwylder y gellir ei ganfod drwy un prawf. Mae'n dibynnu ar amledd, difrifoldeb a hyd yr ymddygiad.

Cyn y gellir gwneud y diagnosis, mae'n rhaid i'r symptomau fod wedi bod yn bresennol o oedran ifanc, ac mae'n rhaid i'r plentyn fod â'r problemau mewn mwy nag un sefyllfa. Dyma pam ei bod yn bwysig bod y rhiant a'r meddyg yn gwneud yn siwr bod ganddynt ddarlun clir o sut y mae'r plentyn yn ymddwyn yn yr ysgol, yn ogystal ag yn y cartref.

Mae'n wir y bydd unigolion yn ymddangos yn well neu'n waeth mewn gwahanol amgylchiadau - mae ceisio bod yn dawel mewn eglwys yn wahanol i wylio gêm bêl-droed. Mae hefyd yn dibynnu ar beth a ddisgwylir gan yr unigolyn. Gall plant sydd ag ADHD ddangos patrymau ymddygiad amrywiol. Gallant ymddangos fel pe baent yn cymryd gormod o sylw, fel pe baent â'u bys ym mhob potes, yn methu â gwahaniaethu neu'n methu â chanolbwyntio mewn meysydd eraill. Mae hyn yn ymddangos fel diffyg rheolaeth.

Gall ymddygiad plant gael ei ddiagnosio fel ADHD ar gam pan fo achos arall iddo e.e. gall DCD, problemau clyw, syndrom Tourettes, trawma, gan gynnwys cam-driniaeth, anawsterau iaith a lleferydd, dyslecsia, Syndrom Asperger fod yn bresennol gyda'i gilydd neu ddangos symptomau tebyg.

Mae cydberthynas â methiant cynyddol yn yr ysgol ac ADHD ac anawsterau tymor hir yn y gweithle, yn ogystal ag mewn llefydd eraill, fel dangos ymddygiad negyddol fel dibyniaeth ar alcohol a nicotin.

Symptomau ac arwyddion creiddiol:

  • Gorfywiogrwydd
  • Byrbwylltra
  • Problemau canolbwyntio - mae'r plentyn yn ei chael yn anodd i weithio ar ei ben ei hun neu gyda grwpiau mewn dosbarth, ac yn ei chael yn anodd i ddilyn cyfarwyddiadau'r athro/athrawes ar adegau.

Efallai fod y plentyn yn gallu dechrau'r dasg yn iawn, ond ei fod yn ei chael yn anodd iawn gweld diwedd iddi, ac yn rhoi'r gorau iddi a symud ymlaen i rywbeth arall. Efallai nad yw'r plentyn yn gallu cynllunio a gweld y cyfanwaith, felly nid oes ganddo ddarlun o dasg orffenedig ac mae'n gweld y dasg yn hytrach mewn darnau tameidiog, heb unrhyw gysylltiad rhwng un rhan ohoni a'r gweddill.

  • Aflonyddu - Mae ymddygiad y plentyn yn effeithio ar ei waith ac yn tarfu ar blant eraill yn y dosbarth. Gall ddangos hyn drwy wneud sŵn neu symud o gwmpas, gan wahodd eraill i ymuno yn ei sgwrs.
  • Efallai y bydd yn ymddwyn yn amhriodol mewn rhai sefyllfaoedd - ddim yn gallu addasu a bod yn hyblyg, gweld a gwybod sut i ymddwyn mewn un sefyllfa yn hytrach nag mewn un arall e.e. mae'n iawn rhedeg yn y cae, ond nid yn yr eglwys!
  • Yn aml yn ei chael yn anodd i chwarae a gwneud gweithgareddau hamdden yn dawel. Efallai y bydd ar y plentyn angen cadarnhad geiriol i'w helpu gyda'r dasg.
  • Yn aml yn ymyrryd neu'n torri ar draws eraill neu'n ei chael yn anodd i aros ei dro.
  • Efallai y bydd yn ymddangos fel pe bai'n canolbwyntio'n dda mewn sefyllfa un i un pan ellir dod ag ef yn ôl at y dasg dan sylw. Pan fo'r plentyn yn cael ei roi mewn sefyllfa "go iawn" lle mae'n rhaid iddo wrando, talu sylw a chofnodi, er enghraifft yn yr ystafell ddosbarth, y mae ei duedd i fethu â chanolbwyntio'n ymddangos ar ei gwaethaf.
  • Gall y plentyn nad yw'n talu sylw golli rhannau o sgwrs ac o ganlyniad golli'r ystyr. Mae hyn wedyn yn effeithio ar ei argraff gymdeithasol a sut y mae eraill yn ei weld.
  • Efallai na fydd y plentyn yn ymddangos fel pe bai'n gwrando pan fo rhywun yn siarad gydag ef.
  • Efallai y bydd yn ei chael yn anodd i drefnu gweithgareddau neu dasgau.

Sut mae ADHD yn cael ei ddiagnosio?

anghenion arbennigFel arfer drwy ddefnyddio graddfeydd difrifoldeb ar gyfer y cartref a'r ysgol er mwyn cymharu ymddygiadau a gweld cysondeb ac anghysonderau. Y raddfa fwyaf adnabyddus, ac un o'r rhai cysonaf yw graddfa Connor, sy'n cymharu'r plentyn yn yr ysgol ac yn ei gartref.

Mae'r raddfa yma yn dangos patrymau cyson o ymddygiad mewn gwahanol sefyllfaoedd.

Sut y dylid rheoli ADHD?
Os yw'r gweithiwr iechyd proffesiynol yn mynd i ddiagnosio ADHD a rhoi presgripsiwn ar gyfer un o'r cyffuriau sydd wedi profi eu bod yn gallu ei drin yn effeithlon, yna mae angen ystyried monitro parhaus.

Mae'r driniaeth feddygol fwyaf cyffredin ar hyn o bryd yn ymwneud â defnyddio Ritalin neu gyfansoddion tebyg.
Ritalin (methylffenidad) yw'r cyffur sy'n cael ei ddefnyddio amlaf i drin ADHD. Dechreuir drwy roi dos fechan ohono a chynyddu'n raddol i ddos ddwywaith y dydd. Mae'n cael ei roi fel arfer ar ôl brecwast ac ar ôl cinio, ac mae ei effaith yn para am oddeutu pedair awr. Mae ar rai plant angen dos arall am bedwar o'r gloch. Gall rhai plant fod yn sensitif iddo - efallai na fydd ganddynt gymaint o chwant am fwyd, neu efallai y bydd yn amharu ar eu patrwm cysgu, ond gellir rheoli hyn drwy addasu'r trefniant dosio. Erbyn hyn mae fersiynau effaith hirach o'r cyffur hwn ar gael sy'n golygu mai dim ond unwaith y diwrnod y mae angen ei gymryd. Gall hyn wella effeithlonrwydd a chydymffurfiad.

Defnyddiwyd triniaethau seicolegol. Prin iawn yw'r dystiolaeth i ddangos bod triniaethau cyfunol yn fwy effeithiol na therapi unigol gyda moddion.
Gallai triniaethau cyfun gael effaith ar symptomau eraill fel pryder, a sgiliau cymdeithasol.

Bydd y rhan fwyaf o symptomau plant sydd ag ADHD yn gwella wrth iddynt fynd yn hŷn. Bydd rhai'n dal i fod â symptomau pan fyddant yn oedolion.

Rheolaeth yn y cartref

  • Datblygwch drefniadau cyson o ddydd i ddydd yn y cartref, ac yn yr ysgol.
  • Cadwch y rheolau'n glir ac yn syml heb godi'ch llais pan fyddwch yn atgoffa plentyn ohonynt (cofiwch nad yw'r plentyn yn bwriadu bod yn anodd).
  • Ceisiwch ailgyfeirio ymddygiad.
  • Siaradwch gyda'r plentyn gan ddal ei sylw'n gyfan gwbl a daliwch i gadarnhau hyn.
  • Gwnewch yn siwr bod y plentyn yn edrych i'ch llygad cyn rhoi cyfarwyddiadau iddo.
  • Goruchwyliwch y plentyn yn ofalus; gall ei dueddiad i weithredu'n ddifyfyr ei roi mewn sefyllfaoedd peryglus.
  • Edrychwch ar ochr gadarnhaol y plentyn a chwiliwch o hyd am 'ymddygiad da' a chanmol hynny.
  • Ceisiwch anwybyddu mân bethau sy'n mynd dan eich croen yn ei ymddygiad.
  • Rhowch ganlyniadau disgyblaeth clir fel amser hel meddyliau.

Rheolaeth Addysgol
Mae cydweithrediad rhwng rhieni ac athrawon yn hanfodol er mwyn rheoli unrhyw blentyn sydd ag anghenion dysgu penodol. Nid yw beio staff neu rieni yn helpu o gwbl i roi sylw i anghenion y plentyn gyda'r adnoddau y gall ysgolion a chartrefi eu darparu heddiw.

Mae angen i blant sydd ag ADHD gael cymorth yn yr ysgol drwy raglen addysgol sydd wedi ei llunio ar gyfer eu hanghenion penodol. Yn yr ysgol gan amlaf y mae'r plentyn yn wynebu'r anawsterau mwyaf. Mae angen datblygu cynllun rheoli ar y cyd ag athrawon. Mae cyswllt da rhwng y cartref a'r ysgol yn hanfodol.

Mae plant sydd ag ADHD yn ymateb orau i fframwaith sy'n dilyn trefniadau arferol a phendant iawn yn y dosbarth, heb fawr ddim sŵn na digwyddiadau gweledol i dynnu eu sylw. Mae eu perfformiad ar ei orau os ydynt yn eistedd yn nhu blaen yr ystafell, cyn agosed at yr athro/athrawes dosbarth ag sy'n bosib. Efallai y bydd angen oedolyn i ddweud rhywbeth wrth y plentyn yn aml drwy gydol y diwrnod er mwyn sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar y dasg ac yn cael cyfle bob hyn a hyn i symud o gwmpas a llosgi ynni sydd dros ben.

Dylid canmol a gwobrwyo'r plentyn am ymddygiad lle mae wedi canolbwyntio ar y dasg. Mae angen nodi canlyniadau clir ar gyfer ymddygiad annerbyniol.

Bydd angen cyfarwyddyd ychwanegol ar gyfer anawsterau dysgu sylfaenol mewn grwpiau adfer bychain neu fel unigolion. Gallai gweithwyr proffesiynol cysylltiedig eraill o faes iechyd helpu, er enghraifft gall therapyddion galwedigaethol gynnig rhaglenni penodol ar gyfer llawysgrifen neu anawsterau echddygol bras, ac mae'r un peth yn wir am therapyddion iaith a lleferydd gydag anawsterau iaith.


rhan 4 o 4|1234Yn ôl i'r top
Yn yr adran hwn
Dewis Ysgol
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Addysg Gartref
Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
Disgyblaeth yn yr ysgol
Adroddiadau
Llau pen
Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy