BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig

1 Beth yw anghenion arbennig?
2 Asesu'ch plentyn
3 Beth yw Dyspracsia?

4 Beth yw ADHD AC ADD?
Dyspracsia

Beth yw Dyspracsia?

Nam neu anaeddfedrwydd sy'n gysylltiedig â threfnu symudiadau. Gall fod yn gysylltiedig hefyd â phroblemau canfyddiad, iaith a meddwl. Daw'r term Dyspracsia o'r gair 'praxis' sy'n golygu "gwneud, gweithredu".

Mae plant sydd â Dyspracsia/Anabledd Datblygu Cydsymud (DCD) yn ei chael yn anodd i gynllunio a gwneud symudiadau cyflawn. Mae unigolion sydd â DCD yn cael anawsterau gyda gweithgareddau dyddiol sy'n galw am gydsymud. Nid yw'r rhain yn cyfateb i'w hoedran a'u deallusrwydd.

Enwau Eraill
Syndrom plentyn afrosgo, camweithredu canfyddiad-echddygol, Diffygion Canolbwyntio, Rheolaeth Echddygol a Chanfyddiad (DAMP), anabledd datblygu cydsymud (DCD), anhawster dysgu echddygol.

Ai nam neu salwch yw Dyspracsia?
Dim un o'r ddau - mae plant sydd â Dyspracsia yn iach. Mae ganddynt ddeallusrwydd arferol ac nid oes ganddynt unrhyw nam ymenydd yr ydym yn gwybod amdano. Ni wyddom beth sy'n ei achosi. Mae'n cael ei gario mewn teuluoedd weithiau. Mae mwy o fechgyn yn dioddef ohono nag o ferched.

Pa fath o broblemau maen nhw'n eu cael?

Sgiliau Echddygol Bras Symudiadau mawr

Datblygiad echddygol hwyr: Er enghraifft, eistedd, cropian (yn aml ddim yn cropian), cerdded, ac yn y blaen.
Cyhyrau llipa: Plentyn yn teimlo'n "llipa" ac yn ansefydlog o amgylch y cymalau.
Problemau cydbwysedd: Plentyn yn afresymol o ofnus, neu, i'r gwrthwyneb, ddim yn gweld perygl mewn sefyllfaoedd ansicr.
Atblygiadau cynnar heb integreiddio'n dda: Plentyn yn dal i fod â rhai o atblygiadau babandod cynnar, a'r rheini'n amharu ar ei berfformiad.
Dwy ochr y corff heb integreiddio'n dda: Integreiddiad (cydsymud) dwy ochr y corff wedi ei gyfyngu, ac yn amharu o ganlyniad ar rai gweithgareddau, e.e. cropian, neidio, sgipio, padlo beic, dal pêl ac yn y blaen.

Sgiliau Echddygol Manwl
Gafael/deheurwydd anaeddfed: Efallai fod y ffordd y mae'r plentyn yn gafael yn ei bensel yn anaeddfed. Efallai fod anawsterau wrth ddal a thrin eitemau bychain.
Uchafiaeth heb ei sefydlu'n amlwg: Nid yw'n amlwg a yw'r plentyn yn llaw dde neu'n llaw chwith (neu mae'n hwyr yn datblygu ochredd). Mae'n tueddu i estyn pa bynnag law yw'r agosaf.
Integreiddiad gwael rhwng dwy ochr y corff: Ddim yn dda am wneud tasgau lle mae angen dwy law, fel cau careiau, defnyddio cyllell a fforc, chwarae gyda theganau adeiladu, ac yn y blaen.
Rheolaeth wael ar bensel/problemau: Efallai'n osgoi tasgau lle mae angen y rhain, tynnu llun/ysgrifennu.

Symudiadau llygaid
Dilyniant llygad gwael: Anhawster i ddilyn gwrthrych sy'n symud yn rhwydd gyda'r llygaid heb symud llawer ar y pen.
Ail-leoliad gwael: Methu codi golygon yn gyflym ac yn effeithiol o un gwrthrych i un arall (e.e. o lyfr i lyfr, o fwrdd du i "lyfr nodiadau" ac yn y blaen)
Cydsymud llaw/llygad gwael

Anawsterau Dysgu
Darllen: Methiant neu ddiffyg cynnydd.
Ysgrifennu : Effeithio ar osodiad a threfniadaeth neu gyfeiriad a llif efallai.
Sillafu: Safle llythrennau mewn gair, anhawster i "drosi" synau yn llythrennau, ac yn y blaen.
Gwrthdroi: Yn wir efallai wrth ffurfio llythrennau a rhifau, gwrthdroi trefn llythrennau mewn geiriau, gwrthdroi geiriau cyfan wrth ddarllen neu ysgrifennu, ac yn y blaen.
Rhifau: e.e. anhawster gyda dysgu ar y cof ac yn y blaen. (h.y. fel dysgu pader).

Lleferydd ac Iaith
Deall: Anawsterau cadw gwybodaeth glywedol. Anawsterau ffurfio dilyniant. Anhawster efallai i brosesu gwybodaeth gyffredinol.
Iaith Fynegiadol: Anawsterau wrth droi syniadau yn iaith. Anawsterau darganfod geiriau.
Iaith Bragmatig : Sgiliau di-eiriau gwael. Anawsterau gydag iaith ar lefel uwch. Anawsterau cadw perthynas gyda chyfoedion. Sgiliau cymdeithasol gwael.
Hwyr yn datblygu lleferydd: Mae lleferydd "anaeddfed" parhaus yn aml yn arwydd cynnar o anawsterau echddygol/dysgu.

Personoliaeth ac Ymddygiad
Mae "problemau ymddygiad" i'w gweld yn llawer o'r plant hyn. Mae'n bwysig iawn gwahaniaethu rhwng y gwahanol achosion.

Mae un math o blentyn yn aml yn aflonydd ac afreolus ac awgrymwyd y gallai ei ymddygiad fod yn rhan o ddiffyg ataliad cyffredinol yn ei system nerfol ganolog, sy'n effeithio ar ei berfformiad cyfan.

Gallai ymddygiad plentyn arall fod yn ganlyniad uniongyrchol i'w anawsterau echddygol/dysgu. Mae'r olaf yn aml yn blentyn unig, anhapus, heb lawer o hunan-barch na hyder sy'n datblygu "problemau ymddygiad" ymddangosiadol fel ffordd o eithrio, neu gael pobl i chwerthin ar ei ben ar ei delerau ei hun pan fo'n teimlo dan fygythiad gan fod pethau'n rhy anodd iddo.

Ar y llaw arall, gallai ei ymddygiad fod yn ddim mwy na chanlyniad rhwystredigaeth gan fod ei allu deallusol yn fwy na'r hyn a gyflawnodd.

Problemau Emosiynol
Yn gyffredin oherwydd pwysau ar y plentyn gan blant eraill ac oedolion nad ydynt yn deall problem sy'n un gymhleth, ac anodd iawn i'w diffinio; gallent gynnwys gwrthod mynd i'r ysgol, problemau gyda pherthynas â chyfoedion (h.y. anhawster â chyfeillgarwch), enwresis (gwlychu'r gwely), anhwylderau seicdreiddiol, ymddygiad ymwrthodol ac yn y blaen.

Dylid cofio hefyd bod nifer o blant sydd â phroblemau ymddygiadol ac emosiynol nad ydynt yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd ag anawsterau echddygol/dysgu.

Cyfnewidioldeb
Elfen bwysig iawn o ran perfformiad y plentyn a'i allu emosiynol i ymdopi. Efallai y bydd rhai dyddiau, neu gyfnodau, pan fydd yn gallu gwneud pethau'n well nag ar adegau eraill. Mae'n hawdd meddwl "roedd o'n gallu ei wneud o ddoe, felly mae'n rhaid ei fod o'n gallu ei wneud o heddiw". Nid felly y mae o reidrwydd.

Ymddengys bod y plant hyn yn cael "diwrnodau da" a "diwrnodau gwael"; mae fel pe bai eu systemau nerfol canolog yn gallu "dod â phethau at ei gilydd" yn well ambell waith na'i gilydd. Mae tensiwn hefyd wrth gwrs yn cael effaith andwyol ar berfformiad, ac o ganlyniad ni ddylid rhoi pwysau diangen ar y plentyn.

Ydy plant yn tyfu ohono?
Mae rhai, ond dangosodd gwaith ymchwil bod o leiaf 50% yn dal i gael problemau pan fônt yn eu harddegau.

Alla i gael help ar gyfer fy mhlentyn?
Mae sefydliadau statudol, gwirfoddol a phreifat drwy'r wlad a all helpu i gwrdd ag anghenion amrywiol eich plentyn.

  • Canolfannau Datblygiad Plant
  • - gall y rhain fod yn y gymuned neu mewn ysbytai, a darperir gwasanaethau drwy'r Gwasanaeth Iechyd. Gallai'r tîm yn y Canolfannau hyn gynnwys therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd, therapydd iaith a lleferydd a phaediatregydd.

  • Gwasanaethau Preifat
  • - Mae menter newydd sy'n seiliedig ar waith a wneir ar y cyd gan wasanaethau iechyd ac addysg wedi ei lansio yn ddiweddar yng Nghaerdydd. Mae'r tîm yn y Ganolfan hon yn cynnwys therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd, therapydd iaith a lleferydd, seicolegydd addysg, optometrydd ymddygiadol, athrawon arbenigol a Meddyg Teulu. Mae nifer o therapyddion preifat hefyd yn gweithio ar eu pennau eu hunain drwy'r wlad.

  • Gwirfoddol
  • - Corff gwirfoddol a sefydlwyd ddeng mlynedd yn ôl yw'r Sefydliad Dyspracsia. Ei nod yw darparu cymorth a gwybodaeth i blant/oedolion sydd â Dyspracsia, i deuluoedd ac i weithwyr proffesiynol.

    Sut alla i gael asesiad?
    Y polisi atgyfeirio lleol sy'n pennu sut mae cael gafael ar ddarpariaethau'r Gwasanaeth Iechyd. Gallai hyn fod drwy Feddyg Teulu, ymgynghorydd pediatrig, ymwelydd iechyd neu athro/athrawes. Bydd pob ardal yn wahanol. Gall unigolion gysylltu â chyrff preifat ac fel arfer mae ganddynt "bolisi atgyfeirio agored".

    Sut mae triniaeth yn helpu?
    Mae triniaeth yn canolbwyntio ar gryfderau'r plentyn yn hytrach na'i wendidau. Mae'n bwysig rhoi hwb i'w hunan-barch a'i hyder. Mae pob rhaglen sy'n cynnig triniaeth wedi ei theilwrio er mwyn cwrdd ag anghenion y plentyn. Bydd rhai plant yn ymateb yn well na'i gilydd.

    Beth am gyffuriau?
    Nid yw cyffuriau'n gwneud dim i helpu Dyspracsia.

    Oes gwelliant iddo?
    Nid ydym yn gwybod am unrhyw welliant i Ddyspracsia, ond dylai ei ganfod yn gynnar helpu i leihau'r effeithiau.


    rhan 3 o 4|1234Yn ôl i'r top
    Yn yr adran hwn
    Dewis Ysgol
    Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
    Addysg Gartref
    Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
    Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
    Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
    Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
    Disgyblaeth yn yr ysgol
    Adroddiadau
    Llau pen
    Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy