BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
21ain Hydref 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
gât yr ysgol- canllaw ar gyfer rhienicymraegenglish

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg
News image
News image
News image
News imageGât yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageCymorth gartrefNews image
News image
News image
News image
News imageYn yr ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageHelpu’r ysgolNews image
News image
News image
News image
News imageEich profiadauNews image
News image
News image
News image
News imageEich cwestiynauNews image
News image
News image
News image
News imageA - YNews image
News image
News image
News image

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cymorth gartrefYn yr ysgolHelpu’r ysgol Eich profiadauEich cwestiynau
Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig

1 Beth yw anghenion arbennig?
2 Asesu'ch plentyn
3 Beth yw Dyspracsia?

4 Beth yw ADHD AC ADD?
Asesu'ch plentyn

Weithiau, bydd anghenion arbennig plentyn yn amlwg ar ei enedigaeth neu pan fo'n ifanc iawn, a bydd awdurdodau lleol yn darparu cymorth arbennig iddo o'r dechrau. Ond os yw'ch plentyn yn dechrau yn yr ysgol, ac yna ddim yn dysgu mor gyflym neu mor rhwydd â phlant eraill, mae proses safonol y bydd yr ysgol yn ei dilyn er mwyn asesu pa gymorth ychwanegol y mae ar y plentyn ei angen. Mae perfformiad llawer o blant yn cael ei wella gydag ychydig iawn o ddarpariaeth arbennig, ond bydd angen mwy o help ar ambell un.

Bydd yr ysgol yn nodi ac yn asesu anghenion plentyn mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cynnydd a chyrhaeddiad, yn cael eu monitro gan ei athro/athrawes fel rhan o arsylwi ac asesu parhaus
  • asesiad llinell sylfaen
  • cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd
  • perfformiad ar sail lefelau disgwyliedig a nodwyd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar ddiwedd pob Cyfnod Allweddol
  • sgrinio ac asesiad strwythuredig.

    Cymorth ychwanegol i'ch plentyn
    Os yw ysgol yn credu nad yw'ch plentyn yn dod yn ei flaen ar yr un cyflymder â'r rhan fwyaf o'r plant o'i oedran, beth sy'n digwydd?

  • Cymorth gan yr athro/athrawes

  • Camau sydd i'w cymryd gan yr Ysgol
  • - Os bydd yr athro/athrawes, ar ôl ymgynghori gyda chi, yn penderfynu bod ar eich plentyn angen mwy o help, yna bydd y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn edrych ar y sefyllfa. Bydd yn trefnu bod asesiad manylach o gryfderau a gwendidau penodol eich plentyn yn cael ei wneud. Mae'r camau a gymerir gan yr ysgol yn arwain at ddatblygu cynllun addysg unigol ar gyfer eich plentyn, a byddwch yn cael gwahoddiad i gyfrannu tuag ato. Bydd y cynllun yn cynnwys targedau tymor-byr, strategaethau dysgu, pa ddarpariaeth addysgol ychwanegol fydd yn cael ei gwneud, dyddiad adolygu (o leiaf ddwywaith y flwyddyn ac yn ddelfrydol bob tymor), meini prawf ar gyfer llwyddiant a'r canlyniadau y gobeithir eu sicrhau.

  • Camau Ychwanegol sydd i'w cymryd gan yr Ysgol
  • - Pan fydd cynnydd eich plentyn yn cael ei adolygu ar sail ei gynllun, a'r adolygiad hwn yn dangos nad yw'n gwneud cynnydd digonol, yna bydd y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn awgrymu 'Camau Ychwanegol sydd i'w cymryd gan yr Ysgol'. Bydd yr ysgol yn gofyn am gymorth parhaus gan wasanaethau AAA proffesiynol yr awdurdod addysg lleol. Mae'r Gwasanaeth Seicoleg Addysg yn debygol o chwarae rhan amlwg. Gan ddefnyddio cymorth y Gwasanaeth hwn, bydd y Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn llunio cynllun addysgol unigol newydd, a fydd yn cael ei roi ar waith, a bydd trefniadau'n cael eu gwneud i adolygu'r cynnydd ar sail y cynllun hwn ar ddyddiad cytunedig. Byddwch chi a'ch plentyn yn cael cyfle i gyfrannu tuag at y cynllun a'r broses o'i adolygu.

  • Asesiad Statudol
  • - Os nad oes gwelliant i'w weld yn lefel cyrhaeddiad y plentyn ar ôl hyn hefyd - a dim ond mewn nifer bach iawn o achosion y mae hyn yn digwydd - gall yr AALl wneud 'asesiad statudol' o anghenion eich plentyn (neu gallwch chi, ysgol eich plentyn neu asiantaeth arall ofyn iddo wneud un). Ceir manylion am y trefniadau hyn mewn gwybodaeth y bydd eich AALl (neu ei wasanaeth partneriaeth â rhieni) yn ei rhoi i chi.

    Os bydd yr AALl yn penderfynu peidio â gwneud yr asesiad statudol, rhaid iddo egluro pam wrthych a dweud wrthych bod gennych hawl i apelio i'r Tribiwnlys AAA neu i alw ar wasanaeth datrys anghytundeb yr AALl.

  • Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig
  • - Yn dilyn yr asesiad statudol, gall yr AALl benderfynu mai'r Awdurdod, yn hytrach na'r ysgol, ddylai benderfynu pa fath o addysg arbennig y mae ar eich plentyn ei angen. Bydd yn llunio Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig ar gyfer eich plentyn, a rhaid iddo wneud hynny cyn pen 26 wythnos. Mae gan oddeutu 3.5% (17,000) o ddisgyblion Cymru ddatganiadau o'r fath (er bod hyn yn amrywio o'r naill awdurdod addysg lleol i'r llall).

    Mae gan y Cod Ymarfer AAA ar gyfer Cymru ganllawiau penodol iawn ynghylch y math o gyngor y mae'n rhaid i'r AALl ofyn amdano a sut y mae'n rhaid iddo lunio'r Datganiad. Rhaid i gynnydd eich plentyn gael ei adolygu ar sail y Datganiad yn flynyddol o leiaf, gan ddilyn y canllawiau hyn, a phenderfynir bryd hynny a yw'ch plentyn wedi gwella digon fel nad oes angen cadw'r Datganiad mwyach. Os yw plentyn ym Mlwyddyn 9 (14 oed), rhaid i'r adolygiad gynnwys cynllun trosiannol er mwyn helpu i baratoi'r plentyn ar gyfer gadael ysgol.

    Pa ysgol?

    anghenion arbennigMae anghenion arbennig plant fel arfer yn cael eu diwallu drwy eu hysgol brif ffrwd - dyma un o egwyddorion canolog y Cod Ymarfer oni bai fod hyn yn mynd i effeithio ar addysg effeithlon disgyblion eraill. Rhaid i'ch AALl geisio cadw'ch plentyn yn yr ysgol brif ffrwd, oni bai eich bod chi'n nodi'n wahanol.

    Mae 21% o'r disgyblion sydd ar Ddatganiad yn cael eu dysgu mewn ysgolion arbennig. Mae'r ysgolion hyn yn darparu ar gyfer amrediad o anghenion penodol ac arbenigol. Weithiau bydd disgyblion yn treulio rhan o leiaf o'u hamser mewn ysgol brif ffrwd.

    Gwefan ddefnyddiol:
    Cbeebies. Gwybodaeth a chyngor ynglyn â helpu plant gyda anghenion arbennig.

    Deunydd darllen defnyddiol:
    SEN Code of Practice for Wales. Ionawr 2002 ISBN 0750427574

    Caf Directory (Contact a Family) Yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o asiantaethau sector gwirfoddol sy'n helpu i ddarparu ar gyfer anghenion addysgol arbennig plant. ISSN 0964-0703 (Pumed Argraffiad 98).


    rhan 2 o 4|1234Yn ôl i'r top
    Yn yr adran hwn
    Dewis Ysgol
    Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
    Addysg Gartref
    Cyn dechrau yn yr Ysgol Gynradd
    Y cwricwlwm yn yr Ysgol Gynradd
    Y cwricwlwm yn yr Ysgol Uwchradd
    Yr ysgol ac anghenion addysgol arbennig
    Disgyblaeth yn yr ysgol
    Adroddiadau
    Llau pen
    Gwybodaeth pellach
  • Annog plentyn i ysgrifennu
  • Darllen gyda'ch gilydd
  • Sut mae plant yn dysgu
  • Gwaith cartref

  • Eich profiadau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-ex/ was not found on this server.


    Eich cwestiynau
    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_aboutschool-qs/ was not found on this server.


    Perlau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_pearls/ was not found on this server.

    Y ffeithiau

    404 Not Found

    Not Found

    The requested URL /cgi-bin/call_tip3/wales/schoolgate-cy_facts/ was not found on this server.



    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy