 | Thomas Williams Oed: 23 Statws teuluol: Byw gyda phartner Ardal: Caerdydd Gwaith: Derbynnydd mewn gwesty Cyngor gorau: Meddyliwch am eich nodau. Unwaith dych chi'n sylwi ar y pwysau'n mynd, mae'n ddod yn haws. Wedi colli: 4 stôn |  |
Dechreuais i ym mis Mai 2003 drwy wneud hyfforddi cryfhau, ond roeddwn i mor anffit doeddwn i ddim yn gallu gwneud unrhyw waith cardio-fasgwlar. Roedd rhedeg am bum munud yn fy lladd i! Roeddwn in benderfynol, felly es i ar y peiriant traws-hyfforddi (cross-trainer) chwe gwaith yr wythnos, a bwytais i'n iach, a chollais i stôn mewn 9 wythnos.
Doeddwn i ddim yn gweithio ar y pryd felly canolbwyntiais i ar yr hyfforddi ac roeddwn i'n ymroddedig i raglen reolaidd yn y gym. Teimlais i'n well, roedd mwy o egni gyda fi, ac roeddwn in benderfynol o gario ymlaen. Roeddwn i'n synhwyrol - dim deiet eithafol, dim ond bwytan synhwyrol. Gwnaeth y peiriant grilio wahaniaeth mawr i farferion bwyta, ac roedd e wir yn gweithio. Roedd hi'n grêt peidio â cheisio ffeindio dillad i ffitio! Dw i'n benderfynol nawr, a dw' i'n dystiolaeth i ddangos ei fod e'n gallu gweithio.
|