 | Ali White Oed: 34 Statws teuluol: Priod, dau o blant Ardal: Byw yn Lloc, Treffynnon, Sir Fflint Gwaith: Cyfarwyddwr cwmni cyfrifiaduron yn gweithio o'r cartref. Cyngor gorau: Gosodwch nodau bach, a'i gymryd un diwrnod ar y tro (os ydych chi'n cael diwrnod gwael, anghofiwch o a dechreuwch eto y diwrnod nesa heb deimlo'n euog) ac i newid eich arferion bwyta/ byw am oes, nid yn unig am y cyfnod dach chi'n dilyn deiet. Wedi colli: 71 pwys (5 stôn, 1 pwys) Cyfanswm modfeddi sy wedi'u colli: 54 Maint nawr: 12 |  |
Symudon ni i Gymru, ac roeddwn ni'n gweithio ar y tŷ felly bwyd cyfleus roedden ni'n ei fwyta, prydau pryd ar glud, siocled a chreision gyda braidd dim ffrwythau a llysiau ffres, ac roeddwn i'n yfed llawer gormod o alcohol bob nos er mwyn ymlacio.
Rhoddais i stôn ymlaen mewn cyfnod byr o amser, a doedd gen i ddim dillad i ffitio heblaw am waelodion siwt loncian, crysau-t llac a siwmperi'r gŵr (ac roedd y rheini'n rhy dynn).
Dw i wedi treulio rhan fwyaf o fy mywyd fel oedolyn yn rhy fawr, ac er gwaetha cyfnodau o dilyn deiet a cholli, baswn i'n rhoi rhagor o bwysau ymlaen.
Dechreuais i gyda Slimming World ym mis Hydref 2002 gan fod fy mam wedi dechrau colli pwysau ar y cynllun hwnnw. Gwelais i lun ofnadwy ohona i o'r tu cefn, a doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor fawr oeddwn i! Roeddwn i dros 16 stôn, a maint 22 pan oeddwn i ar fy mhwysau trymaf. Newidiais i i Weight Watchers ym mis Mai 2003 pan oeddwn in 13 stôn 10 pwys.
Yn wreiddiol roeddwn i am golli stôn, ond meddyliais i fod colli pwys yn bwys iachach. Faswn i fyth wedi credu neb yn dweud y baswn i'n colli dros 5 stôn. Dw i wedi cael rhai wythnosau anodd a peth rhoi pwysau ymlaen, ond daliais ati, a dwi'n gobeithioi wneud am fyth.
Mae gen i ddau fachgen, ac maen nhw'n denau, diolch byth - dw i am iddyn nhw aros felly, a dw i'n ceisio'u dysgu bod danteithion yn bethau i'w cymryd yn gymedrol ac nid yn rhan o ddiet bwyd. Mae ffrwythau, llysiau a salad ar gael iddyn nhw fwyta ar unrhyw adeg. Maen nhw'n cael byrbrydau iach yn eu bocsys bwyd, nid siocled na losin. Maen nhw wrth eu bodd yn dysgu am fwyta'n iach a choginio.
Ymunais i â'r Gym ym mis Gorffennaf 2003 a rŵan dw i'n ymarfer yn rheolaidd hefyd. Mae'n anodd i mi gredu fy mod i wedi colli mwy na phwysau fy mab ifancaf! Does dim syndod roedd fy ngwynt yn fy nwrn trwy'r amser, a bod rhaid i mi dynnu fy hunan allan o gadair neu'r car, a doeddwn i ddim yn gallu rhedeg cam. Mae fy ngŵr yntau wedi colli 3 stôn hefyd. Roedden ni mor anffit ac afiach. Mae'r holl deulu yn bwyta'n well rwan, ac dan ni'n teimlo cymaint yn well.
|