 | Claire Jones Oed: 27 Statws teuluol: Sengl, cariad cefnogol, dim diawlaid bach Ardal: Caerdydd Gwaith: Cynorthwy-ydd y We i BBC Cymru - ar y safle hwn a miliynau o brosiectau eraill! Cyngor gorau: Penderfynwch os ydych chi am golli pwysau neu fod yn iach, a cherwch amdani a daliwch ati. Gwnewch e drosoch chi eich hun, hefyd. |  |
Dwi byth wedi bod yn hapus gyda siâp fy nghorff. Pan oeddwn in 10 mlwydd oed ffeindiais i allan bod clefyd siwgr gyda fi, a rhoddais i bwysau ymlaen achos mae deiet traddodiadol i bobl fel fi yn canolbwyntio ar fwyta llawer o garbohydradau.
Pan es i i'r brifysgol, dechreuais i golli pwysau, ond nid mewn ffordd iach iawn - doeddwn i ddim yn rheoli'r clefyd yn iawn. Doedd fy swydd gyntaf, lle roeddwn i'n gweithio shifftiau ac yn coginio i un, ddim yn helpu, chwaith. Roedd fy arferion bwyta'n afreolaidd iawn, a phentyrrodd y pwysau! Roeddwn i'n hoff o chwaraeon yn yr ysgol, a sylweddolais i mai bwyta, gweithio a chysgu oedd fy null o fyw. Penderfynais i wneud rhywbeth, a dechreuais i nofio ac ymunais i â Swimathon ar gyfer elusen cancr. Gyda gôl pendant, hyfforddais i a chodais i £400.
Es i ati i amrywio fy arferion, gan gynnwys hyfforddi cylched a rhedeg. Roeddwn i'n rhoi pwysau ymlaen - roeddwn i'n llwgu oherwydd yr holl ymarfer! Addewais i gymryd gofal or clefyd siwgr, cymerais i fy neiet mewn llaw gan wneud newidiadau roedd eu hangen ar gyfer fy iechyd hir-dymor. Sefydlogodd fy mhwysau gyda bwyta'n synhwyrol ac ymarfer yn rheolaidd, er nad oeddwn i'n colli unrhyw beth. Roeddwn i'n gwneud popeth yn gywir, yn fy nhyb i, ond doeddwn i ddim yn colli pwysau, felly roedd fy hunan hyder yn isel iawn.
Awgrymodd ffrind y dylwn i fynd i Weight Watchers, ac yn wreiddiol es i yno i'w chynorthwyo hi. Ar y dechrau roeddwn i'n meddwl bod yr holl beth yn mynd i fethu. Wedi'r cyfan, doedd dim byd wedi gweithio i fi! Roeddwn i'n ceisio mor galed i'w profin anghywir, collais i hanner stôn yn y 3 wythnos gyntaf. Roeddwn i ar fy ffordd. Roeddwn i'n teimlon llawer gwell amdana i fy hun, a'r ffordd roeddwn i'n edrych. Daliais at yr ymarfer, ac wrth i'r pwysau ddisgyn roedd fy siâp yn edrych yn fwy tynn. Dwin teimlo'n grêt nawr, a dwi'n gwybod i mi wneud newidiadau am weddill fy mywyd. Dwi'n gwybod y bydda i'n teimlo cystal â hyn os ydw i'n cadw atyn nhw!
|