 | Carys Roberts Enw: Carys Ann Roberts Oed: 35 Statws teuluol: Priod efo dau blentyn - Owen 8, Ann 6. Ardal: Pentre o'r enw Llanddona, Sir Fôn, Gogledd Cymru Gwaith: Rwy'n Swyddog Cynorthwyol Diogelu Rhywogaethau i Gyngor Cefn Gwlad Cymru yn eu swyddfeydd ym Mangor. Cyngor gorau: Daliwch ati! Os 'dach chi'n cael diwrnod gwael, does dim ots - 'dan ni i gyd angen trît bach bob hyn a hyn. Diwrnod arall ydy o fory, felly dechreuwch yn ffres yfory. Un arall ydy ysgrifennu POPETH i lawr. Wedi colli: 59 pwys (4 stôn 3 phwys) |  |
Yn ystod 2003 cefais annwyd ar ôl annwyd ar ôl annwyd, felly es i at y meddyg. Cefais brofion ar y chwarren thyroid, ond daeth o nôl yn dweud bod gen i glefyd siwgr (diabetes)! Cefais i fraw - dywedon nhw wrtha i bod rhaid i mi ddod lawr i fy mhwysau delfrydol neu fasai fy organau'n darfod gweithio, a basai hyn yn fy lladd i! Dyna'r hwb roedd ei angen arna i. Ym mis Mai 2003 ymunais i â Weight Watchers, a dwi heb edrych yn ôl oddi ar hynny.
Rwy'n mynd i'r gampfa bob nos Lun, nofio teirgwaith yr wythnos yn ystod amser cinio ac rwy'n ymdrechu gwneud rhyw fath o weithgaredd efo'r plant dros y penwythnos nofio, seiclo neu gerdded. Nawr rwy wedi colli fy 4 stôn cyntaf, rwy'n benderfynol o gyrraedd fy mhwysau targed erbyn Hydref neu Dachwedd eleni. Mae gen i ffrindiau sy'n gwneud Weight Watchers hefyd; rwy'n gwybod ein bod ni'n gallu ei wneud o efo'n gilydd.
|