 | Sheila Morgan Oed: Dros 21! Ardal: Aberystwyth Statws teuluol: Priod gyda 4 o blant wedi tyfu Gwaith: Nyrs wedi ymddeol Cyngor gorau: Ymunwch â grwp sy'n gymysgedd o bobl. Ymunais i â grwp steil bywyd yn hytrach na grwp dilyn deiet felly roedd hi'n brofiad mwy positif. |  |
Roeddwn i am wneud mwy o ymarfer i deimlon fwy ffit, ond doeddwn i ddim yn gallu ei wneud oherwydd bod curiad fy nghalon yn rhy uchel ac roeddwn i'n teimlon sâl. Sylweddolais i fod rhaid i mi wneud rhywbeth adeiladol i defnun hunan. Ymunais i â grwp yng Nghanolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth. Annogon nhw i mi edrych ar yr hyn roeddwn i'n ei fwyta i weld beth oedd ynddo. Esbonion nhw pam oedden ni'n bwyta rhai mathau o fwyd, a des i i ddeall ochr seicolegol deiet.
Ar ôl tri mis roeddwn i'n teimlo bod mwy o egni gyda fi, a chollais i ddau bwys cyson yr wythnos. Dywedodd y tiwtor bod ffrwythau a diodydd cochion yn fwy cyflawnedig, dechreuais i weithio ar hyn ac fe'm helpodd i lwyddo. Y peth arall oedd gweld bar siocled a deall - sawl calori oedd ynddo. Yn sydyn sylweddolais i faint o ymdrech oedd ei hangen i golli pwysau.
Dwi'n ofalus nawr, a dwi'n ymarfer yn reolaidd. Dwi'n teimlo cymaint yn well, ac mae llawer mwy o egni gyda fi. Dwin edrych i golli mwy o bwysau, ond yn raddol ac yn y ffordd iawn.
|