 | John Meredith Enw: John Meredith Oed: 57 Statws teuluol: Wedi priodi, tad i 2, a thadcu i 1 Ardal: Aberystwyth Gwaith: Newyddiadurwr a gohebydd newyddion i Radio Cymru a Newyddion Cyngor gorau: Ymarferwch, a byddwch yn ymwybodol o beth a faint 'dych chi'n ei fwyta. Mae newidiadau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Wedi colli: 34 pwys (2 stôn) dros y flwyddyn ddiwetha. |  |
Roeddwn i'n arfer chwarae llawer o chwaraeon - pêl-droed, criced ac ychydig bach o golff, ond stopiais i chwarae a magodd y pwysau wrth i mi heneiddio. Dyw fy ngwaith i ddim yn gorfforol, a dwi'n treulio llawer o'r dydd wrth fy nghyfrifiadur neu yn y car, felly pentyrrodd y pwysau.
Gwnes stori ar Athro yn Adran Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth oedd yn gwneud gwaith ar fapiau calorïau: dywedodd e wrtha i fod cerdded a rhedeg yn llosgi'r un faint o galorïau â'i gilydd, dros yr un pellter. Felly does dim ots os ydych chi'n cerdded neu'n rhedeg milltir, yr un ydy'r nifer o galorïau sy'n cael eu llosgi. Roeddwn i bob amser wedi gweld loncian neu rhedeg fel hyfforddi, a doeddwn i ddim yn hoff o hynny, ond dwi'n hoffi cerdded, ac yn ei ffeindio'n ymlaciol, yn enwedig gyda chymaint o gefn gwlad hyfryd o'm cwmpas. Roedd llosgi calorïau wrth wneud rhywbeth roeddwn i'n ei fwynhau'n apelio'n fawr ataf.
Sylweddolais i nid oes ond un person sy'n gallu newid eich arferion a gwneud y math hyn o beth, felly penderfynais i fynd am dro fel rhan o'm trefn ddyddiol, yn y bore cyn gwaith. Does na ddim cymaint o wrthdyniadau adeg hynny'r bore, felly codais i a mynd. Cerddais i am ryw 2 a hanner milltir bob dydd, a chymerodd hynny tua thri-chwarter awr i mi, yna baswn i'n dod adref, cael brecwast a mynd i'r gwaith. Ffeindiais i fod yr amser i mi fy hun wrth gerdded yn rhoi cyfle i mi gynllunio'r dydd ac awchu fy meddwl, yn barod at y dydd o'm blaen.
Ar ôl ychydig wythnosau sylweddolais i fod y pwysau'n disgyn, a dechreuais i feddwl am y calorïau roeddwn i'n eu bwyta, yn ogystal â'r rhai roeddwn i'n eu llosgi, ac i feddwl am fy neiet hefyd. Bwydodd un y llall! Roedd hi'n gwneud synnwyr os oeddwn i'n mynd i roi cymaint o ymdrech i mewn i losgi calorïau, dylwn i roi peth ymdrech i mewn i ofalu nad oeddwn i'n rhoi gormod o galorïau mewn yn y lle cyntaf! Dechreuais i wneud penderfyniadau bwyd iachach, ac i edrych ar faint y cyfrannau - fi yw fy nyfarnwr yn hyn o beth, ac os ydw i'n twyllo, dwi'n twyllo neb arall ond fi fy hun!
Dwi wedi colli 2 stôn yn y flwyddyn ddiwethaf, dim ond drwy wylio beth dwi'n ei fwyta a thrwy sicrhau bod rhywbeth dwi'n mwynhau ei wneud yn rhan o'm trefn ddyddiol. Roeddwn i'n dioddef o sciatica yn ddiweddar, a rhoddais i'r gorau i'r cerdded am ychydig fisoedd - roeddwn i'n gweld ei eisiau a magais i gwpl o bwysau ond nawr fy mod i nôl yn cerdded, dwi'n gwybod y bydda i'n gallu ei shifftio. Dwi'n edrych ymlaen at fynd am dro bob bore.
|