 | Massey Fisher Oed: Dros 21 Statws teuluol: Sengl Ardal: Caerdydd Gwaith: Hanner-ymddeol o fusnesau Cyngor gorau: Ymunwch â gym dylwn i fod wedii wneud flynyddoedd yn ôl. Gwnewch ffrindiau yn ogystal â cholli pwysau. Wedi colli: 2 stôn 10 pwys |  |
Pan sylweddolais i fy mod i'n fwy na fy nhad, roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi wneud newidiadau. Rhoddais i'r gorau i smygu am resymau iechyd, ac roedd fy mhwysau wedi coid i 17 stôn 10 pwys.
Roeddwn i'n gwybod bod rhaid i mi ymuno â gym, er i mi fod yn anobeithiol yn gwneud unrhywbeth yn y dechrau. Roeddwn i am wneud rhywbeth i newid fy mywyd, felly daliais ati. Rhoddwyd rhaglen sylfaenol i mi im helpu. Roedd hi'n anodd iawn, ond es i'r gym bum neu chwegwaith yr wythnos gan fy mod i mor benderfynol.
O fewn mis neu ddau roeddwn i'n gweld gwahaniaeth ac fe'm ysbrydolwyd i ddal ati. Torrais i lawr ar y bwydydd brasterog, er nad oedd cynllun bwyta pendant gyda fi. Hefyd, torrais i lawr ar y coffi - o 10 cwpanaid y dydd i un! Collais i'r pwysau'n raddol a gosodais i raglen i fy hun gyda thargedau roeddwn i'n gallu llwyddou cyrraedd. Dwi wrth fy modd gyda'r dosbarthiadau sbinio, ac mae'n gweithio. Dydy hi ddim wedi bod mor anodd a dychrynllyd ag oeddwn i'n meddwl.
|