BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clamp o lwyddiant
Jacqueline HindleJacqueline Hindle
Oed: - 27
Statws teuluol: Byw efo'n gilydd
Ardal: Llandudno
Gwaith: Datblygydd basau-data
Cyngor gorau: Cymerwch bob achlysur pwyso fel y daw. Unwaith 'dach chi ar y glorian, does na ddim pwynt i chi edrych yn ôl ar bethau y gallwch fod wedi'u gwneud yn well yn ystod yr wythnos sy' 'di mynd; edrychwch ymlaen at yr wythnos i ddod. O ia, a pheidiwch â gadael i un o'r 'weigh-ins' 'na'i sbwylio fo i chi.
Wedi colli: 38 pwys

Tan oeddwn i'n rhyw ugain mlwydd ches i ddim problem efo mhwysau - roeddwn i'n un o'r bobl ddiflas na oedd yn medru bwyta beth bynnag maen nhw isio, ond sy'n aros yn denau. Yn fy ugeiniau cynnar, dechreuodd y pwysau magu heb i mi sylwi, bron. Ceisiais i golli pwysau cwpl o weithiau, ond ymdrechion diawydd oedden nhw ceisiais i Weight Watchers, ymunais i â gym a gwnes i Slimming World ond doeddwn i ddim yn fodlon ar y pryd i wneud y newidiadau roedd eu hangen i newid fy ffordd o fyw; roeddwn i isio gwialen hud oedd yn mynd i dynnu'r pwysau heb i mi orfod gwneud yr ymdrech fy hunan.

Penderfynais i fynd yn ôl i Weight Watchers yn 2003 ar ôl i ffrind i mi ddanfon lluniau ohona i wedi i mi ymweld â hi - ces i sioc i weld pa mor chwyddedig oedd fy wyneb. Doeddwn i ddim wedi sylwi faint o bwysau roeddwn i wedi magu. Pwysais i rhyw 13 stôn 7 pwys, ond cronnodd pethau pan ddywedodd fy meddyg y dylwn i wneud rhywbeth cyn i mi gael problem ddifrifol efo mhwysau. Yr wythnos nesa es i i gyfarfod fy Weight Watchers lleol - Ebrill 22, 2003 oedd hwnnw.

Y tro hwn roeddwn i'n benderfynol. Dw i'n gwybod nad ydw i'n colli pwysau'n gyflym iawn, ond y tro hwn roeddwn i'n fodlon i'r peth gymryd faint a fynno. Es i i bob 'weigh-in', a chollias i'r un ohonyn nhw (heblaw am wyliau), heb ots pa mor wael roeddwn i wedi'i wneud. Ces i fy synnu pa mor hawdd oedd Weight Watchers i'w ddilyn, doeddwn i fyth yn teimlo'n newynog, a dechreuais i fwyta'n fwy iach nag oeddwn wedi'i wneud o'r blaen. Collais i bwys bob wythnos, a chyn bo hir roedd fy nillad yn hongian arna i, ac roedd angen dillad newydd arna i. Des i at fur go gythruddol tuag at ddiwedd yr haf, pan nad oeddwn i'n gallu cwympo o dan y 12 stôn, ond yn sydyn collais i dri phwys a dw'i heb edrych yn ôl oddi ar hynny, hyd yn oed adeg Nadolig.

Dw i nawr wedi colli 38 pwys (2stôn 10pwys) ac mae gen i 4.5 pwys i fynd i gyrraedd fy mhwysau targed.


Ali White
Carys Roberts
Claire Jones
Damian George
Delyth Harris
Emma Crane
Jacqueline Hindle
John Meredith
Massey Fisher
Sheila Morgan
Thomas Williams
Pwyso a Mesur
Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy