BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Clamp o Broblem

BBC Homepage
Cymru'r Byd
Addysg


News imageClamp o Broblem
News image
News imageGwerth eu Pwysau
News image
News imageClamp o Lwyddiant
News image
News imageAllan Ag O
News image
News imageHelp Llaw
News image
News imageEnglish
Clamp o Broblem

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clamp o lwyddiant
Damian GeorgeDamian George
Oed: 34
Ardal: Sir Gaerfyrddin
Gwaith: Cydlynydd Adnoddau i BBC Cymru; awdur teledu
Cyngor gorau: Sefwch yn borcyn o flaen drych llawn, ac yna neidiwch lan a lawr drosodd a throsodd; cymerwch luniau ohonoch chi eich hun yn sefyll yn eich trôns a'u defnyddio fel papur wal ar eich cyfrifiadur; bwytewch lai ac ymarferwch fwy - syniad syml unwaith 'dych chi'n ei ddeall!
Wedi colli: 133 pwys.

Pwysau....hoeden fach ddiawledig yw pwysau!

Dyw hi ddim yn amlwg nac yn ddidwyll. Dyw hi ddim yn gadael i chi wybod ei bod hi yno gyda chaniad utgorn. Mae'n cropian lan y tu ôl i chi.
Yn llythrennol!
Mae'n eich twyllo chi. Mae'n glyfar iawn, pwysau. Dyw hi ddim i gyd yn cyrraedd yr un amser. Mae'n adneuo'i hun, yn araf bach, i mewn i'ch cyfrif metabolaidd, a chyn i chi sylweddoli beth sy'n digwydd, 'dych chi'n filiwnydd y celloedd braster. Ymlusgodd fy mhwysau innau am flynyddoedd. Pob hyn a hyn baswn i'n sylweddoli bod fy nillad wedi mynd yn dynn. Dim ond ychydig rhy fach oedden nhw, dim byd eithafol, felly doeddwn i ddim yn becso. Baswn i'n gallu ei golli. Pe bawn i eisiau... Ond, adiodd y niferoedd ychydig rhy fach i fod yn ychydig bach o ymgodymwr Siwmo, a chyn i mi ei sylweddoli, roeddwn i ar drothwy fod yn bum stôn ar hugain! Dwin beior holl beth ar fod yn hapus iawn yn fy mhriodas. Mae gan fodlonrwydd lawer i ateb amdano!

Er gwaetha fy mhwysau, llwyddais i argyhoeddi fy hun nad oedd hi cynddrwg â hynny. Defnyddiais i bob cyffredinedd ac ystrydeb yn y llyfr esgusodion. Dwi'n 6 3 o daldra, mae esgyrn mawr gyda fi, nodwedd deuluol. Materion iechyd? Pa faterion iechyd? Daeth yr ergyd, pan ddaeth, o unlle - yn ôl ei arfer. Nid gan feddyg, na chwmni yswiriant, na chan gyfaill ffyddlon. Daeth yr ergyd gan ferch chwe blwydd oed, allan yn siopa gyda'i mam yn Safeway. Gwenodd yn beraidd, a, gan chwifio arna, bloeddiodd nerth ei phen ar draws yr eil bwydydd oer:

Helo 'Tinky Winky'.

Roeddwn i wedi malu'n fân, ond dwi'n falch i mi gael fy magu'n gywir - dwi'n gwybod nad ydy hi'n beth boneddigaidd iawn i roi cwffad i blant bach! Dyna oedd y foment, beth bynnag. Doedd dim dianc o'r sylw hwnnw.

'Tinky Winky?!'
Oeddwn i'n borffor llachar?
Nac oeddwn.

Ydw i'n cario bag llaw?
Oni bai ei fod yn achlysur arbennig iawn.
Nac ydw.

Oedd antenan tyfu o dop fy mhen?
Nac oedd.

Pa enwaduron cyffredin eraill oedd na? Gadewch i mi weld...roeddwn in DEW. Mawr, rownd, yn siglo ac yn dew. Diolch, blentyn. Dwi'n dy garu di hefyd!

A dweud y gwir, gwnaeth hi gymwynas enfawr â mi. Rhaid i mi gyfaddef, nid yn y dull mwyaf di-boen, ond o leiaf roedd hin onest mewn ffordd, a gorfodwyd i mi feddwl yn hir a chaled, ac i wynebu ffeithiau. Wn i ddim pwy oedd hi, ond bydd hi rhyw un ar ddeg neu ddeuddeg mlwydd oed erbyn hyn. Os ydych chi'n darllen hyn, ac mae'n taro nodyn ...diolch. Mae arna i ddyled mawr i chi.

Es i adren hollol ddigalon, a beth ydy'r peth cyntaf dyn ni'n ei wneud os ydy'n ni'n ddigalon? 'Dyn ni'n BWYTA!! Llond lorïau o frechdanau caws, a chreision wrth y dunnell. Mmm, mae hynny'n gwneud synnwyr! Roedd rhaid i mi stopio. Roedd rhaid i mi wneud rhywbeth, a'r unig ffordd o wneud hynny oedd i benderfynu. Yn y man ar lle, gwneud penderfyniad a dal ato!

Ydych chi wedi clywed am Y Diet Cawl Bresych? Dyna beth wnes i, fel hynny y dechreuais i. Mae'n ffiaidd, ond mae'n gweithio - a hoffwn gofnodi'r ffaith nad yw'r sibrydion am wyntoedd cryf o'r De yn wir! Daliais ato am dri mis. Ddylech chi ddim, dwi'n gwybod, ond felly y gwnes i. Roedd e'n gweithio, ac roedd y pwysau'n dod i ffwrdd, yn gyflym iawn. Dwi nawr yn tueddu defnyddio techneg Atkins, ond dwi wedi ei haddasu fel NAD ydw i'n cynnwys yr holl fraster, menyn, mayonnaise a hufen - dwi'n ceisio osgoi'r pedwar prif grŵp carbohydrad sy' wedi'u prosesu.

Hefyd, gwnes i'r peth mwyaf anghredadwy, annhebygol ac arswydus. Ymunais i â'r gym.

Ydw, dwi'n ei gyfaddef. Dyma fi, Damian George - yr un Damian George roedd gwell ganddo gael ei ddal lawr a'i orfodi i fwyta bwyd moch na gwneud chwaraeon yn yr ysgol - yn ymuno â gym, a than ddiweddar, dwi wedi bod yn mynd yno deirgwaith yr wythnos. Dwi ddim yn mynd i ddweud fy mod i'n ei fwynhau, ond mae'r canlyniadau'n werth yr ymdrech. Peidiwch â dweud wrth neb, ond dwi'n defnyddio'r grisiau yn y gwaith yn lle defnyddio'r lifft. Weithiau!

Mae hi wedi cymryd pum mlynedd i mi, ond nawr dwi lawr i ryw bymtheg stôn a hanner, a dwi'n ffitio i mewn i drywsus maint 36. Efallai nad yw hynny'n creu argraff ar rai, ond fy nod oedd i gael gwasg y maint hwnnw, a dwi wedi llwyddo i'w wneud. Nawr mae llwyth o ddillad yn fy nghwpwrdd sy'n ffitio fi. Dwi'n gallu dethol a dewis beth i wisgo bob bore - periff hynny syndod i rai, y ffordd maen nhw'n edrych arna i'n syn bob dydd! Mae'n bleser mawr i allu mynd mewn i siopau dillad a phrynu pethau sy'n dweud Medium arnyn nhw, yn lle cymryd beth bynnag sydd ar gael yn y rhes XXXL.

Cawn ni roi balchder i'r ochr am eiliad. Dwi YN teimlo'n well. Mae'n beth ystrydebol i'w ddweud, dwi'n gwybod, ond mae'r ffaith nad ydw i'n cario'r holl sachau tatws hynny o gwmpas gyda fi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae popeth yn haws i'w wneud, ac yn cymryd llai o ymdrech, ac mae rhaid bod hynny'n beth da. O na bawn i'n gallu rhoi'r gorau i'r ffags hefyd, buasai gyrfa newydd gyda fi fel hyfforddwr ffitrwydd...

Dwi ddim yn dweud ei bod hi'n hawdd i golli pwysau, achos dydy hi ddim, ond dydy hi ddim yn hawdd i fod yn dew chwaith. Mae'n frwydr gyson ar bob math o lefel, a bydd llawer o bobl byth yn deall hyn. Dydy hi ddim byd i wneud â metabolaeth, diogi, glythineb nac apathi. Mae'n gategori cyfleus mae pobl dew yn cael eu rhoi ynddo. Y blwch eilradd. Ond ni sy'n gyfrifol am fod yno yn y lle cyntaf.

Roedd bod yn dew, yn fy achos i, yn ymwneud â'r ffordd roeddwn in teimlo amdana i fy hun. Roeddwn i'n ceisio cuddio rhag y byd y tu ôl i haenau o fraster. Y brechdanau caws a'r creision? Nhw oedd fy ngwahanfuriau, barau y caets dwi wedi gorfodi fy hunan i mewn iddo. Dych chi'n gwybod am y caets, ond ydych? Yr un dych chi ynddo nawr, yr un gyda'r drws agored, yr un 'dych chi'n gallu gadael unrhyw bryd y mynnwch chi. Y caets 'dych chi'n penderfynu aros ynddo, heb ots pa mor boenus ydy e, achos mae'n llawer saffach na gorfodi'ch hun i wynebu unrhyw beth newydd a gwahanol y tu draw i'r drws agored sydd efallai'n mynd i beri sialens i chi.

I fi, mae colli pwysau wedi mynd llaw yn llaw â dwi ddim am ddweud Dysgu sut i garu fy hun, achos mae hynny'n naff. Mae'n ymwneud â dysgu amdanoch chi eich hun, derbyn pwy ydych chi yn eich llawn liwiau, a rhoi caniatâd i'ch hun i gyflawni popeth dych chi am ei wneud, ac i wneud cyfiawnder i'ch hunan yn y pendraw. Gyda llawer o ymdrech, mae'n bosib ei wneud. Heb ots pa mor anodd mae'n ymddangos.

Pwysau....hoeden fach anwadal yw pwysau!

Dyw e ddim yn ffyddlon ac yn ofalgar. Dyw e ddim yn aros o gwmpas y lle pan dych chi'n ei herion uniongyrchol. Mae'n cropian i ffwrdd. Yn eich gadael yn llai o berson nag oeddech chi o'r blaen.

Yn llythrennol!


Ali White
Carys Roberts
Claire Jones
Damian George
Delyth Harris
Emma Crane
Jacqueline Hindle
John Meredith
Massey Fisher
Sheila Morgan
Thomas Williams
Pwyso a Mesur
Cyfrifo BMI
Cysylltiadau
Faint i'w fwyta
Dyddiadur Bwyd a Ffitrwydd (PDF)
Cofnod Pwysau (PDF)
Llyfr o gyngor (PDF)
Clamp o ffurflen

Cymorth i osod acrobat reader
Pwyso a Mesur
Help Llaw
Help LlawRhannwch eich profiadau neu gofynnwch am gyngor ar y bwrdd negeseuon (gwasanaeth Saesneg).
Clamp o lwyddiant
[an error occurred while processing this directive]


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy