 | Pensaernïaeth yng Nghymru
Gwahoddwyd ceisiadau oddi wrth benseiri neu grwp o benseiri i ddangos adeiladau gyda dyddiad eu cwblhau ymarferol rhwng 1999 a 2002 yn gynwysedig.
Detholwyr: James Carter, David Thomas
Ystyriwyd ceisiadau llwyddiannus yr Arddangosfa ar gyfer y gwobrau canlynol:
Y Fedal Aur mewn Pensaernïaeth Gwobr Goffa Alwyn Lloyd Rhoddir replica arian-ac-aur gan Gymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru er cof am y diweddar Ddr T Alwyn Lloyd. Pwrpas y wobr yw tynnu sylw at bwysigrwydd pensaernïaeth yn niwylliant y genedl ac anrhydeddu penseiri sy'n cyrraedd y safon uchaf mewn dylunio. Rhoddir y wobr i'r pensaer neu benseiri sy'n gyfrifol am adeilad neu grwp o adeiladau a gwblhawyd yng Nghymru rhwng 1999 a 2002, a gymeradwywyd i'r Eisteddfod fel y rhai gorau.
Pembroke Design Cyf. Doc Penfro Ysgol Bro Dewi, Tyddewi
Plac Teilyngdod Bwriad y gystadleuaeth hon yw hybu ceisiadau a rhoi llwyfan i brosiectau llai ond o safon ac ansawdd uchel. Gwahoddwyd penseiri i gyflwyno un ai prosiectau newydd neu brosiectau adnewyddu a oedd yn bodloni'r pwyntiau canlynol:
a. adeiladwyd yng Nghymru b. cyfrif terfynol hyd at £500,000 c. cwblhawyd rhwng 1999 a 2002 ch. yn harddu'r amgylchedd
Maredudd ab Iestyn, Caernarfon Ty Newydd, Caernarfon
Austin-Smith:Lord, Caerdydd Cam II, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne
Holder Mathias Alcock, Caerdydd Waterguard Bar, Bae Caerdydd
Patrick Thomas, Trefynwy The Forge, Trefynwy Penseiri Nicholas Hare, Llundain Basn Hirgrwn, Bae Caerdydd
Mae detholwyr yn y gorffennol wedi dweud wrthym bod beirniadu’r ceisiadau ar gyfer y gwobrau hyn yn brofiad digalon ac yn ysbrydoliaeth ar yr un pryd. Ac felly yr oedd hi.
Mae’n debyg y byddai’n well i ni gael y digalondid o’r ffordd yn gyntaf, fel y gallwn symud ymlaen at bleserau’r cynlluniau buddugol a ddewiswyd. Mae un neu ddau o’r cynlluniau a gyflwynwyd o ansawdd mor anhygoel o gyffredin fel ei fod yn mynd â’ch gwynt. Mae’n gwneud i rywun feddwl a ydyw eu penseiri yn darllen y cylchgronau proffesiynol ac yn ymwybodol o’r hyn sydd yn cael bri ymhlith ein cymheiriaid a gan feirniaid pensaernïol eraill.
Cafodd rhai o’r ceisiadau eu cyflwyno yn y ffordd fwyaf truenus. Roeddynt yn cynnwys llun neu ddau o’r adeilad, wedi eu prosesu gan y fferyllfa leol, neu lun bychan iawn wedi’i anfon ar e-bost. Derbyniwyd sawl llun o un adeilad arbennig, wedi eu tynnu o domen sbwriel, gryn bellter i ffwrdd. Ym mhob llun mae’r blaendir, sydd hyd at hanner y llun, yn llawn o hen fatresi, carpedi a cheir wedi eu rhacso. Ai rhyw fath o sylw eironig oedd hyn ar y ffordd yr ydym yn trin yr hen a’r musgrell tybed? Cartref nyrsio yw’r adeilad. Gydag ychydig o ymdrech gellid bod wedi dod dros y broblem yma ond cafwyd yr argraff nad oedd hynny yma nac acw i’r ymgeisydd.
Ni all y detholwyr ymweld â phob adeilad a roddwyd gerbron. Felly mae’n rhaid i’r cynnig fod yn un digon da i’w darbwyllo i deithio, efallai hyd a lled Cymru, er mwyn gweld yr adeilad a chael y profiad ohono yn ei gynefin. Rhoddwyd un ty gerbron, a oedd efallai’n haeddu ystyriaeth bellach, ond roedd y lluniau mor brin ac mor fychan fel y bu’n rhai i ni ei roi heibio yn y cyfarfod dewis cyntaf. A oeddem ni’n iawn i wneud hyn, yntau a gollwyd gem o’r gystadleuaeth? Os nad oes gan y penseiri ddigon o feddwl o’u hadeiladau i drafferthu i’w cyflwyno yn y ffordd orau posib, go brin y gellid disgwyl i’r detholwyr gymryd atynt ryw lawer.
Dim ond deunaw cynllun oedd yn y gystadleuaeth eleni, dau yn llai na’r llynedd, naw yn llai na’r flwyddyn gynt. Cafwyd y cymysgedd arferol o dai preifat ac estyniadau (pump), cartrefi nyrsio a chynlluniau lloches (dau), tafarndai a bwytai (pedwar), swyddfeydd a ffatrïoedd (dau), adeiladau addysgol (dau), adloniant (un), gwaith adfer (un), a safle cyhoeddus, trefol nad yw’n bosib ei osod yn hwylus mewn unrhyw ddosbarth.
Ac felly at yr ochr fwy pleserus.
Yn gyntaf, gair o glod i Wyn Jones am adfer to Eglwys Sant Ismael, Camros, yn dilyn difrod gan dân. Roedd yn waith trwsio ac adfer gofalus a manwl, ac yn haeddu cymeradwyaeth, ond nid yw’n waith pensaernïol gwreiddiol ac felly ni ddewiswyd y gwaith i gael ei arddangos. Mae delio gyda chynigion o’r math yma yn benbleth bob blwyddyn, a dylid dod o hyd i ryw ffordd o gydnabod a dathlu’r gallu a’r medrusrwydd sydd ynglyn â’r math yma o waith.
Mae The Forge, Trefynwy gan Patrick Thomas, yn stiwdio newydd ac yn estyniad i dy a oedd eisoes yn bodoli, ac mae’r gwaith wedi ei wneud gyda chryn gydymdeimlad. Mae’r hyfrydwch yn y manylion ac mae’n wers rymus ar sut i beidio â gwastraffu’r cyfle i wneud y gorau o’r cyfle lleiaf.
Mae Ty Newydd, Caernarfon gan Maredudd ab Iestyn, yn dy newydd llawn hyder, ar stryd dawel, ymhlith y tai unigol, cyfforddus o’i gwmpas. Trwy gynllunio gofalus a medrus, mae wedi llwyddo i gyflawni llawer gyda chyllideb fechan a safle cyfyng, gan greu priodas rhwng gofod mewnol ac allanol, a gadael golau i lifo i galon y ty ei hun a chreu golygfeydd hyfryd o du mewn a thu allan y ty, draw at afon Menai.Mae hyn yn gwneud i’r ty edrych yn fwy helaeth nag ydyw. Roeddem ni o’r farn bod gormod, o bosib, o wahanol ddefnyddiau wedi cael eu defnyddio ar gyfer y cladin allanol, ond efallai ein bod yn hollti blew erbyn hyn.
Mae tafarn y Waterguard, Bae Caerdydd gan Holder Mathias Alcock yn cyrraedd yr ansawdd y gellid ei ddisgwyl gan y practis hwn. Yr her iddynt oedd impio tafarn fodern ar yr hen Dollty, adeilad dipyn llai yn dyddio o’r 19fed ganrif. Yr ymateb oedd blwch cain, wedi ei orchuddio â meini o Swydd Efrog, yn sefyll ar wahân ac yn edrych fel pe bai gefn yn gefn â’r adeilad hyn. Rhwng y ddau adeilad mae waliau gwydr cyn uched â dau lawr. Oddi mewn mae lolfa helaeth yn llawn golau a golygfeydd ar draws y bae. Cafodd un ohonom drafferth canfod y drws i fynd i mewn - gan amlaf, canfod y drws i fynd allan yw’r broblem.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Cam II gan Austin-Smith Lord,/a> yn deitl nad yw’n dweud fawr ddim am yr adeilad a’r hyn sydd ynddo. Hyd yn oed pan fyddwch yn gweld yr adeilad ei hun, mae’n dawedog iawn yn hyn o beth. Mewn gwirionedd, ar ei symlaf, mae’n theatr ddarlithio, gyda phob cyfleuster ar gyfer tua hanner cant o bobl. Ond pan fydd pob botwm yn cael ei bwyso, bydd y theatr yn troi yn sioe ffilm 360 gradd, gyda sgriniau yr holl ffordd o’ch cwmpas a’r gynulleidfa yn troi yn eu hunfan, a’u seddau gyda nhw. Mae’r sioe yn wledd i’r llygad, a’r adeilad yn anymwthgar ac yn chwaethus dros ben. O ran ffurf mae’n adeilad syml: adeilad tebyg i ddrwm gyda tho grisiau, conig yn cynnwys y theatr. Mae’r adeilad petryal sy’n sownd iddo yn cynnwys y cyntedd a’r ystafell blanhigion. Mae’n waith manwl iawn a defnyddiwyd llawer o ddefnyddiau o ansawdd da - digon o wenithfaen gwyn a waliau cerrig. Mae’r adeilad ar ochr ogledd gorllewinol y piazza; ar yr ochrau o bopty iddo mae’r hen dai allan a bloc gwasanaeth y ty gwreiddiol. Mae’r ardd yn gwella o dymor i dymor ac mae adeilad Austin-Smith Lord, ar y piazza grisiog, terasog yn gyfraniad gwych a chywrain at y broses hon.
Cawsom anhawster i osod Basn Hirgrwn Bae Caerdydd, gan Benseiri Nicholas Hare, mewn unrhyw ddosbarth. Roeddem yn holi ein hunain ai pensaernïaeth oedd hyn? Ac fe wnaethom ofyn yr un peth i’r swyddog diogelwch oedd yn gofalu am y lle. Nid oedd yr un ohonom yn siwr sut i’w ddisgrifio orau. Mae’n sicr yn dwll prydferth yn y ddaear, ac fe ddylem ni yng Nghymru wybod tipyn am dyllau yn y ddaear. Yn wir mae yn safle hardd, agored, trefol ac nid oes gennym hanner digon o’r rheini yng Nghymru.
Yn bensaernïol mae gyfwerth â "cherdd wedi ei chanfod" ac mae’r penseiri yn haeddu clod am roi ffrwyn ar eu hymyrraeth. Trwy’r dull syml o osod llawr pren o fewn y basn, ar oleddf graddol sy’n gogwyddo i lawr tuag at lle’r oedd y llifddorau gwreiddiol, maent wedi creu safle bendigedig sydd, fel y piazza yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau awyr agored. Mae’r gofod rhwng adeiladau yn bwysig, weithiau yn bwysicach na’r adeiladau eu hunain. Dyma gyfle prin i glodfori gofod cyhoeddus ac yr ydym yn croesawu’r cyfle i wneud hynny.
Nid yw Ysgol Bro Dewi, Tyddewi, gan Pembroke Design Cyf., yn torri tir newydd. Mae wedi ei gosod o fewn y ddinas gadeiriol, ar dir sydd wedi cael ei ddefnyddio a’i ail-ddefnyddio dros y canrifoedd. Mae’n wynebu y de-orllewin, tua’r eglwys gadeiriol a phlas yr esgob - canolfan addysg yn ei chlytiau yn craffu dros y ffens at ei hybarch gymydog. Roedd y lluniau ddaeth gyda’r cynnig hwn yn dangos ysgol a gynllunwyd yn ddeheuig iawn. Roedd dwy ystafell ddosbarth i’r babanod a phedair ystafell ddosbarth gynradd wedi eu gosod ar hyd un ochr coridor canolog crwm sydd wedi ei oleuo oddi uchod, gydag ystafelloedd staff, swyddfeydd, neuadd, cegin ac ystafell gyfrifiaduron ar hyd yr ochr arall. Mae’r rhain yn elfennau cyfarwydd mewn cynllunio ysgolion babanod/cynradd. Yr hyn na chafodd ei ddatgelu yn y lluniau ac a oedd yn syndod ac yn bleser i ni pan ymwelwyd a’r ysgol oedd y gofal yr oedd y penseiri wedi ei gymryd i weld eu gwaith o safbwynt y plentyn. Mae llawer o fanylion hapus, o’r gatiau metal gyda’i hamlinelliad o gymeriadau straeon tylwyth teg, i’r blodau sydd wedi eu hargraffu ym mriciau clai y seddi tu allan - yr union fath o beth y bydd bys plentyn yn olrhain ei drywydd dro ar ôl tro yn ei gywreinrwydd. Gwnaeth y penseiri yn dda i wahanu’r ysgol i’w ddarnau cysefin ac felly osgoi’r trymder sefydliadol a allai arswydo ei defnyddwyr ifanc. Mae gan bob ystafell ddosbarth olygfa braf dros yr eglwys gadeiriol tua Charn Trefeiddan. Ar y teras isod, ac o olwg yr ystafelloedd dosbarth, mae’r cae chwarae. O dan hwnnw eto, ar deras is fyth, mae’r caeau pel-droed a phêl-rwyd wyneb caled, a thu draw i hynny - gardd wyllt a phwll dwr. Mae’r rhain i gyd wedi eu gwahanu oddi wrth ei gilydd, gan wneud defnydd medrus o safle cyfyng, fel y gellir cynnal llawer o weithgareddau yn weddol agos at ei gilydd heb darfu ar ei gilydd.
Wrth i ni gerdded ar hyd y coridor, daeth disgybl ifanc a cherdded gam yn gam â ni a gofyn "Chi’n iawn, mistar?" "Ydyn", oedd ein hateb "ydyn wir".
Dyfernir Plac Teilyngdod 2002 i Ty Newydd, Caernarfon gan Maredudd ab Iestyn, am waith pensaernïol gwreiddiol sydd, trwy gynllunio medrus, yn gwneud y gorau o safle bychan.
Dyfernir Medal Goffa Alwyn Lloyd 2002 i Ysgol Bro Dewi, Tyddewi gan Pembroke Design Cyf., am greu amgylchfyd hyfryd o gyfeillgar ar gyfer plant ac athrawon. Pwy a wyr pa athrylith y dyfodol fydd yn cael ei feithrin yma?
James Carter, David Thomas |
 |