 | Dewis y Bobl
Enillydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Benfro, Tyddewi 2002
Y gwaith a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau oedd paentiadau Ifor Davies, Penarth a enillodd Y Fedal Aur mewn Celfyddyd Gain hefyd.
Gwobr £500 (£500 Alun Davies, Yr Oriel, Porthgain) i’r darn neu’r casgliad mwyaf poblogaidd o waith yn yr arddangosfa o gelf a chrefft cyfoes.
Gwahoddwn chi i edrych yn fanwl ar y gwaith i gyd cyn penderfynu pwy yw eich ffefryn. Rhowch yr enw ar y papur pleidleisio. Bydd y bleidlais yn cau am 6.00pm nos Iau, 8 Awst er mwyn cael amser i gyfrif y pleidleisiau a chysylltu â'r enillydd.
Cyflwynir y wobr yn y Pafiliwn Celf a Chrefft am 3.00 o'r gloch, ddydd Sadwrn 10 Awst.
Enillydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a’r Cyffiniau 2001
Y gwaith a dderbyniodd y mwyaf o bleidleisiau oedd cyfres ‘Pobl y Capel’Luned Rhys Parri, Y Groeslon.
|
 |